a clapperboard in front of a stage light

Cydweithrediad newydd yn rhoi sylw i wneuthurwyr ffilmiau newydd yng Nghymru

Fel rhan o gydweithrediad newydd rhwng BBC Cymru Wales, Ffilm Cymru Wales a BFI NETWORK sy’n anelu i roi sylw i wneuthurwyr ffilm addawol ledled Cymru, mae’r actores Hannah Daniel, ar y cyd â’r gyfarwyddwraig Georgia Lee, wedi ysgrifennu, cyfarwyddo a pherfformio mewn drama gomedi newydd. Yn y ddrama Burial, mae Hannah yn chwarae rôl tripledi wrth iddyn nhw fynd i angladd eu tad.

Bydd y cynllun newydd, Beacons: Short Films From Wales, yn hyrwyddo awduron a chyfarwyddwyr addawol, drwy ddarlledu eu ffilmiau ar deledu’r BBC.

Bydd Burial yn cael ei darlledu ar BBC Two Wales am 10.30pm ar nos Iau 3 Medi. Bydd pum ffilm fer arall yn cael eu darlledu yn ystod y bythefnos ddilynol ar BBC Two Wales a BBC iPlayer. Yn mynd i’r afael â phynciau fydd yn procio’r meddwl, mae gan bob ffilm ei hunaniaeth ei hun ac mae’n tanlinellu ehangder y dalent sy’n dod o Gymru ar hyn o bryd.

Dywedodd Georgia Lee am ei phrofiad hi a Hannah o gynhyrchu’r ffilm: “Ro’dd cynhyrchu Burial yn gydweithio ar ei dyfnaf. O ysgrifennu’r gair cyntaf ar y dudalen, hyd at y broses ffilmio uchelgeisiol a’r gwaith gorffenedig, ry’n ni wedi gweithio fel tîm. Mae wedi bod yn wych. Mae’r profiad o adeiladu’r stori hon o ddim byd i ffilm orffenedig wedi bod mor gyffrous. Ry’n ni wedi dysgu cymaint am wneud ffilmiau ar hyd y ffordd. Ac mae e’ wedi’n gadael ni’n awchu i adrodd y stori nesa ac i wneud y cyfan unwaith eto!”

hannah daniel in burial

Joseph Ollman sy’n ysgrifennu ac yn cyfarwyddo’r ddrama Bitter Sky, gyda’r actores Darci Shaw a Richard Harrington (Hinterland). Wedi’i lleoli mewn ardal wledig yng Nghanolbarth Cymru, mae Harrington yn chwarae rhan Roy, y mae ei ymddygiad o reoli ei lysferch Nia yn ei harwain at geisio dod o hyd i’w mam.

Wedi’i hysbrydoli gan nofel Owen Sheers White Ravens, mae Dirt Ash Meat gan yr awdur a’r cyfarwyddwr Sion Thomas wedi’i gosod yng nghyfnod argyfwng Clwy’r Traed a’r Genau yn 2001.

“Ro’dd cynhyrchu’r ffilm hon yn anhygoel o gyffrous”, dywedodd Sion. “Cafodd ei ffilmio’n gyfan gwbl ar fferm fynydd uwchben Bargoed. Aeth y ffermwr â’r actorion i weithio gyda’r defaid am y dydd, i'w helpu i adeiladu eu cymeriadau. Serch hynny, ar y diwrnod cyntaf wrth i'r holl geir, y faniau a’r lori oleuo anferth ddod i fyny'r lôn gul, i fyny'r bryn tuag at y fferm, fe feddyliais i beth yn y byd ro’n ni wedi’i wneud – ond diolch i’r cast a’r criw, fe wnaethon ni lwyddo i greu darn o waith rwy'n browd ohono."

a teenage girl and boy in an alley

Mae I Choose a The Arborist wedi’u hysbrydoli gan brofiadau go iawn y ddwy wnaeth greu’r ddwy ddrama. Yn y ffilm gan Tina Pasotra, mae I Choose yn dilyn mam ifanc, Rupi, yn dianc rhag ei phartner treisgar, ac yn aberthu popeth i ddianc i Gymru gyda’i dwy ferch fach.

Mae ffilm ddirdynnol yr awdur a’r gyfarwyddwraig Clare Sturges The Arborist gyda Catrin Stewart (Bang; hefyd yn Dirt Ash Meat) a Rhodri Meilir (Hidden, In My Skin) yn stori am ba mor boenus, anodd ac angenrheidiol yw derbyn marwolaeth rhywun annwyl.

“Mae The Arborist yn ddarn o waith gwreiddiol sy’n tynnu ar fy mhrofiadau o golli fy efaill. Mae’n archwilio natur ysgubol galar a phŵer gwrthrychau, atgofion a’r cwlwm teuluol sy’n ein helpu i fyw gyda cholled”, dywedodd Clare. “Er mai trychineb sydd wrth wraidd The Arborist, fy ngobaith yw y bydd cynulleidfaoedd yn teimlo eu bod yn cael eu gwobrwyo'n emosiynol ac yn weledol wrth weld stori Laura a Joe yn datblygu.”

catrin stewart looks up at trees

Cwch Deilen fydd yn cwblhau’r ffilmiau byrion ar nos Iau 17 Medi. Bydd y ffilm fer Gymraeg sydd wedi’i hanimeiddio, a gafodd ei hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Efa Blosse Mason, yn archwilio’r llawenydd a'r ofn sy’n cael eu profi yn nyddiau cynnar perthynas.

Dywedodd Pennaeth Comisiynu Cynnwys BBC Cymru, Nick Andrews, am y cynllun, “Mae mor gyffrous i weld y genhedlaeth nesaf o dalent cynhyrchu ffilmiau yn datblygu o flaen ein llygaid, ac o gofio’r hinsawdd sydd ohoni, mae mentrau fel hyn yn bwysicach nag erioed. Mae’r straeon byrion hyn yn mynd i gael eu mwynhau gan gynulleidfaoedd ledled Cymru a’r DU, sy'n rhywbeth y gall pob un ohonom fod yn falch iawn ohono”.

Ychwanegodd Jude Lister o Ffilm Cymru Wales: “Mae Ffilm Cymru a BFI NETWORK Wales yn falch iawn o allu cydweithio â BBC Cymru i ddatblygu, ariannu a darlledu ffilmiau byrion gan wneuthurwyr ffilmiau addawol a hynod dalentog. Ry’n ni’n gyffrous o allu rhannu pob un o’r straeon unigryw ac apelgar hyn o Gymru gyda chynulleidfaoedd.”

a cartoon of two women watching a sunset from a dock

Amserlen lawn ‘Beacons: Short Films From Wales’

Burial – Nos Iau 3 Medi, 10.30pm, BBC Two Wales
Dirt Ash Meat – Nos Wener 4 Medi, 10.30pm, BBC Two Wales
I Choose – Nos Fawrth 8 Medi, 10.30pm, BBC Two Wales
Bitter Sky – Nos Iau 10 Medi, 10.30pm, BBC Two Wales
The Arborist – Nos Wener 11 Medi, 10.30pm, BBC Two Wales
Cwch Deilen – Nos Iau 17 Medi, 11.30pm, BBC Two Wales