Ffilm Cymru Wales yn penodi Cadeirydd newydd
Bydd Amanda Rees yn arwain Bwrdd Ffilm Cymru Wales o fis Rhagfyr ymlaen, gan helpu i lywio’r asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilmiau yng Nghymru drwy gyfnod newydd yn ei hesblygiad.
A hithau’n arweinydd yn y diwydiannau creadigol gyda hanes o gyflawni rhagoriaeth ar draws pob agwedd ar ei gyrfa, mae Amanda ar hyn o bryd yn gweithio fel Ymgynghorydd Busnes, mae’n Aelod Gweithredol o Bwyllgor Cynghori Cymru Ofcom ac yn Is-Gadeirydd yr asiantaeth ddatblygu, Cwmpas. Cyn hynny, roedd Amanda yn Gyfarwyddwr Cynnwys ac wedi hynny yn Gyfarwyddwr Llwyfannau i’r darlledwr Cymraeg S4C, lle comisiynodd bortffolio aml-genre o raglenni cyn arwain strategaeth cynnyrch a llwyfannau newydd i wella arlwy digidol S4C.
Mae gwaith Amanda fel gwneuthurwr ffilmiau dogfen a enillodd gwobr BAFTA yn cynnwys Finding Mum and Dad a Revenge Porn ar gyfer Channel 4. Mae wedi ffilmio mewn dros 35 o wledydd, gan gynhyrchu rhaglenni ffeithiol ar gyfer sianeli byd-eang fel National Geographic, BBC a’r History Channel.
Mae gan Amanda radd Meistr mewn Busnes a Seicoleg Sefydliadol, mae hi'n gyn-ysgolhaig corawl o Brifysgol Caergrawnt, mae ganddi radd mewn cerddoriaeth ac mae’n siarad Cymraeg yn rhugl.
Medd Amanda: “Rwy’ wrth fy modd gyda’r cyfle i ymuno ȃ Ffilm Cymru ar gyfnod o newid cyffrous, wrth i batrymau defnydd cynulleidfaoedd newid a chydgyfeirio, gan herio’r sector i fod yn fwy creadigol wrth adrodd straeon ac yn arloesol wrth fodelu busnes. Mewn tirwedd mor gyfnewidiol, mae rôl Ffilm Cymru Wales wrth feithrin, cefnogi a datblygu diwydiant ffilm ffyniannus yng Nghymru yn bwysicach nag erioed.
Heddiw mae gan Ffilm Cymru rôl bwysicach nag erioed ac rwy’n disgwyl ymlaen yn fawr at ymgymryd â’r gwaith o hybu a dathlu’r diwydiant ffilm yng Nghymru, ynghyd â’r ystod ryfeddol a rhinweddau’r rhai sy’n creu ffilmiau yng Nghymru, ar lwyfan rhyngwladol.”
Mae Amanda yn ymuno ar adeg brysur i’r asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilmiau yng Nghymru; cafodd y ffilmiau nodwedd a ariannwyd, Unicorns (Sally El Hosaini a James Krishna Floyd), Chuck Chuck Baby (Janis Pugh) a Kensuke’s Kingdom (Kirk Hendry a Neil Boyle) eu rhyddhau yn sinemâu Prydain yr haf hwn, ac yn ddiweddar cwblhawyd y prif waith ffotograffiaeth ar gynyrchiadau newydd Mr Burton a Madfabulous gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol. Mae Ffilm Cymru Wales hefyd ar hyn o bryd yn cynnal dwy o’u rhaglenni hyfforddi i newydd-ddyfodiaid, Foot In The Door, ar draws Casnewydd ac Abertawe gyda chyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, yn cefnogi sinemâu annibynnol a gwyliau ffilm i ymgysylltu â chynulleidfaoedd mewn ffyrdd arloesol, ac yn buddsoddi mewn nifer o brosiectau newydd Gwyrddio’r Sgrîn mewn cydweithrediad â Media Cymru.
Dywedodd Lee Walters, Prif Weithredwr Ffilm Cymru Wales “Rwyf wrth fy modd y bydd Amanda yn ymuno â ni fel Cadeirydd Ffilm Cymru Wales. Drwy gydol ei gyrfa, mae Amanda wedi bod yn eiriolwr brwd dros y celfyddydau ac mae’n dod â chyfoeth o brofiad arwain i’r rôl ar draws y diwydiant darlledu a thu hwnt. Gwn ei bod yn rhannu ein hangerdd dros hyrwyddo talent o Gymru ar lwyfan rhyngwladol, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda hi wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau strategol ar gyfer y blynyddoedd i ddod.”
Bydd Amanda yn dechrau yn ei rôl ym mis Rhagfyr 2024.