sally hawkins as jane in eternal beauty, watching TV and drinking from a little milk carton

Ffilmiau newydd o gymru y gallwch eu gwylio nawr

Mae'r ffilmiau diweddaraf hyn, wedi'u hariannu gan Ffilm Cymru, ar gael i chi eu ffrydio neu eu llawrlwytho a'u gwylio o gartref nawr.

eternal beauty poster

Eternal Beauty

Pan mae Jane yn cael ei gwrthod gan fywyd, mae'n troelli i fyd sgitsoffrenig o anhrefn llwyr lle mae cariad a normalrwydd yn gwrthdaro gyda chanlyniadau doniol.

Roedd perfformiad Sally Hawkins, a gafodd ei henwebu am Wobr yr Academi ac a enillodd y Golden Globe, o ffilm nodwedd drama-ramant ddyfeisgar, emosiynol Craig Roberts yn arbennig ac yn cael ei gefnogi gan gast o sêr gan gynnwys Billie Piper, David Thewlis, Morfydd Clark, Alice Lowe, Penelope Wilton, Bob Pugh a Paul Hilton.

nuclear poster

 

Nuclear

Mewn pentref bychan dan gysgod gorsaf niwclear, mae’n rhaid i deulu gwenwynig gyda gorffennol tanbaid wynebu ysbrydion y gorffennol sy’n peryglu eu dyfodol.

Hon yw ffilm antur seicolegol gyntaf yr ysgrifenwraig- gyfarwyddwraig Catherine Linstrum gyda’r sêr  Emilia Jones, George Mackay a Sienna Guillory. Ysgrifennwyd Nuclear gan Catherine Linstrum gyda David J Newman, ac fe’i cynhyrchwyd gan Stella Nwimo drwy gynllun Sinematig Ffilm Cymru.

 

concrete plans poster

 

Concrete Plans

Gan gredu eu bod, drwy ddamwain, wedi lladd perchennog y tŷ, mae grŵp brith o adeiladwyr mewn ffermdy anghysbell yn cael eu gyrru i wneud dewisiadau moesol cynyddol dywyll.

Ffilm gyffro newydd yw Concrete Plans wedi’i hariannu gan Ffilm Cymru gan ysgrifennwr- gyfarwyddwr Will Jewell a'r cynhyrchwyr Rob Alexander, Kathy Speirs ac Ian Davies. Yn ogystal â’r sêr Amber Rose Revah, Steve Speirs, William Thomas, Charlie Palmer Rothwell, Goran Bogdan, Chris Reilly, Kevin Guthrie a James Lance, mae gan y ffilm sgôr wreiddiol gan Paul Harnoll, o gewri cerddoriaeth ddawns Orbital.

denmark poster

 

One Way to Denmark

Rydych chi'n ddi-waith, heb sgiliau ac wedi diflasu.  Mae celloedd carchardai Denmarc fel fflatiau moethus gyda theledu a phrydau bwyd am ddim. Beth fyddech chi'n ei wneud? Cael eich arestio, pa mor anodd ydi hynny?

Seren y gomedi gymdeithasol hyfryd hon yw Rafe Spall, a chafodd ei gwneud gan yr ysgrifennwr Jeff Murphy, y cyfarwyddwr Adrian Shergold a’r cynhyrchwyr Ed Talfan a David Aukin.

a clapperboard in front of a bright stage light

Beacons: Ffilmiau byr o Gymru

Gallwch weld chwe ffilm fer ffantastig gan egin dalent o Gymru ar BBC iPlayer nawr.

Cynhyrchwyd y ffilmiau drwy ein cynllun Beacons:  Ffilmiau byr o Gymru - cydweithrediad rhwng BBC Cymru Wales, Ffilm Cymru Wales a RHWYDWAITH SEFYDLIAD FFILM PRYDAIN, sy'n ceisio troi'r goleui ar–egin wneuthurwyr ffilmiau ym mhob rhan o Gymru.  Y ffilmiau yw:

burial still

Burial

Ysgrifenwyr / Cyfarwyddwyr: Hannah Daniel a Georgia Lee

Drama dywyll ynghylch marwolaeth, chwaeroliaeth, cyfrinachau teuluol a quiche.

catrin stewart in dirt ash meat

Dirt Ash Meat

Ysgrifenwyr / Cyfarwyddwyr: Siôn Thomas

Ymdrech teulu i gadw eu fferm i fynd mewn cyfnod o glwy'r traed a'r genau.

i choose poster

I Choose

Ysgrifenwyr / Cyfarwyddwyr: Tina Pasotra

Yasmin Kaur Barn yn serennu fel Rupi, merch ifanc yn dyheu am fywyd o’i dewis hi.

a teenage girl in an alleyway with a teenage boy behind her

Bitter Sky

Ysgrifenwyr / Cyfarwyddwyr: Jospeh Ollman

Mae Nia’n ceisio dianc o reolaeth gaeth ei thad mabwysiedig, Roy.

catrin stewart as Laura in the arborist, looking up at some green trees

The Arborist

Ysgrifenwyr / Cyfarwyddwyr: Clare Sturges

Mae’r llawfeddyg coed, Laura, yn dychwelyd i’w chartref mebyd i ail afael yn ei pherthynas â’i brawd Joe.

a still from cwch deilen featuring two women watching a sunset while sitting on a dock

Cwch Deilen

Ysgrifenwyr / Cyfarwyddwyr: Efa Blosse-Mason

Animeiddiad Cymraeg ynghylch cariad – antur fwyaf bywyd.