a collage of four pictures: a still from brides featuring two people peering out a car window and smiling / 12 people posing for a photo / two people on a film set in a forest, one holding a camera, the other holding a clapperboard in front of them / the cinema theatre in barry memo arts centre

Ffilm Cymru Wales yn edrych am Cadeirydd newydd i'r Bwrdd

Wrth inni groesawu’r bennod nesaf yn stori Ffilm Cymru Wales, rydyn ni’n chwilio am unigolyn eithriadol i arwain y Bwrdd a’r uwch dîm i gefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer y byd ffilm yng Nghymru.

Rydyn yn chwilio am Gadeirydd sydd â: 

  • profiad, hygrededd a chysylltiadau yn y diwydiant
  • yn gyfarwydd â thirwedd ehangach y cyfryngau yng Nghymru
  • brwdfrydedd a’r pŵer creadigol i gofleidio’r gwaith sydd o’n blaenau
  • y gallu i ddylanwadu ac eirioli i rai sy’n gwneud penderfyniadau a chyllidwyr, gan gefnogi llwyddiant hirdymor Ffilm Cymru Wales
  • ein gwerthoedd cyffredin a’n hangerdd i hybu sector ffilm dwyieithog ffyniannus yng Nghymru.  

Y Rôl

Rôl: Cadeirydd 
Lleoliad: Caerdydd/Hyblyg 
Sector: Ffilm
Ymrwymiad Amser: 6-8 cyfarfod Bwrdd y flwyddyn yn ogystal â chyfarfodydd a digwyddiadau ad hoc ar ran Ffilm Cymru Wales. 
Cyflog: Di-dâl, ond caiff treuliau wrth gyflawni dyletswyddau eu had-dalu. Mae cydnabyddiaeth hefyd ar gael i Gyfarwyddwyr Bwrdd na fydden nhw fel arall yn gallu ymgymryd â’r mathau hyn o rolau.
Hyd y Tymor: 3 blynedd (uchafswm o ddau dymor, yn amodol ar gytundeb) 
Dyddiad Cychwyn: Tymor yr hydref 2024 

Sut i wneud cais 

Oni bai ein bod wedi cytuno i chi ddefnyddio fformat gwahanol i gyflwyno cais, dylech anfon CV a llythyr eglurhaol i Hayley Lau - Hayley@ffilmcymruwales.com - yn nodi eich profiad a'ch sgiliau yn erbyn yr hyn sydd wedi’i amlinellu ym manyleb y person isod. 

Cewch gyflwyno cais yn Gymraeg neu Saesneg.

Cyflwynwch eich cais erbyn 16:00 ar 9 Gorffennaf 2024.

Nid yw Ffilm Cymru Wales yn noddwr trwyddedig ar gyfer VISAs ac felly mae’n rhaid bod eisoes gennych Hawl i Weithio yn y DU er mwyn gwneud cais am y rôl hon. 

Cymorth Mynediad

Credwn mewn sector sy’n gweithio i bawb ac rydyn ni’n angerddol am ehangu mynediad i'r sector sgrin.

Byddwn yn cynnig sicrwydd o gyfweliad i bob ymgeisydd sy'n bodloni ein meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl ac sy'n arddel hunaniaeth Pobl y Mwyafrif Byd-eang, Pobl Dduon, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol, neu bobl F/byddar, trwm eu clyw, Anabl neu niwroamrywiol.   

Yn achos ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, er enghraifft unigolion sy'n F/fyddar, yn drwm eu clyw, yn Anabl, yn niwroamrywiol, a phobl sydd wedi colli eu golwg, mae cymorth ar gael i gyflwyno cais. Cysylltwch â ni i roi gwybod i ni sut y gallwn helpu. Er enghraifft, gallwn dalu costau dehonglydd BSL ar gyfer cyfarfod â ni cyn gwneud cais, cymorth ysgrifennu i ymgeiswyr dyslecsig, neu gytuno ar fformatau gwahanol ar gyfer gwneud cais fel ceisiadau fideo neu ddec sleidiau. Cawn ein harwain gennych chi. 

Cysylltwch â Hayley Lau ar Hayley@ffilmcymruwales.com i drafod eich gofynion cyn gwneud cais.