Troed yn y Drws
Rydym o’r farn bod angen i ddiwydiant ffilm Cymru fod yn gryf a chynaliadwy ac ar gael i bawb, beth bynnag fo’u cefndir, eu hincwm neu eu profiad. Dyna pam ‘rydym yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Cymdeithasau Tai, awdurdodau lleol a chanolfannau gwaith, i roi mynediad i bobl na fyddent fel arall yn ystyried bod gyrfa mewn ffilm yn bosib, at rwydweithiau, gwybodaeth a chyfleoedd gwaith er mwyn eu galluogi i gael eu Troed yn y Drws.
‘Rydym yn darganfod a chreu cyfleoedd yn lleol i bobl ddysgu am, a throsglwyddo sgiliau gwerthfawr fel gwaith coed, gwallt, colur a gwisgoedd ar setiau ffilm a theledu yng Nghymru. Mae’r mathau hyn o sgiliau a swyddogaethau hefyd yn werthfawr yn y sector creadigol ehangach, fel yn y theatr, mewn digwyddiadau, a thu hwnt.
‘Rydym yn cynnig adnoddau a chefnogaeth am bethau fel cludiant a gofal plant, gan sicrhau fod Troed yn y Drws yn gyfle all weithio i chi, beth bynnag fo’ch amgylchiadau.
Yn bwysicaf oll, bydd Troed yn y Drws yn rhoi hyder a phrofiad ymarferol i chi wrth i chi gymryd y cam cyntaf ar y daith o sicrhau gwaith.
Latest Opportunities
If you want to become a Foot in the Door trainee in the future, or you are a Film and TV company or community group that would like to discuss the benefits Foot in the Door can bring to your work please contact us at footinthedoor@ffilmcymruwales.com.
Mae rhai o’r bobl sydd wedi derbyn hyfforddiant o’r blaen wedi gweithio ar:
Apostle
Bu i un ar ddeg o bobl dan hyfforddiant dreulio wythnos yn Ne Cymru ar set Apostle a wnaethpwyd i Netflix. Gareth Evans (The Raid) oedd y cyfarwyddwr. Michael Sheen (The Queen, The Twilight Saga) a Dan Stevens (Beauty and the Beast) oedd yn serennu. Bu i’r hyfforddiant hefyd gynnwys ymweliad â set Doctor Who yn stiwdios BBC Cymru / Wales ym Mhorth y Rhath.
Denmark
Cafodd tri o bobl a gafodd hyfforddiant ar Apostle eu gwahodd i fynd ar leoliad am gyfnod hirach, a cael eu talu, ar set y ddrama gomedi newydd Denmark. Rafe Spall (Jurassic World: Fallen Kingdom) sy’n serennu, a chynhyrchwyd y ffilm gan Severn Screen. Bydd yn cael ei rhyddhau yn ddiweddarach eleni.
Craith (De Cymru)
Cafodd deg cyfranogwr o Flaenau Gwent hyfforddiant ar set cyfres ddrama arswyd Severn Screen Craith / Hidden, gafodd ei darlledu ar S4C a BBC llynedd.
Craith (Gogledd Cymru)
Cafodd Craith / Hidden ei ffilmio yng Ngogledd Cymru hefyd, a bu i Troed yn y Drws ddarparu lleoliadau ar-set i un ar ddeg o gyfranogwyr araill, yn ogystal ag wythnos o hyfforddiant pwrpasol.
Un Bore Mercher / Keeping Faith
Cafodd dri o siaradwyr Cymraeg fynd ar leoliad ar set drama S4C / BBC Cymru Wales, Un Bore Mercher / Keeping Faith gydag Eve Myles
Dream Horse
Ar ein rhaglen Troed yn y Drws fwyaf cafodd 35 o gyfranogwyr gyfle i gysgodi a chael eu hyfforddi ar set y ffilm newydd Dream Horse. Toni Collette a Damian Lewis sy’n serennu yn yr addasiad dramatig newydd yma o stori ryfeddol Dream Alliance, pencampwr yn y byd rasio ceffylau. Saethwyd y ffilm yng ngwanwyn 2019 yn ac o amgylch Blaenafon, gydag Euros Lyn yn cyfarwyddo.