Recriwtio ar agor ar gyfer Ysgol Ffilm y Dyfodol
Mae FfilmSchool.org, gyda chefnogaeth Ffilm Cymru Wales, yn cynnig cyfle i chwech o bobl sy’n awyddus i wneud ffilmiau dogfen ac i derbyn hyfforddiant - a chael eu talu am wneud hynny.
Bydd y rhaglen yn rhedeg rhwng Ionawr a Mehefin 2026 yn ardal Dyfi,
gan gynnwys pythefnos preswyl yn Elenydd (y Mynyddoedd Cambria). Mae ceisiadau i ymuno ar agor tan ddiwedd mis Tachwedd.
Sefydlwyd Ysgol Ffilm gan y gwneuthurydd ffilm dogfen James R Price. Mae ei waith wedi ymddangos ar y BBC, Channel 4 ac yn Orielau Tate. Mae’r ysgol yn ymdrechu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb ynglŷn â phwy sy’n cael cyfle i wneud ffilmiau dogfen.
“Dim ond tua 10% o ffilmwyr yn y DU sy’n dod o gartrefi incwm isel neu heb lawer o adnoddau,” meddai James. “Ychwanega at hynny sut mae’r diwydiant yn canoli o gwmpas Caerdydd a Llundain, ynghyd â’r argyfwng swyddi sy’n taro ffilmiau dogfen, ac mae’n amlwg bod angen newid.”
Gyda £550 yr wythnos am y pythefnos preswyl, mae’r Ysgol Ffilm yn herio diwylliant gwaith di-dâl yn y byd ffilm a theledu. Mae ymchwil James yn Prifysgol Aberystwyth yn ailfeddwl addysg ffilm ddogfen, wedi’i ysbrydoli’n rhannol gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
“Beth fyddai’n digwydd pe baem ni’n rhoi lles wrth galon ffilm ddogfen? Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau’n addo ‘sgiliau i lwyddo yn y diwydiant’ — ond yn aml nid yw’r swyddi hynny i’w cael. Dan arweiniad cynllun ‘Ffilm i Bawb’ Ffilm Cymru Wales, rydym yn rhoi blaenoriaeth i ymgeiswyr o gartrefi incwm isel, siaradwyr Cymraeg, pobl o’r Lluosogrwydd Byd-eang, a phobl anabl neu niwroamrywiol — y bobl sydd fel arfer heb y cyfle i adrodd eu straeon eu hunain.”
Mae’r pythefnos preswyl yn digwydd yn Bwlch Corog, tir sy’n cael ei ofalu gan Coetir Anian, ochr yn ochr â Fferm Cefn Coch. Mae noddwyr Coetir Anian yn cynnwys y gymedrolfydd a chymeriad ffilm Sue Jones-Davies a’r cyn-Weinidog Llywodraeth Cymru Jane Davidson, prif bensaer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r elusen yn adfer rhosdir a choedwig law Geltaidd yn y Mynyddoedd Cambria.
Mae’r ffocws hwn wedi tynnu sylw CORE₂, rhaglen Llywodraeth y DU sy’n ymchwilio i sut y gall tir helpu i gyrraedd sero net erbyn 2050, a sy’n ariannu Ysgol Ffilm drwy’w gangen gelfyddydau.
“Athroniaeth Ysgol Ffilm yw dysgu trwy wneud,” meddai James. “Rydym yn defnyddio dulliau ffilmio eco-ymwybodol, rhad ond o safon, i helpu pobl leol i archwilio sut mae newidiadau amgylcheddol yn effeithio ar eu cymunedau — a sut y gallant chwarae rhan yn y newidiadau hynny.”
Felly os ydych chi’n byw yn yr ardal ac yn gweld ‘FfS-Dyfi’, dyna Ysgol Ffilm. “Mae’n cyd-fynd yn llwyr â’r ffordd rwy’n teimlo am gyflwr ffilm ddogfen,” meddai James gan chwerthin. “FfS — gallwn wneud hyn yn well!”
Mae ceisiadau ar agor tan 30 Tachwedd ar FfilmSchool.org.
