seven people standing in a line posing for a photo outside in the evening. there are buildings, including a clock tower, and trees behind them

Ffilm Cymru yn Sheffield DocFest 2024

Rydym yn cynnig cyfle i hyd at 5 unigolyn fynd i Sheffield DocFest fel rhan o ddirprwyaeth Ffilm Cymru, rhwng 12 a 17 Mehefin 2024. 

Bydd y cynrychiolwyr a gaiff eu dewis yn derbyn pasys llawn i’r ŵyl a sesiwn fentora grŵp gan DocFest ar sut i fanteisio'n llawn ar y rhaglen. Bydd y pasys yn rhoi mynediad i holl ddangosiadau, sgyrsiau a chyfarfodydd bord gron yr ŵyl.  

Bydd llety yn cael ei ddarparu am 4 noson (12-16 Mehefin) mewn gwesty yn Sheffield a bydd y cynrychiolwyr yn derbyn bwrsariaethau ar gyfer costau teithio yn ogystal ag unrhyw ofynion mynediad (er enghraifft, gofal plant / dibynyddion, anabledd). 

Bydd y cynrychiolwyr hefyd yn elwa o sesiwn un i un gydag aelod o dîm Ffilm Cymru / Rhwydwaith BFI Cymru i drafod datblygiad eu gyrfa ac unrhyw brosiectau penodol sydd ar y gweill ganddyn nhw. 

Ydw i'n gymwys? 

Er mwyn gwneud cais: 

  • Rhaid eich bod wedi eich geni a/neu’n seiliedig yng Nghymru, dros 18 oed, a heb fod mewn addysg amser llawn;

  • Rhaid eich bod ar gael i fynd i DocFest ar y dyddiadau perthnasol ac yn gallu teithio i Sheffield o leoliad yn y DU (ni fydd costau teithio rhyngwladol yn cael eu talu); 

  • Rhaid eich bod wedi bod â rôl arweiniol greadigol ar o leiaf un darn o waith sgrin sydd wedi’i arddangos neu’i ddarlledu'n gyhoeddus, naill ai ym maes dogfen, ffeithiol neu faes cysylltiedig (e.e. ffilm ffuglen, celf weledol, hysbysebion/hyrwyddo, ffotograffiaeth); 

  • Rhaid bod gennych ddyheadau i gyfarwyddo neu gynhyrchu ffilm ddogfen nodwedd gyda’r bwriad o’i rhyddhau mewn gwyliau/theatrau; 

  • Rhaid eich bod, hyd yma, heb fod yn brif gyfarwyddwr na chynhyrchydd ar ffilm nodwedd wedi’i chwblhau o dros 60 munud sydd wedi’i rhyddhau mewn gwyliau/theatrau. 

Rydym yn awyddus i glywed gan wneuthurwyr ffilm sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y diwydiant, gan adlewyrchu amrywiaeth o ran ethnigrwydd, anabledd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol. Rydym hefyd yn ystyried cynrychiolaeth ddaearyddol ledled Cymru. 

Sut ydw i'n gwneud cais? 

I wneud cais, llenwch y ffurflen gais isod a'i hanfon mewn e-bost i network@ffilmcymruwales.com erbyn y dyddiad cau ynghyd â'ch CV. 

Fel arall, os yw'n well gennych, gallwch ymateb i'r cwestiynau yn y ffurflen gais drwy alwad fideo neu ffôn fyw gyda'n tîm. Dylid trefnu hyn cyn y dyddiad cau. Bydd yr alwad yn cael ei recordio. 

Gall y ceisiadau gael eu cyflwyno naill ai yn Gymraeg neu Saesneg. 

Ar gyfer unigolion sy'n F/fyddar, â nam ar eu clyw, yn anabl, yn niwroamrywiol neu â nam ar eu golwg, mae cymorth ac addasiadau pellach ar gael. Er enghraifft, gallwn dalu costau trefnu bod canllawiau ar gael mewn fformatau eraill (e.e. print bras), dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer cyfarfod gyda ni, cymorth ysgrifennu i ymgeiswyr dyslecsig, neu weithiwr cymorth os oes angen. Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion yn gyfrinachol. Cawn ein harwain gennych chi. 

Amserlen

Ceisiadau 

  • Dydd Mercher 1 Mai 2024, 4pm - dyddiad cau derbyn ceisiadau 

  • Dydd Gwener 10 Mai 2024 - ymgeiswyr yn cael gwybod a ydyn nhw wedi’u dewis 

Y Cynrychiolwyr a fydd yn mynd i’r Ŵyl

  • Gweddill mis Mai hyd at 12 Mehefin 2024 - gwybodaeth a chymorth cyn mynd i’r ŵyl 

  • Dydd Mercher 12 Mehefin 2024 - cyrraedd y gwesty, noson agoriadol yr ŵyl 

  • Dydd Sadwrn 16 Mehefin 2024 - gadael y gwesty 

(Gall y cynrychiolwyr estyn eu harhosiad yn Sheffield ar eu traul eu hunain os ydyn nhw’n dymuno. Dyddiadau'r ŵyl yw 12 i 17 Mehefin. Rydym wedi amseru ein presenoldeb yno i gyd-fynd â phan fydd y rhan fwyaf o weithgarwch y diwydiant yn digwydd.) 

Cysylltwch â ni

Tracy Spottiswoode, Rheolwr Datblygu Talent 
tracy@ffilmcymruwales.com  

Gallwch hefyd ein ffonio ar 07904 265567.