Ffilmiau byr newydd gan ddoniau o Gymru sy’n dod i’r amlwg gyda Ffilm Cymru Wales
Mae’r asiantaeth datblygu ffilmiau o Gymru wedi dewis naw ffilm fer newydd i’w datblygu drwy ei chynllun Beacons, gyda chefnogaeth BFI NETWORK a chyllid gan y Loteri Genedlaethol.
Mae Beacons yn taflu goleuni ar ddoniau Cymru, gan gefnogi gwneuthurwyr ffilmiau newydd o Gymru i wneud argraff sinematig, gyda chyllid, hyfforddiant, mentora ac arweiniad. Mae’r cynllun, sydd bellach yn ei ddegfed flwyddyn, wedi cynhyrchu 39 ffilm fer a welwyd ar sgriniau sinema, teledu a chyfryngau digidol ledled y byd.
Mae cyfres newydd Ffilm Cymru Wales o ffilmiau byrion yn arddangos amrywiaeth eang o leisiau a straeon sy’n cael eu hadrodd ar draws deunydd byw, animeiddio a deunydd dogfennol, mewn nifer o genres ac ieithoedd. Bydd y timau creadigol y tu ôl iddynt yn awr yn gweithio ar eu prosiectau gydag arweiniad a mentora gan Ffilm Cymru Wales, cyn gwneud cais am gyllid ychwanegol i symud ymlaen i gynhyrchu yn y flwyddyn newydd.
Dywedodd Jessica Cobham-Dineen, Rheolwr Datblygu a Chynhyrchu Ffilm Cymru Wales: “Ar ôl derbyn y nifer uchaf erioed o geisiadau eleni ar gyfer Beacons, mae’r naw ffilm olaf a ddewiswyd i’w datblygu yn dyst i ddyfnder ac ehangder y doniau ledled Cymru. Mae'r straeon mae'r gwneuthurwyr ffilmiau am eu hadrodd yn unigryw wahanol, gan ddangos croestoriad y profiad byw ledled Cymru. Edrychwn ymlaen at weld sut mae pob prosiect yn tyfu ar draws y cyfnod datblygu.”
Boyo
Ffilm arswyd cwîar newydd gwerinol am ddyn ifanc y mae ei gariad wedi mynd ar goll, ac y tybir ei fod wedi marw, ym mhentref Abercraf. Yn waith gan y dawnsiwr a’r coreograffydd Gareth Chambers, wedi ei ysgrifennu ar y cyd â Mei Lewis, mae Boyo yn archwilio ochr dywyll rhywioldeb cwîar; perthynas caru/casáu diwylliant cwîar â gwrywdod, a sut gall fod yn negyddol ond eto’n gadarnhaol, yn drawsnewidiol ac yn hynafol ar yr un pryd.
Chan’s
Stori led-hunangofiannol sy’n archwilio atgofion bachgen Tsieineaidd-Cymreig 10 oed sydd wedi gwirioni ar bêl-droed, sy’n cael ei fagu ym musnes prydau bwyd ei deulu yn y Barri, de Cymru. Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd Chan’s gan Jun Chan, Cyfarwyddwr Creadigol a darlithydd UAL gwadd, a Fanny Hötzeneder, Cyfarwyddwr Masnachol yn y byd teledu. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ceisio tynnu sylw at straeon sy’n aml yn cael eu hanwybyddu am bobl o Ddwyrain a De-ddwyrain Asia sydd wedi ymsefydlu yn niwylliant Prydain.
Extinction
Yn y ffilm arswyd gomedi hon sydd wedi ei hanimeiddio, mae pob anifail yn diflannu ac mae pobl pentref gwledig yng Nghymru yn dechrau galaru am eu habsenoldeb drwy lenwi’r rolau roedden nhw’n eu chwarae ar un adeg. Mae Extinction wedi cael ei hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Sara Schiavone, y cafodd ei ffilm fer flaenorol, Slowly Waking, ei dewis ar gyfer Gŵyl Animeiddio Caerdydd a Gŵyl Ffilmiau FOCUS Cymru yn 2024.
Gwrach
Mae dau ffermwr cocos yn mentro allan i’r môr i ddenu eu dalfa i’r wyneb. Rywle yn y dyfroedd mae Gwrach y Rhibyn, yn arwydd o farwolaeth sydd ar ddod ac sydd wedi bod yn eu stelcian ers dyddiau. Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd Gwrach gan Alun Rhys Morgan, y mae ei ffilm Collection Only newydd gael ei dewis mewn 20 o wyliau ledled y byd. Cynhyrchwyd Gwrach gan Matt Ashwell, y cafodd ei ffilm fer ddiweddaraf, Flock, ei chyllido drwy gynllun Future Takes y BFI a Film4.
Juan
Mae dynwaredwr Elvis ers blynyddoedd lawer yn myfyrio ar ganlyniadau dinistriol mynd ar drywydd perffeithrwydd drwy lawdriniaeth gosmetig, wrth i'r ffilm ddogfennol hon ymchwilio i'r croestoriad rhwng ansicrwydd, apêl enwogrwydd, a chost ddynol trawsnewid eich hunan wrth fynd ar drywydd delfryd amhosibl. Mae gan y Cyfarwyddwr Callum O’Keefe brofiad helaeth o ddogfennu pobl drwy gyfrwng ffotograffiaeth, gan roi golwg newydd ar y stori deimladwy hon.
Marriage Test
Ym 1984, mae penderfyniad Susie o Gymru a Raz o Iran i briodi yn y fantol mewn ystafell aros mewn mosg. A fydd eu cariad yn fuddugol, ynteu a fydd eu gwahaniaethau yn eu gwthio ar wahân? Wedi ei chynhyrchu gan Roxy Amini, ochr yn ochr â’r Cynhyrchydd Gweithredol Matthew Barry (Enillydd gwobr BAFTA Cymru am Men Up), mae’r ddrama rom-com hon wedi cael ei hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan yr awdur o dras Cymreig ac Iranaidd, Sara Nourizadeh, sydd â chefndir mewn rhaglenni dogfen sy’n archwilio dosbarth, hunaniaeth ddiwylliannol a theulu.
Scab
Yn ystod streic ddiwydiannol chwerw, mae ‘scab’ yn ei chael hi’n anodd cuddio ei frad oddi wrth ei frawd sy’n un o benaethiaid yr undeb, wrth i’w gorff ddechrau pydru a throi’n adlewyrchiad grotesg o’i gyfrinach hyll. Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd y ffilm arswyd cyfnodol hon gan Oliver Gabe, a wnaeth ei ffilm fer gyntaf drwy gynllun Ffolio Ffilm Cymru Wales, ac fe’i cynhyrchwyd gan Lee Haven Jones ac Adam Knopf.
To Be Here
Pan mae cydweithiwr annwyl iawn i fenyw ifanc ynysig yn marw, mae hi’n dechrau ei weld yn ei byd unig ac yn cael ei sbarduno i ddechrau byw o’r diwedd. Ysgrifennwyd y ffilm gan Carys Thomas, enillydd gwobr Rocliffe BAFTA i Awduron Newydd, dan gyfarwyddyd Eleri B. Jones (Cyfarwyddwr a Phrif Swyddog Gweithredol Theatr Brycheiniog), ac fe’i cynhyrchwyd gan Chloe Huybens. Mae To Be Here yn ddrama gomedi am unigrwydd, galar, a’r crychau mae gweithredoedd bach o garedigrwydd yn eu gadael ar ein bywydau.
Writing To Reach You
Mae artist ifanc sy’n mynd i’r afael â bod yn anabl yn ddiweddar yn dod o hyd i gysylltiad annisgwyl â bardd hyderus sy’n defnyddio cadair olwyn. Mae’r awdur Ciaran Fitzgerald yn ddramodydd a sgriptiwr anabl o Bort Talbot a enwebwyd ar gyfer Gwobr RTS Cymru, ac mae’r cyfarwyddwr Rhys Miles Thomas yn Gymro balch o’i anabledd, sydd eisiau adrodd straeon sy’n herio canfyddiadau a rhoi llais i gymunedau sy’n cael eu tangynrychioli. Cynhyrchwyd Writing To Reach You gan Shelley Rees.
Cafodd pedwar o ffilmiau byr cynharach Beacons eu dangos am y tro cyntaf ar BBC Cymru y mis hwn, ac maent ar gael i’w gwylio ar BBC iPlayer erbyn hyn: y rhain oedd stori werin fywiog wedi ei hanimeiddio gan Bethan Hughes a Bryony Evans, Hounds of Annwn, ffilm ddogfen gwîar Ren Faulkner Being Seen, drama gomedi gynllwynol wedi ei hanimeiddio gan Josh Hicks, Spectre of the Bear, a drama ingol Krystal S. Lowe, Seven.
Cafodd Being Seen a Spectre of the Bear eu henwebu’n ddiweddar ar gyfer y Ffilm Fer Orau yng Ngwobrau BAFTA Cymru 2024, tra cafodd Seven ei ddangosiad cyntaf erioed yng Ngŵyl Ffilm Essence yn New Orleans. Ffilm a fydd i’w gweld ar sgriniau bach yn fuan fydd Fisitor, ffilm arswyd Gymraeg Llŷr Titus, a gafodd ei dangos eleni mewn gwyliau rhyngwladol, gan gynnwys Gŵyl Arswyd Abertoir a Gŵyl Ffilmiau LDHTC+ Gwobr Iris, a drama Emily Burnett Mother’s Day, a berfformiwyd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilmiau Llundain y BFI ym mis Hydref.
Mae disgwyl i rownd nesaf cyllid Ffilm Cymru Wales ar gyfer ffilmiau byr agor yn ystod gwanwyn 2025.