still from brides featuring two teenage girls in the backseat of a car peering out of the half-open window and smiling

Lle / Space

Y dyddiad cau nesaf: 25 March 2025

Lle i anadlu, adeiladu a chreu.

Labordy datblygu gwneuthurwyr ffilmiau yw Lle / Space sy’n cynnwys encil creadigol ym Mhenrhyn Gŵyr, yn ne Cymru, ar 4ydd – 9fed fed Mai 2025, ac yna mentora, dosbarthiadau meistr a sesiynau meithrin gyrfa dros ddyddiau dilynol drwy gydol y flwyddyn. Bydd yr encil creadigol preswyl yn cael ei arwain gan LIM | Labordy datblygu rhyngwladol Less Is More. Os na allwch ei gwneud hi i’r dyddiadau yng Ngŵyr, anfonwch e-bost atom - network@ffilmcymruwales.com - i gofrestru eich diddordeb mewn gweithgaredd tebyg yn y dyfodol.  

Trwy gymryd rhan yn y rhaglen, byddwch yn dod yn rhan o grŵp cefnogol o wneuthurwyr ffilmiau datblygol a ffigurau blaenllaw yn y diwydiant ffilm a theledu. Byddan nhw'n eich helpu chi i fireinio eich crefft, datblygu prosiect ffilm sydd gennych chi ar y gweill, a chyrraedd y lefel nesaf yn eich gyrfa, a’r cyfan mewn amgylchedd sy'n hybu egwyddorion gofal, lles a pharch. Bydd cymorth dilynol i’r cyfranogwyr hefyd. 

Nid oes ffi am y labordy hwn. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu talu £120 y dydd am gymryd rhan ac ni fydd angen iddyn nhw dalu am yr holl lety a phrydau bwyd angenrheidiol.  Mae cymorth hefyd ar gyfer costau teithio.

Mae cymorth ychwanegol ar gael os byddwch yn ei chael hi'n anodd cymryd rhan lawn yn y labordy oherwydd anfantais economaidd-gymdeithasol, b/Byddardod, anabledd, niwroamrywiaeth, colli golwg neu glyw neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol nad ydych yn ei gysylltu â'r derminoleg hon. 

Mae Lle / Space yn cynnig lle i chi anadlu, i adeiladu, i greu, ac i syrthio mewn cariad â ffilm unwaith eto. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais!

Pwy all wneud cais? 

  • Mae labordy Lle / Space yn canolbwyntio ar bobl yng Nghymru sy'n uniaethu fel rhan o'r mwyafrif byd-eang ac sy'n awyddus i ysgrifennu, cyfarwyddo neu gynhyrchu ffilm nodwedd sinematig neu sydd eisoes â rhywfaint o brofiad. Wrth ddweud y mwyafrif byd-eang, yr hyn a olygwn yw’r bobl hynny sy'n uniaethu fel Pobl Dduon, Asiaidd, Brown, treftadaeth ddeuol, brodorol i'r de byd-eang, a/neu bobl sydd wedi cael eu diffinio ar sail hil fel lleiafrifoedd ethnig. 
  • Dylai fod gan gyfranogwyr hanes creadigol ym myd teledu neu ffurf arall ar gelfyddyd ac fe allan nhw fod yn canolbwyntio ar ffilm animeiddiedig, ffilm naratif gweithredu byw neu ffilm ddogfen, ond ni allan nhw fod wedi bod yn brif ysgrifennwr, cyfarwyddwr neu gynhyrchydd ar ffilm nodwedd yn ystod y deng mlynedd diwethaf sydd wedi cael ei dosbarthu’n fasnachol yn y DU (h.y. heb fod wedi’i hunan-ryddhau).
  • Rhaid i chi hefyd fod dros 18 oed a heb fod mewn addysg amser llawn. 

Mae'n bwysig i ni fod gweithgarwch yn cael ei ddylunio o amgylch eich uchelgeisiau a'ch anghenion chi, felly byddwn yn cadw rhai elfennau o'r rhaglen yn hyblyg ac yn eich cynnwys chi fel partner gweithredol wrth ddylunio'r rhaglen.

Sut ydw i'n gwneud cais? 

Bydd angen i ymgeiswyr fod â syniad am ffilm nodwedd (gweithredu byw neu wedi'i hanimeiddio) neu ffilm ddogfen nodwedd y maen nhw’n gwneud cais ag ef er mwyn manteisio’n llawn ar y labordy, hyd yn oed os mai dim ond syniad sinematig cynnar ydyw. 

Oni bai ein bod wedi cytuno â chi ar ffordd arall i wneud cais (gweler Cymorth Mynediad isod) dylech:  

  1. Darllen y Canllawiau 
  2. Lawrlwytho a llenwi’r ffurflen gais 
  3. E-bostio’r ffurflen wedi'i llenwi ac unrhyw ddogfennau ategol angenrheidiol i network@ffilmcymruwales.com erbyn y Dyddiad Cau 
     

Dyddiad cau

12pm Dydd Mawrth 25ain Mawrth 2025  

Cymorth Mynediad a Chynhwysiant

Credwn mewn sector sgrin sy’n gweithio i bawb ac rydyn ni’n angerddol am ehangu mynediad i'r sector hwnnw. 

Yn achos ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, er enghraifft unigolion sy'n f/Byddar, yn Anabl, yn niwroamrywiol, neu sydd yn colli eu golwg neu eu clyw, mae cymorth pellach ar gael i gwblhau cais. Cysylltwch â ni i roi gwybod i ni sut y gallwn helpu. Er enghraifft, gallwn dalu costau dehonglydd BSL ar gyfer cyfarfod â ni cyn gwneud cais, cymorth ysgrifennu i ymgeiswyr dyslecsig, ymestyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau, neu gytuno ar fformatau gwahanol ar gyfer gwneud cais fel ceisiadau fideo neu ddec sleidiau. Cawn ein harwain gennych chi.  

Manylion Cyswllt  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu geisiadau ynghylch mynediad, cysylltwch â'r isod cyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 
Emily Morus Jones, Cydlynydd Talent emily@ffilmcymruwales.com neu ffoniwch 02922 676711 a gadewch neges yn rhoi eich enw, rhif, amseroedd cyfleus yn y dydd i ffonio, gan ddweud eich bod yn gofyn am gymorth mynediad i labordy Lle / Space. 
Nuno Mendes, Rheolwr Prosiect Cyswllt Diwylliant Cymru nuno.mendes@watch-africa.co.uk

Lab Leaders

patricia dati

Patricia Drati is a Danish award-winning producer, director, and film development consultant of Ugandan origin, working with both documentary and fiction. After completing BA in Film Studies, she worked for several years as a journalist and writer. Between 2009-2015, Patricia was Head of CPH:LAB at CPH:DOX. She curated, developed, and managed the cross-cultural training and production lab for international filmmaking talents, where she initiated more than40 low budget films, awarded in Venice, IFF Rotterdam and Visions du Réel among others. In 2016 Patricia became a partner in Copenhagen-based production company Good Company Pictures, where she works as a creative producer, and where she is currently developing two feature documentaries as a director. In addition to her work as a filmmaker, Patricia has been a member of selection committee and script reader for Torino Film Lab, Less Is More, Hubert Bals Fund, BFI Doc Society Fund and Doha Film Institute. She is currently mentoring Hot Docs Blue Ice fellows in the period 2024/2025 as well as a group of East African filmmakers from Uganda, Burundi and the DR Congo in the framework of Matatu Film Lab. She has served on juries at Vision du Réel, Karlovy Vary IFF, Docudays UA, Interfilm Berlin, CPH:DOX and IDA Documentary Awards.

Nayeem Mahbub

Nayeem Mahbub is an international script consultant working with a variety of fiction, hybrid and short projects. As well as his ongoing collaboration with LIM Boosting Ideas, he is currently consultant and mentor at EAVE Producers Workshop, European Short Pitch and Kehittämo - talent development lab (Finland). He has previously worked with Hamburg Series Lab and Pop Up Film Residency amongst others. He has a background as a film and video editor, working in both narrative and commercials. An alumni of the multinational documentary masters programme DOCNomads, he started his career writing and directing 2D animation in his native Bangladesh, followed by a short stint as a BBC World Service producer.

Mae Lle / Space yn bosibl gyda chymorth Llywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol, Rhwydwaith BFI a Chyngor Celfyddydau Cymru. 

bfinetwork / ffilm cymru wales / culture connect wales / creative wales