Theatr Gwaun
Mae’r theatr, sinema, bar a chaffi annibynnol yn Abergwaun, gogledd Sir Benfro, wedi bod yn fan adloniant ers 1885, gan ddod yn un o'r sinemâu cyntaf yng Nghymru yn y 1920au cynnar. Mae’n lle cyfeillgar a fforddiadwy sy’n cynnal amrywiaeth eang o berfformiadau theatr, ffilmiau, darllediadau y Theatr Genedlaethol Fyw ac o’r Tŷ Opera Brenhinol a digwyddiadau cerdd byw.