Poster a ffilm ragflas newydd yn eich gwahodd i’r Wledd
Mae’n bleser gan Picturehouse Entertainment lansio’r ffilm ragflas a’r poster newydd ar gyfer ffilm eco-arswyd newydd Gymraeg Lee Haven Jones, Gwledd, a gaiff ei rhyddhau mewn sinemâu ar 19eg Awst.
Pan fo teulu cefnog a’u gwesteion yn dod ynghyd i gael swper mewn ardal ddiarffordd yng nghefn gwlad Cymru, nid oes ganddynt syniad o’r hyn sydd o’u blaenau. Mewn tŷ moethus newydd, mae gan y teulu fenter fwyngloddio werthfawr yn y fantol ac mae’r awyrgylch yn ddwys. Daw menyw ifanc ddirgel i weini arnynt, ac mae ei phresenoldeb yn aflonyddus. Wrth i’r noson fynd rhagddi, mae’n dechrau herio credoau’r teulu a datod y rhith y maent wedi’i wau, gan arwain at ganlyniadau araf, bwriadol a dychrynllyd.
Wedi’i chyfarwyddo gan Jones a’i hysgrifennu a’i chynhyrchu gan Roger Williams, sêr y ffilm Gwledd yw Annes Elwy, Nia Roberts a Julian Lewis Jones ynghyd â Sion Alun Davies, Steffan Cennydd, Rhodri Meilir, a Lisa Palfrey.
Cynhyrchwyd Gwledd drwy gynllun Sinematig Ffilm Cymru Wales ac fe’i cyllidwyd gan S4C, Ffilm Cymru Wales, BFI (gan ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol) a Fields Park. Cynhyrchwyd y ffilm ar y cyd â Melville Media Limited gyda chymorth Great Point Media.