a person on a zoom meeting

Cymhorthfa Talent Ffolio ar gyfer Prosiectau Clywedol

Mae Ffilm Cymru yn cynnal cymorthfeydd talent un-i-un ar gyfer Ffolio ar-lein.

Mae’r sesiynau un-i-un 30 munud yma yn gyfle i chi drafod eich syniadau am brosiect clywedol er mwyn cael cyngor strategol oddi wrth dîm Ffolio, yn ogystal â gwybodaeth am arian a gweithgarwch hyfforddiant Ffilm Cymru.

Dyna i gyd sydd angen i chi wneud yw lawrlwytho zoom.us, archebu slot, ac fe wnawn ni gysylltu â chi.

Ffolio

Mae Ffolio yn bartneriaeth gyffrous rhwng Ffilm Cymru, BBC Cymru, BBC Arts a Chyngor Celfyddydau Cymru. Rhaglen hyfforddiant a datblygu nid-er-elw ydyw sy’n cynnwys mentora a chyfleoedd comisiynu’r BBC. Mae’n addas i dalent creadigol sy’n byw yng Nghymru sydd heb brofiad proffesiynol ym maes cynhyrchu clywedol neu ffilm.

Os ydych yn ddawnsiwr, blogiwr, cerddor, awdur, ffotograffydd, artist graffiti, dylunydd gemau, pypedwr, perfformiwr syrcas, animeiddiwr neu’n broffesiynol greadigol mewn unrhyw ffurf, rydym eisiau clywed oddi wrthych.

Archebwch eich sesiwn un-i-un gyda chynrychiolydd o dîm Ffolio: