crafting non-fiction shorts

Crefftio Ffilmiau Byrion Ffeithiol

11th May 2023, 2:00

Rydym yn gwahodd gwneuthurwyr ffilm ac artistiaid newydd sy’n byw neu’n dod o Gymru i ymuno â ni mewn sesiwn ar-lein arbennig ar y grefft o greu dogfennau byrion sy’n chwalu ffiniau. 

Byddwn yn rhannu arweiniad ynglŷn â Chronfa Ffilmiau Byrion Beacons a Chronfa Dogfennau Ffeithiol y BFI: Made of Truth (sy’n agor ym mis Mai), yn ogystal â chlywed am adnoddau Rhwydwaith Cefnogi Dogfennau Cymru a phwy y dylech gysylltu â nhw i’ch cynorthwyo ar eich taith. 

Cawn hanes teithiau creadigol y gwneuthrwyr ffilm sydd wedi elwa o’r rhaglenni uchod:

  • Cyfarwyddwyr Frontier Town, Tom & Theo Tennant a’r cynhyrchydd Alice Hughes (Made of Truth),
  • Chyfarwyddwr Forest Coal Pit, Sion Marshall-Waters a’r uwch gynhyrchydd Alice Lusher (Beacons).

Mae’r digwyddiad hwn ar gael yn rhad ac am ddim, ac mae croeso i bawb sydd wedi eu geni neu sy’n byw yng Nghymru, sy’n datblygu gwaith creadigol ym maes dogfen i ymuno. 

Bydd y sesiwn yn para am 90 munud gydag egwyl fer yn y canol, a bydd cyfle i chi holi cwestiynnau. Bydd capsiynu byw a dehongliad BSL yn cael eu darparu, ond os oes gennych unrhyw gwestiwn neu anghenion mynediad cysylltwch â Tracy Spottiswoode ar tracy@ffilmcymruwales.com neu ffoniwch 07902 492109 i drafod yn gyfrinachol.

Sion Marshall-Waters

Mae Siôn Marshall-Waters yn wneuthurwr ffilm o Gymru sy’n byw ym Mryste ar hyn o bryd. Gyda chefndir mewn anthropoleg gweledol a dogfen, mae ei waith yn ymdrin â phobl a llefydd mewn dull ethnograffig penodol. Cafodd ei ffilm fer Forest Coal Pit, a ariannwyd gan RHWYDWAITH y BFI, ei dewis yn ddiweddar ar gyfer Gwobr Grierson, a chafodd ei dangos mewn sawl gŵyl gan gynnwys Gŵyl Ffilm  y BFI Llundain, Gŵyl Ffilm Rynglwadol Caeredin a Gŵyl Ffilm Ryngwladol Cork. 

Alice Lusher

Mae gan Alice dros 20 mlynedd o brofiad mewn HETV a ffilmiau annibynnol. Bu iddi sefydlu adran ddrama ie ie productions yn 2015, yn sgil cefnogaeth gan Ffilm Cymru Wales a Gwobr Vision y BFI. Drwy adeiladu llechen eang o brosiectau ffilm a theledu mae wedi ehangu enw’r cwmni wrth iddynt greu cynnwys aml-blatfform arloesol, gan weithio gyda thalent newydd a phrofiadol, yn ogystal â chynnal gweithdai lefel mynediad ar gyfer y diwydiant. Wedi ei hysbrydoli gan bobl greadigol sy’n gweithio mewn nifer o ddisgyblaethau, mae’n cydweithio ag awduron a chyfarwyddwyr i adrodd straeon lleisiau sy’n cael eu tan-gynrychioli, ac i ddarganfodd ffyrdd cynaliadwy iddynt wireddu eu gweledigaeth - gan greu gwaith ffilm a theledu sy’n fasnachol gynaliadwy i gynulleidfaoedd byd-eang. Mae ei ffilmiau byrion arobryn wedi eu dangos yn rhyngwladol. Yn 2018/19 bu iddi gynhyrchu Merched Parchus - cyfres ddrama ddwyieithog S4C a enwebwyd am sawl gwobr. Yn ddiweddar mae wedi bod yn cyd-gynhyrchu ffilm nodwedd gyntaf Andrew Legge, LOLA, gyda’r cwmni Gwyddelig Cowtown Pictures, ac wedi bod yn uwch-gynhyrchu ffilm ddogfen fer cynllun Beacons, Forest Coal Pit.

Tom a Theo Tennant

Daw’r ddau frawd Tom & Theo o’r DU, ac mae’r ddau’n gwneud ffilmiau. Maent wedi gwneud ffilmiau gyda’r BBC a’r BFI, ac mae eu ffilmiau wedi eu dangos mewn gwyliau cymhwyso BAFTA, yn ogystal â derbyn enwebiadau yng Ngwobrau UKMVA ac 1.4. Cafodd eu ffilm Maesteg ei dangos ar BBC Four a chael ei dangos ar Short of the Week. Cafodd eu ffilm fer ffuglenol, Control ei dewis mewn gwyliau’n fydeang ac mae wedi ei gwylio dros 350,000 ar-lein. Cafodd ffilm fer Tom, The Bechdel Test, ei dewis ar gyfer Gŵyl Ffilmiau Byrion Llundain a chafodd ei ffilm 8mm, Mamá, ei dewis fel un o 25 ffilm gorau Straight 8’s yn 2020. Mae Theo hefyd yn gweithio fel sinematograffydd. Ef oedd yn gyfrifol am saethu Jeremy Kyle: Death on Daytime, sioe Sianel 4 gafodd ei henwebu am Wobr Grierson, a’r ffilm ddogfen-ffuglen Black Ice, a enillodd bensil bren yn y D&ADs. Pan oedd yn astudio Celfyddyd Gain yn Central St Martins bu i Theo sefydlu Cinema & Co – gofod celfyddydol a sinema yn Abertawe, Cymru.

Alice Hughes

Mae Alice Hughes yn gynhyrchydd arobryn ac wedi’i henwebu ar gyfer gwobrau BIFA a Grierson. Mae ei gwaith wedi’i ddangos mewn sinemâu, mewn gwyliau cymhwyso BAFTA (gan gynnwys Sundance Llundain, Gŵyl Ffilm Caeredin a Doc NYC) ac ar-lein ar BFI Player, Amazon ac Apple TV. Arweiniodd llwyddiant ei ffilm nodwedd gyntaf Half Way i’r cyfarwyddwr, Daisy May Hudson, gael ei henwi’n ‘BAFTA Breakthrough Brit’ yn 2017. Cyrhaeddodd ei ffilm fer, Motherland, restr fer Grierson yn 2020, a’i henwebu am wobr sinematograffi BSC. Enillodd ei ffilm ddogfen fer, Until The Tide Creeps In, wobr y rhaglen ddogfen orau a ffilm orau’r ŵyl yn Aesthetica yn 2022, a chafodd ei ffilm ddiweddaraf Puffling ei dangos am y tro cyntaf yn SXSW yn 2023. Mae ffilmiau Alice wedi eu hariannu ddwywaith gan Gymdeithas Ddogfen y BFI, yn ogystal â Field o Vision, Emergence Magazine a Chronfa Rooftop Film, ac mae ei gwaith wedi cael sylw ar Nowness, Short of the Week a Vimeo Staff Pick.

Angela Clarke

Mae Angela Clarke yn wneuthurwr ffilm o’r Alban sy'n byw yng Nghymru. Am y 19 mlynedd diwethaf mae Angela wedi bod yn gyfrifol am gynhyrchu, cyfarwyddo a datblygu cynnwys teledu ffeithiol ar gyfer darlledwyr y DU a darlledwyr rhyngwladol. Yn 2019 sefydlodd Wheesht Films, cwmni cynhyrchu annibynnol wedi’i leoli yng Nghaerdydd, ar ôl i’w ffilm ddogfen fer annibynnol gyntaf, Bachelor, 38 gael ei henwebu am BAFTA ar gyfer y Ffilm Fer Brydeinig Orau yn 2019. Yn 2021, lansiodd One Stop Doc Shop i Wheesht Films, platfform ar-lein rhad ac am ddim gyda'r nod o annog a chefnogi amrywiaeth gynhwysol o fenywod dibrofiad a gwneuthurwyr ffilm anneuaidd yn y byd ffilmiau dogfen. Lansiwyd y prosiect gyda chefnogaeth Screen Alliance Wales, Ffilm Cymru Wales a RHWYDWAITH y BFI gyda chyllid gan y Loteri Genedlaethol. Yn 2022, lansiodd Wheesht Films Rwydwaith Cefnogi Dogfennau Cymru, prosiect aml-gam sy’n cynnwys gweithgareddau ar-lein ac wyneb yn wyneb a gynlluniwyd i adnabod, cefnogi, ymgysylltu â, dyrchafu ac addysgu’r garfan bresennol o wneuthurwyr ffilmiau dogfen yng Nghymru.