Jo Pearce

jo pearce

Jo Pearce yw Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Creadigol Bright Branch Media, cwmni cynhyrchu sydd â dau arbenigedd; y cyntaf mewn rhaglenni teledu di-sgript a'r ail mewn cynnwys cymdeithasol a thu ôl i'r llenni o’r radd flaenaf i farchnata dramâu a ffilmiau yn rhyngwladol.

Cyn sefydlu Bright Branch yn 2019, Jo oedd y Cyfarwyddwr Comisiynu Digidol a Chreadigol ar gyfer BBC Drama. Ar draws ei deunaw mlynedd o yrfa yn y gorfforaeth, cynhyrchodd Jo gynyrchiadau ffeithiol di-sgript, chwaraeon a drama a bu’n creu gwasanaethau digidol newydd ac arloesol i'r darlledwr. Yn sgil ei llwyddiant wrth ennill cynigion cynhyrchu mewnol, fe’i galluogwyd i sefydlu'r tîm Drama Digidol arobryn, gan hefyd arloesi yn y gwaith o greu’r sianel gymdeithasol ieuenctid, BBC Sesh, ar gyfer BBC Cymru.

Yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Creadigol BBC Drama, roedd Jo yn gosod strategaeth ddigidol a chreadigol ar gyfer rhai o frandiau mwyaf llwyddiannus y BBC, ac roedd ei rôl gomisiynu digidol yn BBC Cymru yn ei galluogi i ddatblygu talent newydd o Gymru drwy BBC Sesh. Yn fwyaf diweddar, fel Cyfarwyddwr Creadigol ar gyfer Bright Branch, bu Jo yn datblygu un o raglenni mwyaf llwyddiannus BBC Three, Doctor Who: Unleashed, ochr yn ochr ag Inside Longleat ar gyfer Channel 5, gan wasanaethu fel Cynhyrchydd Gweithredol. Mae hi hefyd yn goruchwylio’r gwaith o gynhyrchu cynnwys digidol a wneir gan y cwmni ar draws llechen o gynyrchiadau o’r radd flaenaf ar gyfer sianeli rhwydwaith y DU, ffrydwyr byd-eang a dosbarthwyr.