Norman Porter
Oedran: 35
O: Wattsville
Cynyrchiadau: Apostle, Denmark, Eternal Beauty, Dream Horse
Adran: Yr Adran Gelf
“Cyn gwneud fy hyfforddiant Troed yn y Drws roeddwn i’n teimlo fod yna rai pethau'n fy rhwystro rhag cael gyrfa yn y diwydiant ffilm a theledu: Diffyg profiad a gwybodaeth berthnasol o’r diwydiant, diffyg cysylltiadau a dim trwydded yrru.”
“Yn gyntaf oll, mae Troed yn y Drws wedi fy helpu i gael y profiad yr oeddwn i wirioneddol ei angen yn y diwydiant, gan gynnwys dod i wybod llawer mwy am yr adran gelf; beth mae’r math hwn o waith yn ei olygu a beth sy’n cael ei ddisgwyl ohonoch fel adran. Roedd yr hyfforddiant yn help ar y dechrau i fagu brwdfrydedd ac i dawelu unrhyw nerfau ac mae’r swyddi hirach wedi dangos i mi fy mod i’n gallu ymdopi â shifftiau nos hir ar ben mynydd unig mewn tywydd drwg yn y gaeaf,.”
“Ers fy lleoliad Troed yn y Drws cyntaf ar Apostle, rwyf wedi gweithio ar dair ffilm nodwedd arall yn yr Adran Gelf. Rwyf hefyd wedi treulio'r chwe mis diwethaf yn gweithio i Wild Creations fel Gorffennwr yn gwneud celfi a setiau ar gyfer nifer o brosiectau proffil uchel cyfrinachol. Ar hyn o bryd, rwyf ar ganol cwrs gyrru a fydd yn agor mwy o gyfleoedd i mi yn y dyfodol.”
“Buaswn yn bendant yn argymell Troed yn y Drws 100%! Ond, dim ond os ydyn nhw’n meddwl eu bod, neu y gallen nhw fod, yn eithriadol o angerddol amdano. O’m profiad i, mae’n ddewis o ffordd o fyw. Yn y tymor hir mae’r oriau’n gallu bod y llethol, mae straen newidiadau munud olaf yn gallu bod yn enfawr ac mae camgymeriadau’n gallu bod yn ddrud. Ond os nad yw hynny’n eich poeni chi... ewch amdani, fe fyddwch chi wrth eich bodd!”
Norman has also received a Ymddiried / Welsh Broadcasting Trust Bursary to continue his driving lessons and complete his driving test, which will allow him further opportunities in the creative industries.