gwenfair talking to a filmmaker

Horizons: Datblygu Gyrfa

Currently closed for applications

Yn sgil cynnig BFI NETWORK Wales ‘rydym yn cefnogi gwneuthurwyr ffilm newydd talentog o Gymru drwy gynnig cynlluniau datblygu personol clir fydd yn eu cynorthwyo i gyrraedd y cam nesaf yn eu gyrfa.

bfi network wales logo

Pwy all ymgeisio?

Awduron, cynhyrchwyr neu gyfarwyddwyr a aned neu sydd wedi eu lleoli yng Nghymru sydd eisoes wedi cwblhau rhywfaint o waith ar gyfer y sgrin ond nad ydynt hyd yma wedi arwain ar ffilm nodwedd gyda chyllideb sy’n uwch na £1 miliwn.

Am faint gai ymgeisio?

Hyd at £6,000.

Beth sydd angen arnaf i ymgeisio?

Ffurflen gais wedi ei chwblhau, CV a chyswllt i ddarn o waith ’rydych wedi ei wneud ar gyfer y sgrin, neu sgript ffilm, neu drosolwg o’ch llechen.

Canllawiau

I gael rhagor o wybodaeth am ein harian ar gyfer Horizons darllenwch ein Canllawiau Horizons.

Mae’r ffurflenni cais ar gael isod, ac unwaith i chi eu cwblhau rhaid eu gyrru at network@ffilmcymruwales.com. Byddwn yn gwneud ein penderfyniadau chwech i wyth wythnos wedi i chi yrru’r cais atom.