Cyhoeddi gŵyl mini Gŵyl Animeiddio Caerdydd 2023
Mae rhaglen lawn pedwerydd rhifyn bach Gŵyl Animeiddio Caerdydd (CAF) 24ain-25ain Mawrth 2023 bellach wedi’i chyhoeddi, ac mae tocynnau ar werth nawr.
Bydd Mini-CAF 2023 yn dathlu animeiddio gyda dau ddiwrnod o ddigwyddiadau yng Nghaerdydd ac ar-lein, yn cynnwys dangosiadau ffilm nodwedd a byr, sesiynau holi ac ateb, dosbarthiadau meistr, gweithdai a mwy.
Y thema ar gyfer Mini-CAF 2023 yw popeth mini, gan ddathlu'r pethau bach sy'n gwneud animeiddio mor arbennig. Bydd y rhaglen yn cynnwys: sgwrs gan yr animeiddiwr Cymreig a seren cyfryngau cymdeithasol, Ketnipz, dangosiad o'r ffilm stopio-symudiad sydd wedi’i enwebu am Oscar, Marcel the Shell with Shoes On, Aardman yn trafod eu cyfres The Very Small Creatures, One Bum Cinema Club (o bosibl y sinema leiaf yn y byd) yn cymryd ei le yng nghyntedd Chapter a dangosiad o enillydd gwobr Cristal Annecy 2022, Little Nicholas.
Wrth gyhoeddi’r rhaglen, dywedodd Cyfarwyddwr Gŵyl Animeiddio Caerdydd Lauren Orme: Bydd Mini-CAF yn rhoi blas i gynulleidfaoedd o’r cyfeiriad yr ydym am symud iddo fel gŵyl dros y blynyddoedd nesaf. Un o'n prif nodau yw cefnogi lles ein cynulleidfaoedd. Felly rydyn ni'n cynnal mwy o ddigwyddiadau cymdeithasol, mwy o brydau y gall pobl eistedd i lawr a bwyta gyda'i gilydd, a cherfio mwy o le rhwng digwyddiadau ar gyfer y sgyrsiau hudol yna sydd ond yn digwydd mewn gwyliau. Rydym hefyd wrth ein bodd y bydd yr ŵyl gyfan yn hygyrch i gynulleidfaoedd B/byddar. Bachwch docyn Cynnig Cynnar cyn iddyn nhw werthu pob tocyn!”
Cynhelir Mini-CAF 2023 ddydd Gwener 24 a dydd Sadwrn 25 Mawrth yn Chapter, canolfan gelfyddydau annibynnol a gofod sinema yng Nghaerdydd, ac ar-lein.