black and white photo of ruth mcelroy at a networking event, holding a glass and laughing

Ruth McElroy yn rhoi’r gorau i fod yn Gadeirydd

Ar ôl cyfnod o ddau dymor fel Cadeirydd Ffilm Cymru Wales, bydd yr Athro Ruth McElroy yn rhoi'r gorau iddi ym mis Rhagfyr 2024. Fan yma, mae'n myfyrio ar ei hamser gydag asiantaeth ddatblygu’r byd ffilm yng Nghymru, sut mae'r sefydliad wedi esblygu dros y chwe blynedd diwethaf, ac effaith Ffilm Cymru Wales ar y sector sgrin.

Ymunodd Ruth â Ffilm Cymru Wales fel Cadeirydd yn 2018, gan ddod â'i harbenigedd a'i phrofiad sylweddol: Pennaeth Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant ac Iaith, Prifysgol Bangor, cyd-gyfarwyddwr Canolfan Astudio'r Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach, cynrychiolydd Cymru ar Fwrdd Cynnwys Ofcom ac aelod o grŵp Polisi’r Cyfryngau yn y Sefydliad Materion Cymreig. 

Dechreuodd ar ei gyrfa academaidd yn ymgymryd â PhD ac yn addysgu fel cynorthwyydd graddedig ym Mhrifysgol Lancaster yn y Sefydliad Astudiaethau Menywod. Ers hynny, mae wedi dal swyddi academaidd mewn pum prifysgol yn y DU ac wedi gweithredu fel arholwr allanol mewn sawl un arall. Cyn ei rôl ym Mhrifysgol Bangor, roedd Ruth yn Bennaeth Ymchwil Cyfadran ac yn Athro'r Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol De Cymru.

Yn ystod cyfnod Ruth yn Ffilm Cymru Wales, mae’r sefydliad wedi parhau i ddatblygu a meithrin diwydiant ffilm ffyniannus yng Nghymru, tra'n ymdrin â thoriadau ariannol, newidiadau cyflym i fodelau busnes a phandemig byd-eang.

Goruchwyliodd y gwaith o ariannu ffilmiau gwych o Gymru fel Chuck Chuck Baby, Gwledd / The Feast, ffilm ddogfen Donna a ffilm antur animeiddiedig Kensuke’s Kingdom. Arweiniodd y sefydliad at ehangu ei raglen hyfforddi lwyddiannus, Troed yn y Drws, a bu’n helpu i greu cydweithrediadau ffrwythlon gyda Chymru Greadigol, S4C a Media Cymru.

Wrth iddi baratoi i gamu o’r neilltu, gofynnon ni i Ruth am ei meddyliau am Ffilm Cymru Wales, ei chyfnod fel Cadeirydd, a dyfodol y sector sgrin yng Nghymru. 

Sut fu eich amser fel Cadeirydd Ffilm Cymru Wales?
Mae wedi bod yn fraint aruthrol cael gwasanaethu fel Cadeirydd Ffilm Cymru Wales. Fel merch ddosbarth gweithiol a oedd wrth ei bodd yn gwylio ffilmiau BBC2 gyda fy mam gartref ar stad cyngor gwledig, fyddwn i byth wedi meddwl ei bod hi'n bosibl i mi wirfoddoli fy amser a fy sgiliau i rôl mor wych. Roedd rhai adegau'n anodd, wrth gwrs – roedd llywio drwy Covid19 yn heriol tu hwnt, er fy mod i’n credu ei fod hefyd wedi dod â llawer o bobl frwdfrydig a gofalgar at ei gilydd gyda nod cyffredin o wneud popeth o fewn ein gallu i gynnal gwneuthurwyr ffilmiau. Efallai na fyddaf i byth yn teimlo mor ddefnyddiol eto!

Sut mae'r sefydliad wedi esblygu ac addasu ers i chi gael eich penodi yn 2018?
Mae rhai o'r prif elfennau sydd wedi esblygu yn ymwneud â gwaith partneriaeth Ffilm Cymru, yn enwedig gydag eraill yng Nghymru. Rwyf wrth fy modd ein bod ni wedi gallu gweithio gydag S4C i helpu i ddatblygu gwneuthurwyr ffilmiau iaith Gymraeg a'u prosiectau creadigol cyffrous. Mae Cymru'n lle rhy fach i gadw doniau arbenigwyr ffilm a theledu ar wahân. Mae'n syndod cofio nad oedd Cymru Greadigol wedi ei lansio eto pan ddechreuais i fel Cadeirydd! Mae gweithio gyda'n partneriaid yn Cymru Greadigol wedi bod yn gam go iawn ymlaen, lle mae Ffilm Cymru wedi gallu cynnig dealltwriaeth a deallusrwydd gwirioneddol ar lefel Bwrdd a chwmni ynghylch gwneud penderfyniadau am gyllido ffilmiau.

Pa heriau ydych chi wedi'u gweld yn y sector?
I ddechrau, roedd rhoi datblygu sgiliau a thalent cynhwysol ar yr agenda yn dipyn o frwydr. Nid dyna’r sefyllfa erbyn hyn. Yr her nawr yw sicrhau bod sgiliau, addysg, a hyfforddiant canol gyrfa yn arwain at yrfaoedd mwy diogel. Gyrfaoedd lle nad yw pobl yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw adael ar ôl rhyw ddegawd o waith caled.

Yr her enfawr arall, wrth gwrs, yw'r newidiadau yn y model busnes sy'n sail i ariannu ffilmiau. Ni fu rôl cyllidwyr cyhoeddus erioed mor hanfodol a heriol o ystyried y pwysau ar bwrs y wlad.

Pa effaith mae Ffilm Cymru Wales wedi'i chael ar y sector sgrin? 
Mae Ffilm Cymru Wales, ar lawr gwlad, yn hyrwyddo gwneuthurwyr ffilmiau a’r byd ffilmiau yng Nghymru. Mae'r cwmni wedi ymyrryd ar gamau cynnar yn natblygiad gwneuthurwyr ffilmiau, gan helpu i feithrin eu talent a'u cysylltu â'r diwydiant ledled y DU a'r byd. Trwy ystod o ymyriadau, o rwydweithiau talent i gymorth i gwmnïau, mae Ffilm Cymru wedi helpu i dyfu sylfaen ffilmiau Cymru, gan gynhyrchu ffilmiau y mae cynulleidfaoedd a gwyliau eisiau eu gweld.

Beth hoffech chi weld mwy ohono yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru?
Mwy o hyder, mwy o eiriolaeth weithredol gan lunwyr polisi, mwy o fuddsoddiad ar ffurf cyllid preifat yn ogystal â chyllid cyhoeddus a mwy fyth o uchelgais. Rwy'n credu'n gryf mewn gorfodi eraill i ddweud 'na' wrthych chi yn hytrach na'ch bod chi'n dweud 'na' wrth eich gweledigaeth a'ch dyhead eich hun.

Lle ydych chi'n gweld Ffilm Cymru Wales a sector sgrin Cymru mewn chwe blynedd arall?
O dan arweinyddiaeth hynod dalentog uwch dîm rheoli gwych wrth gwrs! Does gen i ddim amheuaeth y bydd Amanda yn dod â'i chyfoeth o arbenigedd, craffter a gofal i rôl y Cadeirydd – ymlaen!