a woman in new york

Horizons: Cyllid Datblygu i Wneuthurwyr Ffilm Newydd Addawol

Currently closed for applications

Yn sgil ein cynnig gyda BFI NETWORK WALES, mae Ffilm Cymru yn datblygu ffilmiau nodwedd o’r safon uchaf posib, boed hynny’n ffilmiau byw (live-action), ffilmiau dogfen neu ffilmiau wedi eu hanimeiddio gan wneuthurwyr ffilm newydd addawol.

Gallwn eich tywys drwy’r broses ddatblygu gyda chyllid pwrpasol a chyngor arbenigol.

bfi network wales logo

Pwy all ymgeisio?

Tîm awdur / cynhyrchydd sydd â rhywfaint o brofiad o weithio ym maes sgrin ond nad ydynt hyd yma wedi arwain ar ffilm nodwedd gyda chyllideb o dros £1 miliwn. Dylai naill ai’r awdur, y cynhyrchydd neu’r cyfarwyddwr sy’n arwain ar y prosiect fod wedi ei g/eni neu ei l/leoli yng Nghymru.

Am faint gai ymgeisio?

Hyd at uchafswm o 10k ar gyfer cam penodol o’r gwaith datblygu – gellid defnyddio’r arian ar gyfer costau sy’n ymwneud ag ail-edrych ar y driniaeth, drafftiau o sgript, profion cysyniad neu gostau pecynnu.

Beth sydd angen arnaf i ymgeisio?

Yn ogystal â ffurflen gais wedi ei chwblhau, bydd angen sgript ar gyfer y prosiect os ar gael, neu driniaeth a sampl o’r sgript ar gyfer y sgrin, a CVs ar gyfer aelodau allweddol y tîm creadigol.

 

Canllawiau

I gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Horizons darllenwch ein Canllawiau Horizons.

Mae’r ffurflenni cais ar gael isod, ac unwaith i chi eu cwblhau rhaid eu gyrru at network@ffilmcymruwales.com. Byddwn yn gwneud ein penderfyniadau chwech i wyth wythnos wedi i chi yrru’r cais atom.