inside the lyric theatre cinema

Sky’n cyhoeddi cychwyn cynhyrchu yng nghymru ar gyfer ‘save the cinema’

Mae’r gwaith cynhyrchu wedi cychwyn yng Nghymru ar ffilm newydd Sky Original, Save the Cinema, a fydd ar gael mewn sinemâu ac ar Sky Cinema tua diwedd 2021. Mae'n cael ei chyd-gynhyrchu gan Sky a FAE Film & Television ar y cyd â Head Gear Films, Lipsync a Ffilm Cymru.

Mae pob aelod o gast Save the Cinema, gan Sky Original, yn dod o wledydd Prydain, gan gynnwys Samantha Morton (Fantastic Beasts & Where To Find Them), Tom Felton (Harry Potter), Jonathan Pryce (Game of Thrones), Adeel Akhtar (Enola Holmes), Erin Richards (Gotham), Owain Yeoman (Emergence), Susan Wokoma (Enola Holmes), Colm Meaney (Gangs Of London), Rhod Gilbert (Have I Got News For You) a Keith Allen (Kingsman: The Golden Circle). Mae’r ffilm i godi’r ysbryd wedi’i seilio ar ymdrechion un ferch i ddod â’r gymuned at ei gilydd i achub y sinema leol.  

Wedi’i gosod yn y 90’au, mae Save the Cinema yn cael ei hysbrydoli gan Liz Evans, (Samantha Morton), dynes trin gwallt ac un o hoelion wyth y gymuned yng Nghaerfyrddin. Ei bwriad yw atal y teirw dur rhag chwalu Theatr y Lyric a throi’r safle’n ganolfan siopa.  Gyda’r bygythiad o ddymchwel yn tyfu bob dydd, mae Liz a’i ffrindiau’n cloi eu hunain yn y sinema, a, gyda help Richard, postmon sydd hefyd yn gynghorydd lleol, (Tom Felton), mae’n nhw'n paratoi cynllun.    

I adfywio’r sinema ac i atal y cyngor rhag rhwygo’r galon o’r gymuned, mae Liz, ar ben ei thennyn, yn perswadio Richard i ysgrifennu i Hollywood i ofyn am help.  Un alwad ffôn yn ddiweddarach, ac mae gwneuthurwr ffilmiau dylanwadol yn cytuno i gynnig rhywbeth arbennig iawn i Gaerfyrddin, ond a fydd hyn yn helpu i achub y Lyric?

Mae Save the Cinema, gan Sky Original, yn cael ei chyfarwyddo gan Sara Sugarman o Gymru (Confessions of a Teenage Drama Queen), cafodd ei hysgrifennu gan o Piers Ashworth (Fisherman’s Friends) o stori gan Lorraine King, sydd hefyd o Gymru, ac mae’n cael ei chynhyrchu gan Matt Williams, Piers Tempest a Karl Hall yn FAE Film & Television. Sky sy’n ariannu’r ffilm yn bennaf gyda chefnogaeth Head Gear Films, Lipsync a Ffilm Cymru Wales a chan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor y Celfyddydau Cymru.  Y cynhyrchwyr gweithredol yw Julia Stuart, Sarah Wright, Phil Hunt, Compton Ross, Norman Merry, Peter Hampden a Bizzy Day.

Mae Ffilm Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin, Sgrîn Cymru a'r tîm cynhyrchu'n cydweithio i wneud yn siŵr fod pawb ar y set yn dilyn deddfwriaeth a chanllawiau iechyd a diogelwch lleol a chenedlaethol. Mae’r cynhyrchiad yn cael ei ffilmio’n unol â chanllawiau'r Comisiwn Ffilm Prydeinig ar Weithio’n Ddiogel wrth Gynhyrchu Ffilmiau a Dramâu ym Mhen Ucha'r Farchnad yn ystod COVID-19.