screen careers logo

Gyrfaoedd Sgrin: Rheolwr Lleoliadau

Bydd y lleoliad lle caiff ffilm ei saethu yn effeithio’n fawr iawn ar olwg, teimlad a stori’r ffilm. Gwaith y Rheolwr Lleoliadau yw dod o hyd i’r lle hwnnw yn y byd go iawn a gwneud yn siŵr ei fod yn hygyrch a diogel ac nad yw’n rhy ddrud i’w logi.

Paul Bach Davies

Dilyniant Gyrfa

  • 1982-83 – Cynllun hyfforddiant rheolwr llwyfan yn Theatr Felinfach yng Ngheredigion.
  • 1983 - 1991 – Rheolwr llwyfan teithiol llawrydd ar amryw gynyrchiadau theatr ledled Cymru.
  • 1991 - 1992 – Rheolwr llwyfan cynorthwyo gydag ITV Wales, yn gweithio’n bennaf ar ddramâu stiwdio ac ar
  • leoliad.
  • 1993 - 1995 – Rhedwr / 3ydd cyfarwyddwr cynorthwyol llawrydd ar amryw ddramâu i S4C / BBC Cymru.
    1995 -  Rheolwr lleoliad ar gyfres ddrama Pris y Farchnad i S4C (dyma oedd achos o gael fy nhaflu i mewn i’r pen dwfn).
  • 1995 -2020 – Rheolwr lleoliad goruchwyliol a rheolwr lleoliad ar bob math o ddramâu/ffilmiau/hysbysebion i’r rhan fwyaf o’r rhwydweithiau.

Nodau Gyrfa I’r Dyfodol

  • Fy mhrif nod yw dod o hyd i unigolion sy’n awyddus i ddatblygu gyrfa ym maes rheoli lleoliad, a’i wneud yn iawn.   

Uchafbwyntiau Gyrfa

  • Gofalu am unigolion gwych, eu meithrin a’u cyfeirio i’r cyfeiriad cywir, a hwythau bellach wedi gwneud enw da i’w hunain yn y diwydiant ffilm a theledu. Gallaf feddwl am o leiaf 14 ohonynt.
  • O ran prosiect penodol, mae’n rhaid mai Gwyll/Hinterland yw’r ddrama leoliad fwyaf boddhaol i mi wneud.
portrait of paul bach davies