photo of children in blue school uniforms watching a film at a pop-up community cinema. The Columbia logo is on the projector screen and there is a Christmas tree to its right.

Sinemâu cymunedol yn llenwi’r sgrin gyda chymorth Ffilm Cymru

Bydd sinemâu untro newydd, hybiau creadigol sy’n tyfu a gwyliau ffilmiau eang yn denu ac yn diddanu cymunedau ledled Cymru diolch i Gyllid Arddangos Ffilmiau gan yr asiantaeth ddatblygu ar gyfer y sector ffilmiau yng Nghymru. 

Gydag arian y Loteri Genedlaethol wedi’i ddirprwyo gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae Ffilm Cymru Wales yn rhoi cymorth i arddangoswyr ffilmiau annibynnol i ddifyrru ac ysbrydoli pobl ledled y wlad gyda mwy o ddewis o ffilmiau. Fel rhan o ymrwymiad y sefydliad i arloesi, cynhwysiant a chynaliadwyedd, mae eu Cronfa Arddangos Ffilmiau yn annog sinemâu a gwyliau ffilmiau i ddatblygu eu gwaith mewn sector sy’n esblygu, gan gysylltu eu cymunedau lleol trwy sinema. 

Y llynedd gwnaeth Ffilm Cymru Wales ariannu wyth o sinemâu a gwyliau ffilm, gan gynnwys dathliad Cellb o ffilmiau a cherddoriaeth Cymru a’r iaith Gymraeg er cof am Emyr Glyn Williams, a thymor sinema arbennig Theatr Gwaun i groesawu cymuned newydd o ffans ffilm i Abergwaun. Yn eu hail gylch ar gyfer 2024/25, mae Ffilm Cymru Wales bellach wedi dyfarnu Cyllid Arddangos Ffilmiau i:

Sinema Gymunedol i Bawb, Cwm Afan

Yn dilyn blynyddoedd o lwyddiant yn Neuadd Gymunedol Glowyr Gwynfi a Llyfrgell Cymer, mae Sinema Gymunedol Cwm Afan bellach yn ehangu i gynnwys Noddfa Glyncorrwg, gan ddod â phrofiadau sinematig i hyd yn oed mwy o bobl sydd ag ychydig neu ddim darpariaeth fel arall. Yn ogystal â pharhau i ddarparu dangosiadau am ddim i deuluoedd ac ysgolion lleol, bydd y sinema gymunedol yn cynyddu hygyrchedd drwy ddarparu isdeitlau a chyfleusterau wedi'u gwella ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.   

Clwb Sinema Cymunedol Caerdydd    

Bydd y fenter newydd hon gan gasgliad amrywiol o wneuthurwyr ffilmiau, artistiaid, cerddorion a threfnwyr digwyddiadau yn cynnig dangosiadau rhad ac am ddim o ffilmiau beiddgar ac annibynnol mewn gwahanol leoliadau ar draws y ddinas. Gan weithio mewn partneriaeth â Future Arts Collective Cymru, bydd Clwb Sinema Cymunedol Caerdydd yn defnyddio mannau gwag ac yn grymuso cynulleidfaoedd i raglennu ffilmiau sy’n mynd i’r afael â hawliau LHDTC+, gwleidyddiaeth fyd-eang, ymgyrchu gwrth-ryfel, ffeministiaeth ac amgylcheddaeth. 

Canolfan Gelfyddydau Chapter    

Gan gynnal ei statws fel canolbwynt i gymuned greadigol Caerdydd a diwydiant ffilmiau annibynnol Cymru, bydd sinema Canolfan Gelfyddydau Chapter yn cyflwyno rhaglen amrywiol o dros 250 o ffilmiau, yn ogystal â chynnal gwyliau, digwyddiadau gwerth ychwanegol, dangosiadau hygyrch a ffilmiau a thrafodaethau Cymraeg. 

Cynefin Caerffili: Sinema Untro Sain + Golwg

Dyma fenter ddiwylliannol a chymdeithasol newydd llawn gweledigaeth sy’n canolbwyntio ar drawsnewid Caerffili drwy weithgarwch creadigol ar y cyd, gan wneud y dref yn lle gwell i fyw, gweithio, chwarae ac ymweld â hi. Wedi'i churadu gyda phobl ifanc leol, bydd y sinema untro fisol yn cael ei lansio gyda phenwythnos o ddangosiadau, dosbarthiadau meistr a sesiynau datblygu sgiliau mewn lleoliadau nad ydyn nhw’n cael defnydd digonol, fel Neuadd y Gweithwyr, Y Banc, Y Twyn, a Chanolfan Vanguard. 

Gŵyl Ffilmiau FOCUS Wales

Yn cael ei chynnal yn Theatr Iâl yng nghanol dinas Wrecsam ochr yn ochr â’r ŵyl gerddoriaeth a’r gynhadledd, mae rhaglen ddeuddydd Gŵyl Ffilmiau FOCUS Wales yn cynnwys ffilmiau nodwedd a byr o bedwar ban byd, paneli diwydiant, digwyddiadau rhwydweithio a seremoni wobrwyo. Bydd ehangu i ddwy sgrin eleni hefyd yn caniatáu i’r ŵyl gynnwys hyd yn oed mwy o ffilmiau sy’n arddangos talent o Gymru.  

Sinema Llanymddyfri

Cyn iddi gau ar ddechrau pandemig Covid-19, roedd Sinema Llanymddyfri yn fan ymgynnull hoffus i deuluoedd lleol, gweithwyr a thrigolion hŷn. Y llynedd, dechreuodd Menter Hybu Llanymddyfri ar adfywio’r sinema er mwyn dod â hud y sinema yn ôl i’r gymuned. Gyda dangosiadau misol, nosweithiau Cymraeg, ac allgymorth i drigolion incwm isel, bydd Sinema Llanymddyfri unwaith eto yn creu gofod cynnes, cynhwysol ar gyfer diwylliant a chyswllt cymunedol.

Canolfan Gelfyddydau Memo

Canolfan Gelfyddydau Memo, yn y Barri, yw’r gofod aml-gelfyddydol mwyaf ym Mro Morgannwg. Fe fyddan nhw’n lansio Sinema Memo, eu rhaglen newydd fforddiadwy a hygyrch, drwy ddangos ffilm Gymraeg ar Ddydd Gŵyl Dewi. Diolch i gymorth Ffilm Cymru Wales a’r cyngor lleol, bydd y Memo yn gallu cynnig dangosiadau dyddiol o’u hail sgrin newydd yn Haf 2025. 

Sheba Soul Ensemble

Bydd y gydweithfa o addysgwyr ffilm yn cynnal dangosiadau Clwb Ffilmiau Du 12 FLY!  mewn gofodau anhraddodiadol ar draws Aberystwyth, Bangor, Hwlffordd, Casnewydd ac Abertawe. Bydd y rhaglen yn dod â chymunedau lleol i gyswllt â gwaith gwneuthurwyr ffilmiau Du o bedwar ban byd, ac yn cynnwys sesiynau holi ac ateb, ysgrifennu creadigol, sesiynau dawns a gweithdai crefft.

Theatr Torch

Bydd canolfan aml-gelfyddydol Aberdaugleddau yn cynnal rhaglen Mannau Cynnes yn y Sinema o fis Chwefror 2025, gan gynnig gweithgarwch am bris gostyngol dros fisoedd y gaeaf. Bydd 10 dangosiad wythnosol o ffilmiau annibynnol wedi’u curadu gan grŵp llywio cymunedol yn dod â phobl ynghyd yn sinema’r Torch gyda lluniaeth am ddim a sgyrsiau ar ôl y ffilm.  

Y Neuadd Les

Bydd y ganolfan gelfyddydol gymunedol 90 oed yn Ystradgynlais yn cyflwyno eu rhaglen newydd o ddigwyddiadau, Screen Social, i ddarparu cyfleoedd sinema ar y cyd i bobl sy’n profi unigedd, tlodi a phroblemau iechyd meddwl. Bydd y lleoliad yn datblygu eu perthynas â sefydliadau lleol fel MIND Ystradgynlais, Calan DVS ac Anabledd Dysgu Cymru i sicrhau bod y dangosiadau yn ofod diogel a chroesawgar i bawb. 

Gŵyl Ffilmiau WOW 2025

Bydd gŵyl ffilmiau mwyaf hirhoedlog Cymru yn dod â sinema’r byd i leoliadau ar draws Aberystwyth, Bangor, Aberteifi ac Abergwaun y mis Mawrth hwn. Wrth archwilio themâu heddwch ac ymddiriedaeth drwy sinema fyd-eang, bydd yr ŵyl yn cynnwys rhaglen Ecosinema o ffilmiau a thrafodaethau amgylcheddol, a detholiad o ffilmiau o Gymru. 

Meddai Prif Weithredwr Ffilm Cymru Wales, Lee Walters, “Does dim ffordd well o rannu straeon a phrofiadau na chyda chynulleidfa yn eich sinema leol, ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r sefydliadau hyn i wneud ffilmiau yn ganolbwynt i’w cymunedau. Yn y flwyddyn sydd i ddod fe fyddwn ni’n parhau i addasu ein cyllid i ddiwallu anghenion a gwireddu uchelgeisiau arddangoswyr Cymru orau wrth iddyn nhw wynebu heriau newydd mewn sector sy’n datblygu’n gyflym.”

Yn ogystal â chyllid, mae Ffilm Cymru Wales yn darparu cymorth, arweiniad a chyfleoedd gydol y flwyddyn ar gyfer sinemâu a gwyliau ffilm. Bydd eu sesiwn rwydweithio ar-lein nesaf ar gyfer arddangoswyr ffilm yn trafod syniadau ar gyfer gwneud sinemâu Cymru yn fwy amgylcheddol gynaliadwy. Bydd Te Gwyrdd yn cael ei gynnal ar 20 Chwefror, a gall pobl gofrestru i gymryd rhan fan yma.

Bydd cylch nesaf Cronfa Arddangos Ffilmiau Ffilm Cymru Wales yn agor ar 28 Ebrill 2025, a'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 4 Gorffennaf.