Cyfle Swydd: Cydlynydd Talent
Mae Ffilm Cymru yn chwilio am gyfathrebwr gwych, sydd â sgiliau trefnu a phrofiad gweinyddol da, i gydlynu ein gwaith i gynorthwyo gwneuthurwyr ffilmiau.
Teitl: Cydlynydd Talent
Cyfnod: Cyfnod penodol rhan-amser hyd at 31 Mawrth 2025 (dau ddiwrnod yr wythnos neu gyfwerth e.e. 4 x hanner diwrnod, yn dibynnu ar ddewis yr ymgeisydd)
Cyflog: £24,750 y flwyddyn, wedi'i addasu pro rata i ddau ddiwrnod yr wythnos
Dyddiad cau: Dydd Gwener 1 Tachwedd 2024 am hanner dydd
Cyfweliadau: 7 neu 8 Tachwedd 2024
Cyfrifoldebau Allweddol
- Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau i’r adran yn ymwneud â’n gweithgarwch datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) i wneuthurwyr ffilmiau
- Gwneud trefniadau teithio a llety a threfniadau eraill yn ymwneud â'n gweithgarwch DPP
- Trefnu a chofnodi cyfarfodydd gwneud penderfyniadau
- Ffeilio a chydgrynhoi data sy'n ymwneud â'r uchod er mwyn adrodd i'n rhanddeiliaid.
Sgiliau a Phrofiad Allweddol
- Profiad o ddefnyddio Microsoft Office Suite, Zoom a Teams.
- Profiad proffesiynol o ymdrin â thasgau gweinyddol fel codi archebion prynu, archebion teithio, trefnu arlwyo, llogi lleoliad, a rheoli dyddiadur
- Profiad proffesiynol o gydlynu digwyddiadau personol ac ar-lein ac o adrodd i gyllidwyr (arianwyr cyhoeddus yn ddelfrydol)
Sut i Wneud Cais
Oni bai ein bod wedi cytuno ar fformat arall o gais gyda chi, dylech anfon CV a llythyr eglurhaol mewn e-bost i Kim Warner - applications@ffilmcymruwales.com - yn nodi pryd rydych chi ar gael ac yn dangos yn glir sut mae eich profiad a'ch sgiliau yn bodloni'r Gofynion Sylfaenol a manyleb y swydd sydd wedi’i nodi yn y pecyn hwn.
Defnyddiwch y pennawd: Swydd Cydlynydd Talent.
Cyflwynwch eich cais erbyn hanner dydd, dydd Gwener 1 Tachwedd 2024.
Nid yw Ffilm Cymru yn noddwr trwyddedig ar gyfer VISAs ac felly mae’n rhaid bod eisoes gennych Hawl i Weithio yn y DU er mwyn gwneud cais am y rôl hon.
Os ydych yn ymgeisydd mewnol sy’n gweithio yn Ffilm Cymru, trafodwch gyda’ch rheolwr llinell cyn gwneud cais.
Cynhelir cyfweliadau ar 7 neu 8 Tachwedd 2024, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Amrywiaeth, Cynhwysiant a Chymorth Mynediad
Credwn mewn sector sgrin sy’n gweithio i bawb ac rydyn ni’n angerddol am ehangu mynediad i'r sector hwnnw.
Byddwn yn cynnig cyfweliad awtomatig i bob ymgeisydd sy'n bodloni ein Meini Prawf Gofynnol ar gyfer y swydd ac sy'n arddel hunaniaeth Pobl y Mwyafrif Byd-eang, Pobl Dduon, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol neu bobl F/fyddar, trwm eu clyw, Anabl neu niwroamrywiol.
Yn achos ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, er enghraifft unigolion sy'n F/fyddar, yn drwm eu clyw, yn Anabl, yn niwroamrywiol, a phobl sydd wedi colli eu golwg, mae cymorth ar gael i gyflwyno cais. Cysylltwch â ni i roi gwybod i ni sut y gallwn helpu. Er enghraifft, gallwn dalu costau dehonglydd BSL ar gyfer cyfarfod â ni cyn gwneud cais, cymorth ysgrifennu i ymgeiswyr dyslecsig, neu gytuno ar fformatau gwahanol ar gyfer gwneud cais fel ceisiadau fideo neu ddec sleidiau. Cawn ein harwain gennych chi.
Cysylltwch ag Ihsana Feldwick - ihsana@ffilmcymruwales.com - i drafod eich gofynion cyn gwneud cais.