Gwyliau ffilmiau Cymru yn ehangu cyrhaeddiad i gymunedau gwledig gyda chefnogaeth Ffilm Cymru
Mae'r asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilmiau yng Nghymru wedi ariannu pum gŵyl ffilmiau a sinema annibynnol sy'n rhannu straeon byd-eang â chymunedau lleol, ac wedi agor cylch newydd o'u Cyllid Arddangos Ffilmiau.
Gydag arian y Loteri Genedlaethol wedi’i ddirprwyo gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae Ffilm Cymru Wales yn rhoi cymorth i arddangoswyr ffilmiau annibynnol i ddifyrru ac ysbrydoli pobl ledled y wlad drwy gynnig mwy o ddewis o ffilmiau. Fel rhan o ymrwymiad y sefydliad i arloesi, cynhwysiant a chynaliadwyedd, mae eu Cronfa Arddangos Ffilmiau yn annog sinemâu a gwyliau ffilmiau i ddatblygu eu gwaith mewn sector sy’n esblygu, gan gysylltu eu cymunedau lleol trwy sinema.
Y llynedd, gwnaeth Ffilm Cymru Wales ariannu 19 o sinemâu annibynnol, gwyliau ffilmiau a dangosiadau cymunedol dros dro ledled Cymru, a darparu rhaglen strategol o weithdai datblygu busnes a hyfforddiant un-i-un wedi'i deilwra ar gyfer arddangoswyr. Dan arweiniad Mustard Studio, dyluniwyd y rhaglen ddatblygu amhrisiadwy hon i helpu arddangoswyr Cymru i gael ffocws o ran eu cynulleidfaoedd, hybu eu brandiau ac adeiladu busnesau cynaliadwy.
Yn y cyntaf o ddau gylch o Gyllid Arddangoswyr Ffilmiau eleni, mae Ffilm Cymru Wales wedi cefnogi:
Gŵyl Arswyd Ryngwladol Abertoir 2025
I ddathlu ei hugain mlwyddiant, bydd Abertoir yn cael ei chynnal rhwng 12 a 16 Tachwedd yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, lle bydd dilynwyr ffilmiau arswyd yn cael gweld y ffilmiau nodwedd a'r ffilmiau byrion gorau o bob cwr o'r byd, digwyddiadau byw, a llu o westeion arbennig, gan gynnwys Garth Marenghi. Bydd yr awdur comedi cwlt yn agor yr ŵyl eleni wrth iddo fynd â’i lyfr diweddaraf, This Bursted Earth, ar daith epig o amgylch y Deyrnas Unedig. Bydd tocynnau’r ŵyl ar werth yn fuan.
Gŵyl Animeiddio Caerdydd 2025-26
Bydd yr ŵyl ddwyflynyddol hon yng Nghaerdydd unwaith eto yn estyn allan i sinemâu a chymunedau ledled Cymru gan gyflwyno 9 mis o raglen o ddangosiadau ffilmiau byrion a ffilmiau nodwedd animeiddiedig, sesiynau holi ac ateb arbennig a gweithgareddau dysgu cymdeithasol anffurfiol. Fe fyddan nhw’n mynd â’r ffilm Gymraeg o 1991, Y Dywysoges a’r Bwgan / The Princess and The Goblin, sy’n ddarn o dreftadaeth animeiddio Cymru, ar daith i gynulleidfaoedd gwledig, a bydd hefyd yn gyfle i weld celloedd animeiddio gwreiddiol, celf gysyniadol wedi’i llunio â llaw a phaentiadau olew o’r ffilm.
Gŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Plant Cymru
Yn ymgeisydd newydd i Gronfa Arddangos Ffilmiau Ffilm Cymru Wales, mae Gŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Plant Cymru yn dathlu'r goreuon o blith ffilmiau byrion a ffilmiau nodwedd rhyngwladol i bobl ifanc, myfyrwyr a gwneuthurwyr ffilmiau proffesiynol. Bydd dangosiadau ffilm am ddim yn cael eu cynnal rhwng 15fed a 18fed Hydref 2025 yn Nhredegar, Blaenau Gwent, gan gloi â noson wobrwyo fawreddog yn Neuadd Ddawns y Frenhines yng nghanol y gymuned leol.
Gŵyl Ffilmiau LHDTC+ Gwobr Iris
Mae'r dathliad byd-eang o straeon LHDTC+ yn dod â gwneuthurwyr ffilmiau o bob cwr o'r byd i Gaerdydd, ac mae'n gartref i wobr ffilm fer fwyaf y byd – Gwobr Iris, sy'n werth £40,000. Caiff yr ŵyl eleni ei chynnal o’r 13eg i’r 19eg Tachwedd, gan gynnig y cyfle i weld y goreuon ym maes creu ffilmiau byrion a ffilmiau nodwedd LHDTC+ ar hyn o bryd, yn ogystal â digwyddiadau arbennig a phartïon chwedlonol. Bydd Ffilm Cymru Wales hefyd yn cadeirio trafodaeth banel ac yn cyd-gynnal derbyniad rhwydweithio gyda Bulldozer Films fel rhan o ddiwrnod diwydiant yr ŵyl.
Y Llusern Hud
Wedi'i lleoli yn nhref Tywyn ar arfordir canolbarth Cymru, mae sinema’r Llusern Hud wedi bod yn dangos ffilmiau ers 1901. Gyda chyllid gan Ffilm Cymru Wales, bydd eu prosiect newydd “Sgrin a Sgwrs” yn darparu rhaglen fisol o ffilmiau Cymraeg cyfoes a chlasurol gyda thrafodaethau ar ôl y dangosiad dan arweiniad gwesteion arbennig. Uchelgais y sinema yw denu pobl o'r cymunedau cyfagos ac adeiladu cynulleidfa reolaidd a gwerthfawrogiad o sinema wych yn y Gymraeg yn y dyfodol.
Gŵyl Ffilm WOW Cymru a’r Byd yn Un 2025-26
Eleni, mae Gŵyl Ffilm WOW yn dathlu ei 25ain gŵyl drwy lansio rhaglen sinema fyd-eang fisol arloesol a fydd yn teithio i chwech o drefi ledled Cymru: Abertawe, Aberteifi, Abergwaun, Caerdydd, Bangor ac Aberystwyth. Bydd “WOW o Amgylch Cymru” yn agor â digwyddiad Ecosinema arbennig yn Aberystwyth ar 9fed a 10fed Hydref, gan ddod â sinema ryngwladol, lleisiau lleol, a chydweithrediad cymunedol ynghyd i ddathlu pŵer ffilmiau i sbarduno deialog, ysbrydoli pobl i weithredu, a dychmygu dyfodol mwy cynaliadwy.
Dywed Prif Weithredwr Ffilm Cymru Wales, Lee Walters, “Mae gan ffilmiau bŵer unigryw i gysylltu pobl a chymunedau, ac rydyn ni’n falch o gefnogi gwyliau a sinemâu ledled Cymru sy’n dod â straeon o’r radd flaenaf i gynulleidfaoedd lleol. Boed yn dathlu sinema yn y Gymraeg, yn hyrwyddo lleisiau newydd, neu'n arddangos gwaith rhyngwladol i gynulleidfaoedd heb wasanaeth digonol, mae'r cyllid hwn yn helpu i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru gyfle i gael eu hysbrydoli gan ffilmiau. Mae ein harddangoswyr wrth wraidd yr ymgyrch hon, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar i weld sut maen nhw'n parhau i arloesi a chyrraedd cynulleidfaoedd mewn ffyrdd ffres ac ystyrlon."
Yn ogystal â chyllid, mae Ffilm Cymru Wales yn darparu cymorth, arweiniad a chyfleoedd gydol y flwyddyn ar gyfer sinemâu a gwyliau ffilm. Bydd y sesiwn rwydweithio ar-lein nesaf i arddangoswyr ffilm gael cysylltu a thrafod syniadau yn digwydd ar 9fed Hydref, a gall sefydliadau drefnu cyfarfodydd un-i-un gyda'n tîm ar 3ydd a 24ain Hydref.
Mae cylch nesaf Cronfa Arddangos Ffilmiau Ffilm Cymru Wales ar agor nawr, a’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 1af Tachwedd. Gall sinemâu annibynnol a gwyliau ffilm yng Nghymru sydd am gynnig profiadau sinematig cyffrous i gynulleidfaoedd gael gwybod mwy a gwneud cais fan yma: ffilmcymruwales.com