a still from father of the bride

Beacons: Cyllid ar gyfer Ffilmiau Byrion

Drwy ddarpariaeth RHWYDWAITH BFI Cymru, mae Ffilm Cymru yn comisiynu ffilmiau byr o ansawdd fyd-eang ar ffurf gweithredu byw, ffilmiau dogfen ac animeiddiadau, mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales.

Mae Beacons yn darparu cyllid yn ogystal â chymorth creadigol ac ymarferol a chyfleoedd hyfforddiant a mentora i helpu gwneuthurwyr ffilmiau i fwrw ymlaen â’u gyrfa. Mae ffilmiau byr Beacons wedi cael llwyddiant mewn gwyliau, wedi ennill nifer o wobrwyon, ac wedi’u darlledu ar BBC Cymru Wales a’u rhyddhau ar iPlayer. 

bfi network wales logo

Pwy all wneud cais?

Rydym yn derbyn ceisiadau oddi wrth:

  • Timau awdur, cyfarwyddwr (neu awdur-gyfarwyddwr) a chynhyrchydd
  • Timau awdur a chyfarwyddwr (neu awdur-gyfarwyddwr unigol) lle nad oes cynhyrchydd yn gysylltiedig ar hyn o bryd

Dylai awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr yn flaenorol fod wedi ysgrifennu, cyfarwyddo neu gynhyrchu o leiaf un ffilm fer sydd wedi’i dangos neu’i darlledu’n gyhoeddus a/neu fod â hanes blaenorol mewn cyfrwng creadigol cysylltiedig. 

Gall hyn fod ym maes ffilm, teledu, theatr neu ffurf arall ar gelfyddyd naratif. Mae'n cynnwys gwaith fel myfyriwr neu waith a grëwyd ar lawr gwlad. Efallai eich bod eisoes wedi creu gwaith gyda chyllid masnachol neu sefydliadol neu beidio. Byddwn hefyd yn ystyried rhai sydd â phrofiad blaenorol mewn rolau perthnasol eraill, e.e. cyfarwyddwr ffotograffiaeth yn symud i gyfarwyddo, rheolwr cynhyrchu yn symud i gynhyrchu.

Mae’n rhaid i’r cyfarwyddwr ar y prosiect fod wedi’u geni yng Nghymru a/neu fod yn seiliedig yng Nghymru.

Pa fath o ffilm fer sy’n gymwys?

Ffilm gweithredu byw, animeiddiad, ffilm ddogfen neu hybrid o hyd at 15 munud o hyd.

Am faint allaf i wneud cais?

Hyd at £25,000.

Beth yw’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau?

19 Gorffennaf 2024 am 3pm.

Canllawia a Gwybodaeth Bellach

Darllenwch neu wrandewch ar y Canllawiau isod cyn cychwyn ar eich cais. Os nad ydych chi’n siŵr ynglŷn ag unrhyw beth, cymrwch olwg ar ein Cwestiynau Cyffredin a’n hadnoddau ar gyfer gwneuthurwyr ffilmiau byr.

Sut i Wneud Caid

Lawrlwythwch a llenwch ffurflen gais isod (Gweithredu Byw, Ffilm Ddogfen neu Animeiddiad) a’i hanfon mewn e-bost i network@ffilmcymruwales.com ynghyd â:

  • Sgript
    • ymdriniaeth (yn achos ffilm ddogfen yn unig) 
    • fwrdd stori (yn achos animeiddiad yn unig)
  • CVs aelodau allweddol o’r tîm creadigol
  • Dolen i o leiaf un darn blaenorol o waith gan y cyfarwyddwr

Mae rhai o’r cwestiynau yn y ffurflen gais yn cynnwys opsiynau i gyflwyno’r atebion ar ffurf ysgrifenedig, fideo neu nodyn llais.

Fel arall, os yw’n well gennych chi, fe allwch chi ymateb i’r cwestiynau yn y ffurflen gais drwy alwad fideo neu alwad ffôn fyw. Dylid trefnu hyn gyda’n tîm ymlaen llaw cyn y dyddiad cau. 

Mae cymorth ac addasiadau pellach ar gael i unigolion sydd yn F/fyddar, â nam ar eu clyw, yn anabl, yn niwroamrywiol neu â nam ar eu golwg. Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion yn gyfrinachol: