Gyrfaoedd Sgrin: Cyfarwyddwr Ffilmiau ac Awdur
Mae’r Sgriptwyr yn ysgrifennu a datblygu sgriptiau i ffilmiau neu ddramâu teledu. Maen nhw’n gwneud hyn naill ai’n seiliedig ar syniad gwreiddiol, drwy addasu stori bresennol yn sgript i’r sgrin neu drwy ymuno â phrosiect presennol (teledu).
Y Cyfarwyddwr yw un o arweinwyr creadigol y ffilm. Nhw sydd â’r weledigaeth greadigol drwy gydol y broses gyfan, o’r gwaith cyn cynhyrchu hyd at y golygu terfynol.
Gareth Evans
Mae Gareth Evans yn gyfarwyddwr ffilmiau, sgriptiwr, golygydd a choreograffydd gweithredu o Gymru, ac mae wedi ennill nifer o wobrau.
Drwy ei ffilmiau cynnar, Merantau, a The Raid 1 a 2 (Sony Pictures Classics), daeth â chrefft ymladd Pencak Silat o Indonesia i sinema’r byd.
Wedi iddo ddychwelyd i Brydain o Indonesia, cafodd Apostle, ffilm arswyd werin gyda Dan Stevens, Michael Sheen a Lucy Boynton yn serennu ynddi, ei rhyddhau yn 2018 fel ffilm wreiddiol ar Netflix. Ffilmiwyd Apostle yn gyfan gwbl yng Nghymru, ac roedd yn gywaith pellach rhwng Gareth ac XYZ Films sy’n seiliedig yn LA. Cynhyrchwyd y ffilm gan Aram Tertzakian (XYZ Films) ac Ed Talfan (Severn Screen).
Ers hynny, mae Gareth a Matt Flannery, a fu’n cydweithio ers blynyddoedd, wedi cyd-greu cyfres deledu “Gangs of London” ar gyfer Sky Atlantic ac AMC. Darlledwyd y gyfres am y tro cyntaf ym Mhrydain ym mis Ebrill 2020, ac wedyn yn yr Unol Daleithiau ym mis Hydref 2020.
Mae ar waith â datblygu ffilm nodwedd o’r enw Havoc, ac nid yw’r manylion wedi’u rhyddhau eto.