still from kensuke's kingdom featuring a boy standing on a wooden balcony looking out over a forest horizon

Cronfa newydd Media Cymru a Ffilm Cymru Wales i ddod o hyd i ffyrdd arloesol i rannu straeon hinsawdd

Bydd y Gronfa Straeon Hinsawdd yn cynorthwyo prosiectau ymchwil a datblygu sy'n arwain at ffyrdd arloesol i ysbrydoli cynulleidfaoedd.

Wrth i effeithiau newid hinsawdd ar y blaned a'i phobl ddod yn fwyfwy amlwg, mae cyfrifoldeb y diwydiant ffilm dros fynd i'r afael ag ef nid yn unig yn golygu datgarboneiddio gwaith cynhyrchu, ond hefyd creu straeon hinsawdd effeithiol sy'n ysgogi gweithredu. Mae gwneuthurwyr ffilm o bob cwr o'r byd bellach yn ymgysylltu â chynulleidfaoedd o bob oed trwy ystod eang o genre, gan gynnwys rhaglenni dogfen, drama, comedi ac arswyd. 

Bydd Cronfa Straeon Hinsawdd Media Cymru x Ffilm Cymru Wales yn adeiladu ar y momentwm hwn drwy gynorthwyo prosiectau ymchwil a datblygu ar gyfer ffilmiau nodwedd arloesol neu brofiadau ymgolli, sy'n adrodd straeon hinsawdd mewn ffyrdd ffres ac ysgogol.

Bydd prosiectau'n cael hyd at £20,000 yr un i gynnal sbrint ymchwil a datblygu dros gyfnod o bedwar mis rhwng 1 Ebrill a 31 Gorffennaf 2025. Bydd y broses yn dechrau â Lab Dealltwriaeth a fydd yn rhoi i brosiectau llwyddiannus ddealltwriaeth arbenigol o'r argyfwng hinsawdd a sut i adrodd straeon hinsawdd. Ar ddiwedd y sbrint ymchwil a datblygu, bydd cyfle i’r prosiectau wneud cais am £50,000 pellach gan Ffilm Cymru Wales i ddod â'u ffilm nodwedd neu brofiad ymgolli yn fyw. 

Mae'r Gronfa Straeon Hinsawdd yn agored i unigolion a chwmnïau yng Nghymru sydd â'r gallu i ymchwilio a datblygu eu syniad o gynnwys yn ymwneud â hinsawdd yn ystod y sbrint yng Ngwanwyn 2025. Bwriad y gronfa hefyd yw herio anghydbwysedd strwythurol presennol yn y rhwydwaith ymchwil a datblygu, a chynrychioli amrywiaeth cymdeithasol a diwylliannol cymuned ehangach y genedl yn well.

Y gronfa hon yw'r cydweithrediad diweddaraf rhwng Media Cymru a Ffilm Cymru Wales i arwain y ffordd o ran gwneud sector sgrin Cymru yn fwy cynaliadwy. Fis diwethaf fe wnaethon nhw gyhoeddi buddsoddiad mewn saith prosiect ymchwil a datblygu trwy eu Cronfa Ddatblygu Gwyrddio’r Sgrin. Wedi’u harwain gan gwmnïau cynhyrchu ffilm a theledu, stiwdios a chyfleusterau sydd wedi'u lleoli ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, bydd y prosiectau arloesol hyn yn datblygu ffyrdd newydd i wneud diwydiant ffilm a theledu Cymru yn wyrddach. Ac fe fyddan nhw’n cwmpasu elfennau amrywiol o gynhyrchu, gan gynnwys pŵer, trafnidiaeth, bwyd, dŵr a deunyddiau adeiladu. 

Dywed Lee Walters, Prif Weithredwr Ffilm Cymru Wales: "Rydyn ni’n falch iawn o barhau â'n partneriaeth gyda Media Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Mae'r cylch hwn o gyllid yn siŵr o ysbrydoli cyfoeth o syniadau arloesol gan ein cenedl o storïwyr."

Ychwanegodd yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Media Cymru: "Rydyn ni’n falch o allu cynnig y cyfle newydd hwn i helpu pobl greadigol i ddatblygu straeon hinsawdd newydd grymus sy'n ysgogi, yn ysbrydoli ac yn herio cynulleidfaoedd. Mae'n hanfodol bod y gronfa hon yn ceisio mynd i'r afael â meysydd heriol presennol mewn ymchwil a datblygu. Felly rydyn ni’n awyddus i weld prosiectau sy'n adlewyrchu amrywiaeth gymdeithasol a diwylliannol cyfoethog Cymru ac rydyn ni am sicrhau bod y prosiectau'n cyd-fynd â'n cenhadaeth ehangach ar gyfer twf economaidd teg, gwyrdd a byd-eang yn y diwydiannau creadigol."

media cymru

Mae Cronfa Straeon Hinsawdd Media Cymru x Ffilm Cymru Wales ar agor i geisiadau o ddydd Llun 2 Rhagfyr 2024 i ddydd Gwener 17 Ionawr 2025. Gall pobl sy'n dymuno cael gwybod mwy am y gronfa a'r broses ymgeisio ymuno â gweminar ar 10 Rhagfyr am 16:00.