Gyrfaoedd Sgrin: Dylunydd Gwallt a Cholur
Mewn ffilmiau a dramâu teledu, bydd Dylunwyr Gwallt a Cholur yn helpu’r actorion i bortreadu eu cymeriadau gan ddefnyddio gwallt a cholur i greu golwg.
Claire Pritchard-Jones
Mae gan Claire fwy na 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant ffilm a theledu gan ennill nifer o wobrau ac enwebiadau ym Mhrydain a’r Unol Daleithiau.
Ar ôl gadael ysgol yng Nghwm Rhymni, hyfforddodd Claire i fod yn Therapydd Harddwch ac wedyn aeth yn ei blaen i adeiladu ar y sgiliau sydd eu hangen i fod yn artist coluro, gan ymddiddori’n fawr mewn cymeriadau a golwg cyfnod ar gyfer dramâu. Roedd hyfforddiant pellach mewn gwaith barbwr, trin gwallt cyfnod, gwaith â wigiau ac effeithiau arbennig â cholur yn fanteisiol gan ganiatáu iddi gyrraedd ei nod fel hyfforddai yn y BBC.
Fel aelod o staff yno am 10 mlynedd, roedd modd iddi dderbyn hyfforddiant a mentoriaeth bellach gan garfan o artistiaid coluro, goruchwylwyr a Dylunwyr. Mae hyn wedi galluogi Claire i ddatblygu i fod yn Bennaeth Adran medrus iawn yn y sector llawrydd, gan adeiladu timau o weithwyr proffesiynol creadigol a medrus o rai ar brofiad gwaith i oruchwylwyr uwch sy’n barod i ymgymryd â’u prosiectau Dylunio eu hunain gyda chymorth a chefnogaeth barhaus.