Prosiect hyfforddi yn addo dyfodol disglair i gymunedau a diwydiant ffilm Casnewydd
Mae'r prosiect hyfforddi ffilm a theledu mwyaf erioed wedi rhoi cyfle i gannoedd yng Nghasnewydd roi eu Troed yn y Drws ar ôl blwyddyn eithriadol i'r diwydiant ffilm yng Nghymru.
Gall rhaglen Ffilm Cymru, sydd wedi dod â channoedd o gyfleoedd hyfforddi a swyddi i Gasnewydd, droi “talent amrwd” y ddinas yn gyfleoedd economaidd cynaliadwy i gymunedau'r ddinas, yn ôl yr actor a'r ferch o Gasnewydd, Alexandria Riley.
Ers y gwanwyn eleni, drwy raglen Troed yn y Drws, mae Ffilm Cymru wedi gweithio gyda dros 800 o bobl yng nghymunedau Casnewydd i daflu goleuni ar yrfaoedd ym myd ffilm a theledu, datblygu sgiliau a chynnig cyfleoedd i bobl sydd â sgiliau trosglwyddadwy symud i'r sector sgrin.
Ar ôl blwyddyn arloesol i ddiwydiant ffilm Cymru, gyda chynyrchiadau adnabyddus fel Sex Education, Willow, a His Dark Materials 3 yn cynhyrchu dros £155 miliwn o wariant i economi Cymru ers 2020, mae rhaglen Troed yn y Drws wedi sicrhau swyddi i hyfforddeion mewn pum cynhyrchiad yng Nghymru ar gyfer cynhyrchwyr fel Netflix a Disney+, gan gynnwys rolau â thâl yn yr adrannau gwallt a cholur, rigio, lleoliadau a chynhyrchu.
Meddai’r actor o Gasnewydd sydd wedi serennu yn The Pembrokeshire Murders, The Pact, Galwad a The End of the F***ing World: “Pan fydd unrhyw beth yn codi sy'n ymwneud â Chasnewydd a'r diwydiant ffilm, rydw i yno ar unwaith. Fel merch o Gasnewydd, rydw i mor ymwybodol o'r talent amrwd sydd yn y ddinas, ac rydw i mor gyffrous i weld bod Troed yn y Drws wedi gallu dod â'r cyfleoedd hyn i Gasnewydd a dangos i'r gymuned eu bod yn hygyrch i bawb a phob un.”
Mae Alexandria wedi gweithio gyda phartner diwydiant Ffilm Cymru ac elusen eiriolaeth a chelfyddydau ieuenctid Urban Circle, sefydliad y bu’n ymwneud ag ef ers ei sefydlu, ar eu sioe newydd, Urban School of Arts.
“Fe wnaf i gymryd unrhyw gyfle i roi rhywbeth yn ôl i gymuned Casnewydd,” meddai. “Rwy'n dal wrth fy modd â gwaith cymunedol a'r wefr a gaf o weithio gyda'r bobl dalentog hyn yw fy hoff beth i'w wneud.”
Mae stori Kevin Hayward yn esiampl o blith y llwyddiannau. Mae'r gŵr 54 oed o ganol dinas Casnewydd yn gyn-beiriannydd sydd wedi croesi i'r sector ffilm drwy fod yn rhan o’r prosiect.
Roedd Kevin wastad wedi bod eisiau gweithio ym myd ffilm ers oedd yn ifanc ond ni wyddai ble i ddechrau arni. Ar ôl darganfod Troed yn y Drws drwy gynllun Ailgychwyn yr Adran Gwaith a Phensiynau, cwblhaodd Kevin yr hyfforddiant priodol gyda Troed yn y Drws a Chynghrair Sgrin Cymru cyn dechrau ar leoliad fel drafftiwr AutoCAD gydag Extreme Rigging, cwmni rigio a gwaith stynt yng Nghil-y-coed.
Wrth sôn am ei brofiad, dywedodd Kevin: "Roedd yn teimlo’n berffaith i mi - fel dyn hŷn gyda gyrfa mewn diwydiant hollol wahanol, doeddwn i ddim yn hyderus y byddwn i byth yn gallu cael fy hun i mewn i'r diwydiant ac ymhlith y bobl iawn, ac roeddwn i'n poeni y gallwn i fod yn rhy hwyr, ond dangosodd Troed yn y Drws i mi nad yw byth yn rhyw hwyr i gymryd y cam yna."
"Fe wnaeth Troed yn y Drws fy ngalluogi i ddefnyddio fy ngwybodaeth o fy ngyrfa mewn peirianneg meddalwedd mewn diwydiant roeddwn i wastad wedi breuddwydio am fod yn rhan ohono.
Mae partneriaid Troed yn y Drws, Urban Circle, Cyngor Casnewydd, Cynghrair Sgrin Cymru, Sgil Cymru, Cult Cymru/BECTU, Prifysgol De Cymru, Tai Pobl a Choleg Gwent, wedi cynnal 65 o ddigwyddiadau gwahanol yn ystod y flwyddyn, cymuned sy'n golygu bod Casnewydd mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol yn ôl Faye Hannah, Pennaeth Sgiliau a Hyfforddiant Ffilm Cymru. Meddai: “Mae sector ffilm a theledu Cymru yn flaenoriaeth i economi Cymru a dylai mynediad i'r diwydiant fod yn agored i bawb. Roeddem yn gwybod y byddai Casnewydd yn lle perffaith i feithrin dyheadau i weithio yn y sector ffilm a theledu, ac mae'r hyn y mae cymunedau'r ddinas wedi'i roi yn ôl eleni wedi bod yn eithriadol.
“Mae hon yn ddinas sy'n llawn dop o greadigrwydd ac uchelgais. Yr hyn y mae Troed yn y Drws wedi gallu ei wneud yw rhoi llwybr i bobl - efallai rhai a oedd yn trin gwallt, yn arlwywyr neu’n seiri coed gynt - i ddod â'u sgiliau i sector sydd â galw mawr amdanynt, tra'n rhoi cymorth ar gyfer costau fel gofal plant a theithio.
“Mae Ffilm Cymru wedi ymrwymo i barhau i weithio yn y gymuned. Dim ond dechrau yw hyn i Gasnewydd. Byddem nawr wrth ein bodd yn gweld sut y gall y model yma ymestyn a chynnig cyfleoedd tebyg i leoliadau eraill ledled Cymru.”
Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Mae Troed yn y Drws wedi bod yn wych i Gasnewydd. Mae datblygiad y diwydiannau creadigol yn bwysig iawn i ni ac ar ddechrau'r prosiect hwn roeddem yn gwybod y byddai digonedd o dalent naturiol lleol a fyddai'n elwa o'r prosiect.
“Mae gweld nifer y bobl y mae Ffilm Cymru wedi gweithio gyda nhw a'r cyfleoedd anhygoel sydd wedi’u cynnig iddyn nhw yn anhygoel. Dymunaf bob lwc i bob cyfranogwr wrth iddynt ddatblygu eu gyrfaoedd yn y sector.
“Rydym yn diolch i bawb a fu’n rhan o'r prosiect — anrhydedd oedd cael bod yn rhan ohono ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gyflawni rhagor o brosiectau llwyddiannus drwy bartneriaeth yn y dyfodol.”
Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU. Rhaglen gan Lywodraeth y DU ar gyfer 2021/22 yw Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU, a’i nod yw cefnogi’r bobl a’r cymunedau mwyaf anghenus ledled y DU i dreialu rhaglenni a dulliau newydd o baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, cymuned a lle, ac mewn busnesau lleol, ac hefyd yn paratoi pobl ar gyfer y byd gwaith.