Farhan Asif

Swyddog Cyllid
Mae Farhan yn cefnogi'r Rheolwr Cyllid gyda’r gwaith o reoli tasgau ariannol.
Mae gan Farhan Asif radd BA (Anrhydedd) mewn Cyfrifeg a Chyllid o Brifysgol Gorllewin Lloegr, a thystysgrif sylfaen mewn Gwyddorau Iechyd o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, ac mae’n gweithio’n broffesiynol yn y maes. Mae ganddo brofiad sylweddol mewn adrodd ariannol, mewn rheoli risg, ac mewn cynnig cymorth archwilio, yn sgil ei waith fel Swyddog Cyfrifon Cleientaid yn PwC. Yn y swyddogaeth hon, roedd Farhan yn rheoli cyllidebau, yn cynnal rhagolygon, ac yn rheoli tasgau cydymffurfio ariannol. Mae ei arbenigedd yn cynnwys rheoli cysylltiadau â chleientiaid, y gwaith o ddadansoddi ariannol ac o wella gweithrediadau. Mae Farhan yn frwd dros ddefnyddio ei sgiliau ariannol i gyfrannu at drawsnewid y maes archwiliadau, cydymffurfiaeth, ac o gydweithio â rhanddeiliaid.