two people outside shooting a film with a camera

Connector: Cynnal eich gweithgaredd eich hun i wneuthurwyr ffilm

Y dyddiad cau nesaf: 19 March 2025

Mae cronfa Connector yn cyfuno arian y Loteri Genedlaethol a ddirprwywyd trwy Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Ffilm Prydain trwy RWYDWAITH BFI. 

bfi network wales logo

Rydyn ni’n meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n cynorthwyo pobl sydd eisoes yn gwneud gwaith gwych i ddatblygu talent a’n bod ni’n cydweithio â phobl sy’n gallu cynnig dealltwriaeth newydd i’r gwaith a wnawn. Mae llawer o weithgarwch hyfforddi gwneuthurwyr ffilmiau yn blaenoriaethu'r “gorau a'r disgleiriaf”; pobl sydd mewn sefyllfa economaidd-gymdeithasol i gael eu hystyried yn dalentog, boed hynny drwy leoliad daearyddol, mynediad i rwydweithiau, neu'r gallu i weithio am ddim neu hunangyllido gwaith. Rydym am gynorthwyo gweithgarwch a all weld y tu hwnt i’r breintiau hyn, ac a all gyrraedd a meithrin talent anhygoel o Gymru ar eu telerau eu hunain.

Pwy all ymgeisio?

  • Sefydliadau sydd â phrofiad yn y diwydiannau creadigol a/neu brofiad ym maes datblygu talent greadigol, yn ddelfrydol â sylfaen yng Nghymru neu bartneriaeth â sefydliad yng Nghymru;
  • Rydych chi dros 18 oed ac nid ydych chi mewn addysg amser llawn;
  • Chi yw, neu chi fydd, yr arweinydd neu'r cyd-arweinydd ar y prosiect a ddisgrifir.

Am beth y gallaf wneud cais?

  • Gallwch wneud cais am hyd at £10,000 i gynorthwyo digwyddiadau neu weithgareddau hyfforddi ar gyfer darpar awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr ffilmiau sydd wedi’u geni neu’u lleoli yng Nghymru, rhai newydd neu rai datblygol.
  • Rhaid i'ch gweithgarwch fod yn cynorthwyo cyfranogwyr ar drywydd tuag at ffilm nodwedd neu ffilm ddogfen sinematig. 
  • Rhaid cwblhau’r gweithgarwch erbyn mis Mawrth 2026 ac ni allwch wneud cais tuag at gostau’r ydych eisoes wedi mynd iddynt. 

Byddwn yn blaenoriaethu gweithgarwch sy’n cael ei ddarparu yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd nad ydyn nhw’n cael eu gwasanaethu’n ddigonol gan y math hwn o weithgarwch, ac sydd o fudd i wneuthurwyr ffilmiau sy’n uniaethu fel y canlynol: 

  • b/Byddar, Anabl, niwroamrywiol, yn colli eu golwg neu glyw neu sydd â chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol nad ydynt yn ystyried ei fod yn gysylltiedig â'r derminoleg hon 
  • rhan o'r mwyafrif byd-eang (neu Ddu, Asiaidd neu o Ethnig Leiafrifol), 
  • yn byw mewn anfantais economaidd-gymdeithasol neu’n dod o anfantais o’r fath

Mae gennym hefyd restr o'r math o weithgarwch yr hoffem weld prosiectau Connector yn ei gyflawni, y dylech ei darllen yn llawn yn ein Canllawiau. 

Sut ydw i'n gwneud cais?

Oni bai ein bod wedi cytuno â chi ar ffordd arall i wneud cais (gweler Cymorth Mynediad isod) dylech: 

  1. Darllen y Canllawiau
  2. Lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen datganiad o ddiddordeb
  3. E-bostio’r ffurflen wedi'i llenwi ac unrhyw ddogfennau ategol angenrheidiol i network@ffilmcymruwales.com erbyn y Dyddiad Cau

Os cewch eich gwahodd i wneud cais, byddwn yn anfon ffurflen gais hirach i chi, y gallwch gael rhagolwg arni isod.

Terfynau amser

  • 19 Mawrth 2025, hanner dydd
  • Ffenestr ymgeisio parhaus ar ol y dyddiad yma

Cymorth Mynediad a chynhwysiant

Credwn mewn sector sgrin sy’n gweithio i bawb ac rydyn ni’n angerddol am ehangu mynediad i'r sector hwnnw.

Yn achos ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, er enghraifft unigolion sy'n f/Byddar, yn Anabl, yn niwroamrywiol, neu sydd yn colli eu golwg neu eu clyw, mae cymorth pellach ar gael i gwblhau cais. Cysylltwch â ni i roi gwybod i ni sut y gallwn helpu. Er enghraifft, gallwn dalu costau dehonglydd BSL ar gyfer cyfarfod â ni cyn gwneud cais, cymorth ysgrifennu i ymgeiswyr dyslecsig, ymestyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, neu gytuno ar fformatau gwahanol ar gyfer gwneud cais fel ceisiadau fideo neu ddec sleidiau. Cawn ein harwain gennych chi. 

Manylion Cyswllt 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu geisiadau ynghylch mynediad, cysylltwch â'r isod cyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:
Emily Morus Jones, Cydlynydd Talent emily@ffilmcymruwales.com