Hyfforddeion Ffilm Casnewydd - Swyddi Gwag
Hoffai Ffilm Cymru Wales wahodd ceisiadau am nifer o swyddi byr dan hyfforddiant ar lefel mynediad gan weithio ar ffilm ddogfen fer yng Nghasnewydd.
Fel rhan o'r rolau hyn byddwn hefyd yn darparu diwrnod o hyfforddiant i ymgeiswyr llwyddiannus, i'ch paratoi i fod ar set a gwneud yn siŵr eich bod yn barod i neidio i mewn i'ch rolau.
Y Ffilm
Mae Rebels and Renaissance yn archwiliad sinematig o artistiaid Casnewydd a’i hanes dosbarth gweithiol o wrthryfel y siartwyr, gan gyfleu hanfod ei chymuned eclectig ac amrywiol o brosiectau ac unigolion dawnus yn 2024. Mae'n mynd ati i ofyn 'Beth yw cyfrifoldebau'r artistiaid a pha mor werthfawr yw celfyddyd i bobl Casnewydd, trwy waith pobl greadigol lleol.
Swyddi Gwag
Swyddi gwag dan hyfforddiant ym mhob un o’r adrannau canlynol:
- Camera
- Sain
- Grips
- Cynorthwy-ydd / Rhedwr Cynhyrchiad
- Lleoliadau
Bydd y ffilm yn cynnwys criw bach ffilm ddogfen, gyda nifer o leoliadau a chyfranwyr ar y sgrin ledled Casnewydd. Bydd y gwaith yn gyflym ac yn ymarferol: cyfle gwych i ddysgu sut mae ffilmiau dogfen yn cael eu gwneud, a sut mae criwiau bach yn cydweithio i greu'r hyn a welwch chi ar y sgrin.
Gofynion
Cyfleoedd dysgu LEFEL MYNEDIAD yw’r swyddi hyn. Nid oes angen unrhyw brofiad proffesiynol arnoch yn yr adrannau, ond dylech fod / fod â:
- Yn fodlon ac yn barod i ddysgu sgiliau newydd a thechnegau ym maes creu ffilmiau.
- Diddordeb mewn gwneud ffilmiau dogfen a'r adran rydych yn gwneud cais iddi.
- Angerdd am y sin gelfyddydol a’r diwydiant sgrin yng Nghasnewydd.
- Yn drefnus a phrydlon.
- Yn gweithio'n dda fel rhan o dîm bach.
- Yn hyblyg ac yn gallu addasu i newid.
- Yn rhyngweithio'n hyderus ag aelodau'r cyhoedd ac ystod eang o gyfranwyr.
I fod yn gymwys ar gyfer y swyddi hyn rhaid i chi fod yn byw yng Nghasnewydd, gyda chod post Casnewydd.
Lleoliadau a Dyddiadau
Bydd y ffilmio yn digwydd dros 4 diwrnod: 16, 21, 24 a 25 Gorffennaf.
Bydd yr holl ffilmio yn digwydd yng Nghasnewydd a'r cyffiniau.
Bydd y 'Diwrnod Hyfforddiant' ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus yn cael ei gynnal cyn y ffilmiau: 10 Gorffennaf.
Cyfraddau
Bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn cael ei dalu i bob swydd.
Sut y wneud cais
I wneud cais, anfonwch CV a llythyr/fideo eglurhaol i: footinthedoor@ffilmcymruwales.com
Dyddiad cau cyflwyno ceisiadau: 9am dydd Gwener 5 Gorffennaf 2024.
I ddeall yn well yr hyn y gallai fod ei ddisgwyl gennych yn y rolau hyn, ac i helpu eich cais, edrychwch ar y dolenni isod: