the SHIFFT script lab logo

Connector: SHIFFT Script Lab

SHIFFT SCRIPT LAB: labordy sgriptio ar gyfer awduron sgrin sy’n ymarddel fel menywod ac fel  personau anneuaidd yng Nghymru.

Drwy gefnogaeth Cronfa Connector Ffilm Cymru a RHWYDWAITH y BFI Cymru yn 2017 a 2019, bu i’r labordy roi cyfle i awduron sgrin rannu a derbyn adborth ar waith mewn datblygiad.

Bu i’r rhaglen gynnig sesiynau gydag actorion yn darllen y gwaith, sesiwn nodiadau gydag un o Fentoriaid y Diwydiant, a chefnogaeth ac adborth gan gyd-awduron. Y nod oedd meithrin awduron, buddsoddi mewn straeon a arweinid gan fenywod, a hybu menywod fel cynhyrchwyr cynnwys.

Nod SHIFFT SCRIPT LAB oedd cefnogi ysgrifennwyr Cymraeg drwy’r broses greu, gan greu cymuned  bwrpasol i gynorthwyo i ddatblygu gwaith newydd. Derbyniodd 48 o gyfranogwyr gefnogaeth yn ystod y pedwar labordy a gynhaliwyd.

Mae cangen o’r labordy’n dal i gael ei chynnal yn Toronto – FEM SCRIPT LAB.