a photo of a person posing for a photo in an art studio. Behind them is a desk with art supplies on it and a wall with pictures stuck on it.

Y gwaith cynhyrchu’n dechrau ar ffilmiau byrion Beacons, Ffilm Cymru Wales

Mae’r asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilmiau Cymreig wedi comisiynu saith ffilm fer newydd i’w cynhyrchu trwy gynllun Beacons, gyda chefnogaeth BBC Cymru Wales a RHWYDWAITH y BFI gyda chyllid gan y Loteri Genedlaethol.

Mae Beacons yn taflu goleuni ar dalent o Gymru, gan gefnogi gwneuthurwyr ffilm newydd o Gymru i greu cerdyn galw sinematig trwy gynnig cyllid, hyfforddiant, mentoriaeth a chyngor. Mae llawer o’r bobl greadigol sydd y tu ôl i'r ffilmiau byr yma yn adeiladu ar eu cefndir ym myd teledu, theatr, dawns, cerddoriaeth a llenyddiaeth er mwyn mentro i fyd y ffilm.

Meddai Jude Lister, Rheolwr RHWYDWAITH BFI Cymru: “Roedd hon yn flwyddyn hynod gystadleuol unwaith eto i gynllun Beacons, a hoffwn longyfarch pob un o’r timau sydd wedi eu cefnogi i ddatblygu eu prosiectau ar yr hyn y maent wedi’i gyflawni. Bydd y ffilmiau sydd wedi eu comisiynu’n ffilmiau byr sinematig nodedig gan rai o’r talentau creadigol mwyaf cyffrous sy’n bodoli yng Nghymru heddiw; o ffilm arswyd werin Gymraeg, i waith wedi’i animeiddio sydd wedi’i ysbrydoli gan fytholeg, o ffilm ddogfen gyfeillgar, agos-atoch, i gomedi dywyll a drama arbrofol.”

Y saith ffilm fer newydd fydd yn cael eu cynhyrchu yw:

Fisitor

Awdur/Cyfarwyddwr: Llŷr Titus
Yn y ffilm arswyd werin Gymraeg yma, mae Ioan yn galaru yn sgil colli ei ŵr pan mae presenoldeb sinistr yn ymweld ag ef. Dywed yr awdur Llŷr Titus, a enillodd wobr Tir Na N-Og am ei nofel gyntaf Gwalia, “Rwyf wedi gwirioni ar arswyd erioed ac yn edrych ymlaen yn arw at ddod â Fisitor yn fyw ar y sgrin. Mae’r syniad wedi bod gyda mi ers cryn amser, ac mae’r stori’n agos at fy nghalon; bydd ei rhannu â chynulleidfa’n gyffrous iawn.”

G Flat

Awdur/Cyfarwyddwr: Peter Darney
Cynhyrchydd: Brett Webb
Mae dyn 84 oed wedi goroesi cael strôc ac yn llogi gweithiwr rhyw sy’n arwain at uchafbwynt go annisgwyl. Meddai’r awdur-gyfarwyddwr hoyw Peter Darney sy’n gweithio ym myd ffilm a theatr, “Mae G Flat yn cynnwys amrediad o faterion a themâu yr wyf wedi bod yn eu harchwilio yn fy ngwaith dros y blynyddoedd - rhagfarn, unigrwydd, cefnogaeth rhwng cenedlaethau, cyffuriau hamdden ac agosatrwydd hoyw. Mae mor cŵl medru eu cyfuno i wneud ffilm fer Gymraeg Hoyw newydd. Rwyf wedi cyfarfod â chymaint o bobl anhygoel drwy weithio gyda Ffilm Cymru, ac rwy’n hynod gyffrous i barhau â’r siwrnai honno.”

Geronimo

Awdur/Cyfarwyddwr: Geraint Morgan
Cynhyrchydd: Catrin Lewis Defis
Mae perchennog arcêd ddifyrion yn ofni bod yr hen wraig sy'n bodoli’n ei freuddwydion nid yn unig yn ei yrru'n wallgof, ond hefyd yn araf ddinistrio ei fusnes. Mae gan Geraint Morgan brofiad helaeth o ysgrifennu a chyfarwyddo ar gyfer y teledu, y theatr a’r radio. Meddai, “Rwyf wrth fy modd cael cydweithio â thalent arbennig ar ac oddi ar y camera ar Geronimo, prosiect sydd wedi’i ysbrydoli gan un o nifer o’r straeon rhyfeddol mae teulu fy mhartner wedi eu rhannu â mi am fywyd mewn arcêd yn y Rhyl. Dylwn ychwanegu bod yma tipyn go lew o or-ddweud, felly rydw i wir yn gobeithio y byddan nhw'n dal i siarad â mi unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau.”
 

Hounds of Annwn

Awdur: Bethan B. Hughes
Cyfarwyddwyr: Bethan B. Hughes & Bryony Evans
Cynhyrchydd: Lauren Orme
Uwch Gynhyrchydd: Helen Brunsdon
Ffilm ddigidol 2D wedi ei hanimeiddio sy'n adrodd hanes rhyfelwr sydd wedi ei glwyfo wrth iddo ddychwelyd i'w bentref, ac wedyn yn cael ei hela gan haid o gŵn rhyfedd. Wedi helfa enbyd rhaid iddynt wynebu eu gorffennol er mwyn darganfod heddwch yn eu dyfodol. Mae gan y cyfarwyddwyr Bethan B. Hughes a Bryony Evans flynyddoedd lawer o brofiad o weithio ar gyfresi teledu wedi eu hanimeddio. Cynhyrchir y ffilm gan gyn-fyfyriwr y Beacons, a gyrhaeddodd restr fer BAFTA, Lauren Orme (Creepy Pasta Salad). Meddai’r tîm, “Rydym mor gyffrous ein bod wedi cael comisiwn i gynhyrchu ffilm fer newydd wedi ei hanimeiddio sydd â’i gwreiddiau yn nwfn yn llên gwerin Cymru. Mae cadarnhau’r cyllid yn golygu y gallwn weithio gyda thîm medrus iawn ac ymrwymo’n llawn i’r prosiect.”

The Queer Trichotomy 

Cyfarwyddwr: Ren Faulkner
Cynhyrchydd: Toby Cameron, On Par Productions
Mae’r rhaglen ddogfen hon yn adrodd tair stori hoyw trwy dri apwyntiad sy’n newid bywydau: apwyntiad i dorri gwallt, i gael tatŵ ac i gael sesiwn dylino. Meddai’r Cyfarwyddwr, Ren Faulkner, sydd wedi gwneud ffilmiau dogfen byr o’r blaen, “Alla i ddim aros i ddechrau gweithio ar The Queer Trichotomy a chreu rhywbeth sydd mor agos at fy nghalon, gan ddod â’r profiad hoyw rydw i’n ei adnabod i’r sgrin a chaniatáu i eraill i weld eu hunain ynddo.”

Seven

Awdur/Cyfarwyddwr: Krystal S. Lowe
Mae menyw yn deffro wedi’i llethu gan iselder, nes i daith mewn car arwain at foment o ryddhad annisgwyl ble mae hi’n ailddychmygu ei hun. Bu i Krystal S. Lowe, sy’n ddawnswraig, yn goreograffydd ac yn wneuthurwr ffilmiau wneud ei ffilm fer gyntaf, Daughters of the Sea, drwy gynllun Ffolio Ffilm Cymru. Meddai hi, “Mae’n anodd mynegi pa mor awyddus a chyffrous ydw i fod Seven wedi ei dewis yn un o gomisiynau ffilmiau byr Beacons. Yn sgil fy nghyfnod datblygu gyda Beacons rwy’n teimlo hyd yn oed yn fwy ynghlwm â’r gwaith ac wedi ymrwymo i rannu’r stori hon â chynulleidfaoedd. Fy ngobaith yw y bydd fy ffilm fer yn cynnig persbectif newydd ar fyw gydag iselder yn ogystal â chynnig cefnogaeth i’r rhai sy’n byw gyda’r cyflwr. Alla i ddim aros i gychwyn arni!”

a still from hounds of annwn featuring a person walking across a desolate field with a hill in the background.

Spectre of the Bear

Awdur: Ioan Morris
Cyfarwyddwr: Josh Hicks
Cynhyrchydd: Nia Alavezos
Mae obsesiwn un dyn â chreision yn tyfu’n fwyfwy afiach... ac nid oherwydd ei fod yn eu bwyta. Mae ymchwil ysol Tom am y gwir yn mynd ag ef ar daith i’r diffeithwch yn y ffilm gomedi fer hon, ffilm sydd wedi ei hanimeiddio. Mae’n sôn am hiraeth, am gynllwyn corfforaethol ac am greision siâp arth. Meddai’r awdur Ioan Morris a’r cyfarwyddwr Josh Hicks, ill dau wedi gwirioni ar nofelau graffig a llyfrau comig, “Rydym wrth ein bodd bod Ffilm Cymru Wales a BBC Wales wedi dewis herio’r awdurdodau gan ein galluogi i wneud yr exposé yma (mae hon hefyd yn ffilm wedi ei hanimeiddo) am y pwnc amserol hwn: creision. Mae’n ddigon posibl y bydd Spectre of the Bear yn newid y byd, ond os na fydd hynny’n digwydd, o leiaf bydd hi’n ddoniol.”

Yn dilyn y dyfarniadau cyllid ar gyfer gwaith datblygu ym mis Hydref, aeth y timau prosiect llwyddiannus ymlaen â’u sgriptiau dan arweiniad Ffilm Cymru, RHWYDWAITH y BFI Cymru a BBC Cymru Wales. Roedd y broses yn cynnwys sesiynau datblygiad proffesiynol dan law Antoine Le Bos (ymgynghorydd sgriptiau a sylfaenydd Le Groupe Ouest), a chyn-fyfyrwyr y Beacons, yn ogystal â sesiynau mentora gan wneuthurwyr ffilm fel Prano Bailey-Bond (Censor), Suki Chan (Hallucinations), Rosemary Barker, Jeanie Finlay (Orion: The Man Who Would Be King) a Roger Williams (Gwledd / The Feast).

Meddai Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru Wales: “Mae bob tro’n anhygoel gweld yr amrywiaeth eang o ffilmiau sy’n cael eu comisiynu ar gyfer Beacons; gwledd go iawn i gynulleidfaoedd ac adlewyrchiad gwych o’r amrywiaeth gyfoethog o storïwyr sy’n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd. Pan fydd setiau bocs y ffilmiau yma’n eistedd yn falch ar iPlayer bydd modd i chi glicio eich ffordd trwy amrediad eang ac amrywiol iawn o leisiau gwreiddiol, mae'n wych - cewch gyfle i ymgolli’n llwyr. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu comisiynu.”

Mae ffilmiau byr a gynhyrchwyd trwy raglenni blaenorol y Beacons wedi ennyn cydnabyddiaeth o ran gwobrau yn ddiweddar; Cwch Deilen, enwebwyd stori garu swynol Efa Blosse-Mason, stori wedi’i hanimeiddio, ar gyfer y Ffilm Fer Brydeinig Orau yng Ngŵyl Ffilm LGBT+ Gwobr Iris 2021 cyn cael ei darlledu ar Sianel 4, tra gafodd Father of the Bride gan Rhys Marc Jones, ac I Choose gan Tina Pasotra eu henwebu am y Ffilm Fer Orau yng ngwobrau BAFTA Cymru y llynedd.

a still from spectre of the bear featuring a packet of bear shaped potato snacks on the floor

Anelir at agor y cylch nesaf o arian Beacons ar gyfer ffilmiau byrion yn ddiweddarach yn 2022.