beacons short film fund webinar: live action fiction & animation. 18:00. 15.05.2023

Gweminar Beacons: Ffuglen Byw Ac Animeiddio

15th May 2023, 6:00

Mae Cronfa Ffilmiau Byr Beacons yn cael ei rhedeg yn flynyddol gan Ffilm Cymru a RHWYDWAITH BFI Cymru mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales. Mae’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chynhyrchu ffilmiau byr gan gyfarwyddwyr sy’n dod o Gymru neu sy’n byw yng Nghymru.

Ymunwch â’r weminar yma, sy’n rhad ac am ddim, i ddarganfod rhagor am Beacons, fydd yn ail-agor i dderbyn ceisiadau ym Mai 2023.

Cewch awgrymiadau am yr hyn yr ydym yn chwilio amdano mewn cais ar gyfer Cronfa Beacons, a sut mae sicrhau bod eich cais chi’n sefyll allan. Yn ymuno â ni hefyd bydd y timau creadigol oedd yn gyfrifol am ffilm fer ffuglen ‘fyw’ Beacons, Staying/Aros Mae - sef yr awdur-gyfarwyddwr Zillah Bowes, a’r cynhyrchydd Jack Thomas-O’Brien, a Spectre Of The Bear, ffilm fer wedi ei hanimeiddio - sef yr awdur Ioan Morris, a'r cyfarwyddwr Josh Hicks. Byddant yn rhannu eu profiadau o wneud ffilmiau byr yn sgil cefnogaeth gan y gronfa.

Mae Beacons yn darparu cyllid yn ogystal â chymorth creadigol ac ymarferol, hyfforddiant a chyfleoedd mentora i helpu gwneuthurwyr ffilm i ddatblygu eu gyrfaoedd. Mae ffilmiau byr sydd wedi eu cynhyrchu drwy'r cynllun wedi cael llwyddiant mewn gwyliau, wedi ennill nifer o wobrau, wedi eu darlledu ar BBC Cymru a'u rhyddhau ar iPlayer. Mae rhagor o wybodaeth am Beacons ar gael yma. 

Sylwch ein bod yn cynnal digwyddiad ar-lein arall sy'n canolbwyntio'n benodol ar Raglenni Dogfen ar ddydd Iau 11eg Mai am 2pm. Rydym yn eich gwahodd i gofrestru ar gyfer y digwyddiad sydd, yn eich barn chi, yn fwyaf perthnasol i chi – wrth gwrs mae croeso i chi gofrestru ar gyfer sawl sesiwn wahanol.

Bydd y sesiwn yn para am 90 munud gydag egwyl fer yn y canol, a bydd cyfle i chi holi cwestiynau. Darperir capsiynau byw a dehongliad BSL, fodd bynnag, os oes gennych unrhyw gwestiynau neu anghenion mynediad, cysylltwch â Tracy Spottiswoode ar tracy@ffilmcymruwales.com neu ffoniwch 07902 492109 i drafod yn gyfrinachol.