a photo of the inside of the magic lantern cinema in tywyn

Fideos Diogelwch Sinema COVID-19

Mae Ffilm Cymru wedi bod yn gweithio gyda Chymdeithas Sinema’r DU (UKCA) i gynhyrchu deunyddiau dwyieithog i’w rhannu yn eich sinemâu ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn flaenorol, roedd UKCA wedi lansio ymgyrch a oedd yn cynnwys dau fideo o hysbysebion gwybodaeth i esbonio’r amryw fesurau mae sinemâu yn eu cymryd i ddarparu amgylchedd a phrofiad diogel i gynulleidfaoedd a chyflogeion yn ystod pandemig COVID-19.

Gyda chyllid ac arweiniad gan Ffilm Cymru, mae’r ddau hysbyseb gwybodaeth yma bellach ar gael yn Gymraeg a Saesneg gyda throslais ac isdeitlau fel eu bod mod hygyrch â phosibl i gynulleidfaoedd sinemâu ledled Cymru.

Crewyd y fideos i’w defnyddio ar wefannau a sianeli cyfryngau cymdeithasol y sinemâu, ac ar y sgrin fawr ei hun hyd yn oed.

Anfonwch e-bost i natasha@ffilmcymruwales.com i ofyn am ddolen i lawrlwytho’r asedau.