black and white still from lola featuring two people in 1940s costume standing in front of an old machine with a screen showing the moon landing

LOLA mewn sinemâu yng Nghymru

Bydd ffilm ffug-wyddonol Andrew Legge, a ariannwyd gan Ffilm Cymru, yn cael ei dangos yn y DU o 7 Ebrill drwy Signature Entertainment.

Ym 1940, mae’r chwiorydd Thom (Emma Appleton) a Mars (Stefanie Martini) wedi adeiladu peiriant, LOLA, all ddarganfod beth fydd yn cael ei ddarlledu ar y radio a’r teledu yn y dyfydol. Mae hyn yn eu galluogi i wrando ar fiwsig eiconig cyn iddo gael ei gyfansoddi, gan osod bet yn gwybod yn iawn beth fydd y canlyniad,  ac maent yn croesawu eu ‘pync mewnol’ ymhell cyn i’r symudiad ddod i’r amlwg. Ond gyda’r Ail Ryfel Byd yn dwysáu, mae’r chwiorydd yn penderfynu defnyddio’r peiriant er lles, er mwyn casglu gwybodaeth o’r dyfodol allai fod o gymorth i’r Gwasanaethau Cudd.

Mae Thom yn gwirioni’n llwyr ar LOLA, ond mae Mars yn dechrau sylweddoli beth fydd canlyniadau erchyll pŵer y peiriant. Wrth i’w perthynas ddadfeilio, mae Thom yn gwneud camgymeriad enbyd gyda’r peiriant sy’n arwain at ddyfodol hunllefus. All cariad y chwiorydd at ei gilydd achub y byd maent wedi ei golli?

Andrew Legge sydd wedi cyfarwyddo LOLA, a Legge ac Angeli Macfarlane sydd wedi ysgrifennu’r sgript, sy’n deillio o stori gan Legge a Henrietta a Jessica Ashworth. Cynhyrchwyd y ffilm gan Alan Maher a John Wallace o Cowtown Pictures, mewn cydweithrediad â’r cynhyrchwyr o Gymru, Alice Lusher a Catryn Ramasut o ie ie production. Ariannwyd y cynhyrchiad gan Screen Ireland, Head Gear Films, Ffilm Cymru Wales a ROADS Entertainment. 

Dangoswyd LOLA am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Locarno yn 2022, cyn ei rhyddhau i gynulleidfaoedd rhyngwladol yng Nghaeredin, Dulyn, Sitges, Rotterdam a FrightFest. 

lola poster

Fallwch weld LOLA yn y sinemâu ymayng Nghymru:

14 - 20 Ebrill

21 - 27 Ebrill

5th - 11th Mai

19th May