a person sitting at a desk in front of multiple computer screens

Rhaglen gydweithredol newydd gwerth £50 miliwn i ddatblygu canolbwynt byd-eang ar gyfer cynhyrchu teledu, ffilm a chyfryngau yng Nghymru

Bydd rhaglen gydweithredol newydd gwerth £50 miliwn yn helpu i ddatblygu canolbwynt blaengar ar gyfer arloesi yn y diwydiant teledu, ffilm a’r cyfryngau ehangach yng Nghymru.

Bydd Media Cymru yn helpu i ddatblygu busnesau ac unigolion yn y sector gyda chyfres o rowndiau ariannu, hyfforddiant, ymchwil, a chyfleoedd dros y pum mlynedd nesaf a fydd yn chwyldroi tirwedd y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ac yn sicrhau statws o ragoriaeth fyd-eang.

Nod y rhaglen gydweithredol yw cryfhau cyfraniad economaidd gweithgareddau cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan greu miliynau mewn trosiant ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf, cannoedd o swyddi a chefnogi’r gwaith o greu busnesau newydd yn sector y cyfryngau.

Ymhlith y prosiectau sydd eisoes yn cael eu cefnogi mae gwneud y diwydiant sgrin yn fwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar a mynd i'r afael â diffyg amrywiaeth ym myd ffilm a theledu i helpu i wella cyfleoedd i gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae cyfleoedd ar gael i arloeswyr yn y sector wneud cais am gyllid i roi hwb i'w syniadau.

Mae Media Cymru yn cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, llywodraeth y Deyrnas Unedig drwy gronfa Strength in Places Ymchwil ac Arloesi y DU, partneriaid diwydiant a phrifysgolion, yn ogystal â Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cwmpasu deg awdurdod lleol; Blaenau Gwent, Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Bwrdeistref Sirol Caerffili, Caerdydd, Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, a Bro Morgannwg, ac mae'n cynnwys rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad.

Mae’r rhanbarth eisoes yn un o’r clystyrau cyfryngau sy’n perfformio orau a hi yw’r mwyaf ond dau ym Mhrydain ar ôl Llundain a Manceinion, ac mae’n creu un o bob wyth o’r holl swyddi newydd ym myd ffilm a theledu ym Mhrydain. Fodd bynnag, bydd tyfu’r diwydiant ymhellach i fod yn arweinydd byd-eang ym maes arloesi yn arwain at fwy o elw economaidd a chyfleoedd i'r rhanbarth a'i bobl. 

Mae 1,318 o gwmnïau yn weithredol ar hyn o bryd yn y sector cyfryngau clyweledol yn y rhanbarth, sy’n cynhyrchu trosiant blynyddol o £545 miliwn ac yn cyflogi dros 10,000 o bobl.

Bydd digwyddiad lansio ar gyfer Media Cymru yn cael ei gynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 18 Hydref lle gall sefydliadau ac unigolion yn y sector ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael a sut i gymryd rhan. 

Meddai’r Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Media Cymru: “Mae Caerdydd a’r brifddinas-ranbarth o’i chwmpas eisoes yn chwarae rhan fawr yn niwydiant y cyfryngau. 

“Mae cyllid Media Cymru yn ein galluogi ni i fod yn fwy uchelgeisiol – i wneud Cymru yn arweinydd byd-eang ar gyfer arloesi yn y cyfryngau – gyda ffocws ar dwf economaidd gwyrdd a theg yn fyd-eang. 

“Bydd ein digwyddiad lansio yn nodi’r foment pan fydd Media Cymru ar agor yn swyddogol. Byddwn yn trafod sut mae cymryd rhan ac ymuno â’r mudiad cyffrous yma.”

Un o’r cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd drwy Media Cymru yw ei Phiblinell Arloesi, sy’n darparu cyllid a chyfleoedd hyfforddi i fusnesau a phobl greadigol, gyda’r nod o gynyddu eu gallu i gynnal ymchwil, datblygu ac arloesi, a dod â rhagor o syniadau, amrywiaeth a thwf i'r diwydiant.   

Mae'r cyllid sydd ar gael yn cynnwys hyd at £10,000 ar gyfer gweithwyr llawrydd a busnesau bach a chanolig i ddatblygu syniadau ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau newydd; hyd at £50,000 i fusnesau ddatblygu prosiectau ymchwil, datblygu ac arloesi sy'n dangos potensial clir ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth diriaethol; a hyd at £200,000 ar gyfer prosiectau ag uchelgais a graddfa sylweddol sydd â'r potensial i fod yn drawsnewidiol i'r sector gydag effaith ryngwladol.  

Bydd busnesau hefyd yn cael cyfle i bartneru â sefydliadau ar draws y sector ar gyfer galwadau ariannu ar y cyd i fynd i'r afael â heriau ymchwil, datblygu ac arloesi a nodwyd neu gyfleoedd masnachol sy'n dod i'r amlwg. 
Bydd cyfle arall, Cronfa Arloesi Cynnwys y BBC, yn rhoi cyfle i rhwng tri a phum cwmni o Gymru gael hyd at £50,000 yr un i ddatblygu syniad uchelgeisiol newydd ar gyfer cynnwys ffeithiol neu chwaraeon gydag arloesedd yn greiddiol iddo, a chyflwyno dec syniadau a dilyniannau sampl sydd wedi’u hanelu i'w darlledu ar BBC One Wales ac iPlayer. 

Mae’n rhaid i gwmnïau cymwys fod ag o leiaf un credyd rhaglen deledu o fewn y chwe blynedd diwethaf, a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau ar wefan Media Cymru yw 12pm ar 18 Tachwedd. 

Yn ogystal, mae Media Cymru yn cynnal Arolwg Gweithlu Sgrin Cymru, sef yr arolwg cenedlaethol cyntaf i asesu anghenion sgiliau a hyfforddiant, agweddau a phrofiadau pobl sy'n gweithio ym maes ffilm a theledu, gemau, animeiddio, VFX, ac ôl-gynhyrchu i adeiladu sylfaen eang a chynhwysol o ddoniau ar gyfer y dyfodol.

A bydd ei fenter Gofodau Arloesi yn ceisio cysylltu cymuned amrywiol y rhanbarth o fusnesau a gweithwyr llawrydd gan ddefnyddio gweithdai wyneb yn wyneb a digidol i ddarparu mynediad at gyfleoedd i ddefnyddio technoleg newydd, cefnogaeth, a rhannu’r wybodaeth a’r syniadau diweddaraf.

Mae’r prosiectau sydd eisoes wedi’u cymeradwyo yn cynnwys Green Cymru, lle bydd Ffilm Cymru Wales – yr asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilmiau yng Nghymru – yn defnyddio cyllid gan Media Cymru i ddarparu atebion i heriau gwyrdd yn y diwydiant sgrin a chefnogi’r gwaith o ehangu cynnyrch, gwasanaethau a phrosesau cynaliadwy. 

Yn ogystal, mae cwmnïau cynhyrchu Boom Cymru a Rondo yn cydweithio ar y prosiect Chwalu’r Rhwystrau Economaidd-gymdeithasol, gan ddefnyddio cyllid i ymchwilio i’r rhwystrau i amrywiaeth economaidd-gymdeithasol yn y sector ffilm a theledu, cyn paratoi adroddiad ar y diffyg amrywiaeth a cheisio goresgyn hynny drwy ymgysylltu’n uniongyrchol ag ysgolion, colegau a chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Robert Buckland: “Mae gan Gymru ddiwydiant cyfryngau ffyniannus sydd â’r potensial i dyfu i fod yn arweinydd, nid yn unig ym Mhrydain, ond ledled y byd.

“Bydd Media Cymru yn helpu i sicrhau bod gan arloeswyr y cyfryngau yr adnoddau i ddatblygu atebion o’r radd flaenaf i faterion ein hoes, wrth iddyn nhw fwrw ymlaen â phrosiectau uchelgeisiol sy’n eu gosod ar wahân i’r gystadleuaeth.”

Meddai Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon: “Mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn o gefnogi’r cydweithio yma i helpu i adeiladu ar y llwyddiant mae cynhyrchwyr ein cyfryngau yn ei brofi ar hyn o bryd.

“Bydd rhoi cyfle i’n doniau mwyaf disglair ddatblygu ac arddangos eu gallu i arloesi nid yn unig yn gwella enw da’r diwydiant ar draws y byd, ond hefyd yn arwain at ragor o enillion ar gyfer ein heconomi a’r gymdeithas a fydd yn y pen draw o fudd i’r rhanbarth cyfan.”

Meddai’r Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: “Mae hwn yn gyfnod euraidd ar gyfer gwneud ffilmiau a chynhyrchu cyfryngau yng Nghaerdydd, ac yn sicrhau twf sylweddol yn y Diwydiannau Creadigol. Ein huchelgais yw i Gaerdydd, y Brifddinas-Ranbarth, a Chymru fod yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer arloesi a chynhyrchu yn y cyfryngau, gan arwain un o’r sectorau mwyaf llwyddiannus ym Mhrydain.
 
“Mae partneriaeth Media Cymru yn ganolog i gyflawni hynny, a bydd yn helpu i ddenu mewnfuddsoddiad, tyfu ein busnesau creadigol cynhenid mewn ffordd gynaliadwy a chynhwysol, creu swyddi, a meithrin y doniau amrywiol a fydd yn gosod Caerdydd a’r rhanbarth ehangach fel un o’r clystyrau cyfryngau mwyaf blaengar a chynaliadwy yn y byd.”

Meddai’r Cynghorydd Anthony Hunt, Cadeirydd Cabinet Rhanbarthol Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: “Rydyn ni’n hynod uchelgeisiol ynglŷn ag adeiladu ar ein sector cyfryngau yng Nghymru. Rydyn ni wedi gweld y gwahaniaeth sydd wedi’i wneud ym Manceinion, ac mae gan ranbarth Caerdydd yr holl ddoniau a’r sgiliau sydd eu hangen i wneud canolfan o’r radd flaenaf ar gyfer busnesau cyfryngau.

“Bydd Media Cymru hefyd yn chwarae rhan arwyddocaol wrth lunio adferiad economaidd ein rhanbarth yn dilyn pandemig Covid, ac yn helpu pawb, o Ferthyr i Fynwy, Blaenau Gwent i Ben-y-bont ar Ogwr, i rannu yn ein ffyniant yn y dyfodol.”