foot in the door logo in teal and white on a golden yellow background

Gwahoddiad I Dendro: Gwerthuso Troed Yn Y Drws (Casnewydd) Rhaglen Hyfforddi’r Sector Sgrîn

Mae hwn yn wahoddiad i dendro ar gyfer gwerthuso rhaglen Troed yn y Drws, rhaglen hyfforddi a datblygu ar-lein ac wyneb yn wyneb a ariennir drwy Gyngor Dinas Casnewydd a Chronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU.

Rhaid i ymatebion i’r tendr hwn nodi’n glir sut y mae modd mynd i’r afael â holl ofynion y brîff hwn a dylent gynnwys:

  • Manylion yr allbynnau allweddol a sut y byddwch yn mynd i’r afael â’r prosiect er mwyn gwerthuso’r rhaglen yn effeithiol, gan gynnwys ei effaith a’i botensial i ehangu y tu hwnt i’r peilot
  • Sut yr ydych yn bwriadu cyflawni’r gwaith gan nodi sut y byddwch yn gwireddu amcanion cyffredinol y prosiect tra’n sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel, o fewn yr amserlen
  • Cynllun gwaith manwl gyda cherrig milltir clir yn disgrifio pob unigolyn sy'n ymwneud â'r prosiect
  • Datganiad o’r trefniadau gwaith a phwy fydd yn rhan o dîm rheoli’r prosiect (gan gynnwys CVs neu fywgraffiadau o’u gwaith)

Ynglŷn  Troed yn y Drws (Casnewydd) 

Mae Troed yn y Drws, Casnewydd yn rhaglen hyfforddi Teledu a Ffilm gynhwysol, sy’n cydweithio â diwydiant, cymunedau a sefydliadau ar lawr gwlad i ddatblygu llwybrau cynaliadwy i’r sector sgrîn yng Nghymru.

Mae’r prosiect hwn yn rhan o brif weithgaredd Ffilm Cymru Wales Troed yn y Drws  sy’n canolbwyntio’n benodol ar gefnogi’r rhai sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol, ac ar y manteision ddaw o ddarganfod a datblygu sgiliau trosglwyddadwy sy’n berthnasol i’r diwydiannau creadigol. Nodwedd hollbwysig o’r rhaglen hon, a ariennir gan UKCRF, yw ceisio datblygu model y gellir ei ddyblygu a’i gymharu ag eraill ac sy’n cynnwys llwybr clir ar gyfer recriwtio, mewn partneriaeth ag Addysg Bellach a Chymdeithasau Tai. Mae’r rhaglen yn ceisio dod â’r diwydiant a chymunedau ynghyd i gyd-ddylunio a datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau sgrîn, gweithgaredd hyfforddi a chyfleoedd cyflogaeth gyda’r sector sgrîn sy’n berthnasol i bawb.

Amcanion

Bydd y gwerthusiad yn canolbwyntio ar effeithiolrwydd rhaglen beilot Troed yn y Drws yng Nghasnewydd a’r cyfleoedd a gynigiwyd, ac yn amlygu heriau cysylltiedig yn erbyn mesurau meintiol ac ansoddol. Rydym yn rhagweld y bydd rhan o’r gwerthusiad hwn yn defnyddio model ‘Damcaniaeth Newid’ ac yn ein cynorthwyo I ddeall:

  • Pa mor effeithiol yw’r dull  ewydd hwn o gynllunio a datblygu hyfforddiant ar y cyd â phartneriaid yn y diwydiant ac yn y cymunedau
  • Effeithiolrwydd y rhaglen o ran ymgysylltu â phartneriaid
  • Pa mor debygol y bydd hi I drosglwyddo’r dull hwn a’I ehangu er mwyn darparu atebion cynaliadwy ar gyfer cynhwysiant a chynyddu’r gweithlu yn y sector sgrîn yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd o amddifadedd economaidd-gymdeithasol

Rydym yn rhagweld y bydd y gwerthusiad yn cynnwys cyfweliadau lled-strwythuredig gyda busnesau, cymunedau, cyfranogwyr, a'r rheiny sydd wedi cymryd rhan yn yr hyfforddiant. Hoffai Ffilm Cymru ddeall mwy am yr effaith y mae’r hyfforddiant wedi’i gael ar yr unigolion yma gan ystyried mesurau ‘meddalach’ fel hyder, llesiant ac ymdeimlad o berthyn sydd, yn ein barn ni, yn hanfodol i gynnal gyrfaoedd yn y sector sgrîn, yn ogystal â chanlyniadau ‘caled’ fel sydd wedi’u nodi yn y cais.
 

Allbynnau

Yr allbynnau ar gyfer y gwerthusiad hwn fydd:

  • Adroddiad terfynol annibynnol, y cytunir ar ei fformat unwaith y dyfernir y cytundeb ar 23ain Mehefin, 2022 (gydag adroddiad amlinellol o ddrafft yn ystod wythnos gyntaf mis Mehefin)
  • Adroddiad dros dro (diwedd Mawrth 22) gyda fframwaith ar gyfer y gwerthuso a datblygiad o’r ddamcaniaeth newid
  • Atodiad o ddata / tablau o unrhyw arolygon neu gyfweliadau a gynhaliwyd
  • Cyflwyniad o ganfyddiadau ac argymhellion yn ein digwyddiad a gynhelir i rannu gwybodaeth ar 17eg Mehefin 2022 yng Nghasnewydd

Cyflwyno

Ni ddylai cyflwyniadau tendr fod yn hirach na 10 tudalen. Cwblhewch a dychwelwch eich ymateb erbyn 3 Mawrth 2022 am Hanner Dydd fan bellaf. Gofynnir i gontractwyr gyflwyno fersiwn electronig o'u tendr. Dylid marcio tendrau gorffenedig at sylw

Faye Hannah, Pennaeth Sgiliau a Hyfforddiant:

faye@ffilmcymruwales.com 
Ffilm Cymru Wales
6 Tramshed Tech,
Stryd Pendyris
Caerdydd
CF11 6BH

Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU.

Rhaglen Llywodraeth y DU yw Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU ar gyfer 2021/22. Nod y gronfa yw cefnogi pobl a chymunedau mwyaf anghenus y DU i dreialu rhaglenni a dulliau newydd o baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, cymuned a lle, busnesau lleol, ac yn cefnogi pobl i sicrhau cyflogaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i'w gwefan yma.

uk government wales logo