photo from green man festival with lots of people standing in front of a large blue tent. There are trees on a hill in the background.

Ffilm Cymru yn Gŵyl y Dyn Gwyrdd: Ffilmiau Byrion o Gymru + Cwrdd â'r Gwneuthurwyr

Ymunwch â Ffilm Cymru Wales yn Gŵyl y Dyn Gwyrdd ar 20 Awst i ddathlu doniau o Gymru ym maes creu ffilmiau byrion.

O straeon gwerin i bortreadau dogfennol craff a chwedlau bach animeiddiedig, dewch i ddarganfod detholiad o ffilmiau byrion o Gymru.

Yn dilyn y dangosiad gallwch hefyd glywed gan rai o'r cyfarwyddwyr, a fydd yn rhannu eu profiad o greu’r ffilmiau.

Cyfle campus i unrhyw un sy'n chwilio am ysbrydoliaeth i gymryd eu cam cyntaf ar lwybr creu ffilmiau.

a person dancing on a flat green coastline

Daughters Of The Sea 

Y dawnsiwr bale, Krystal S. Lowe, sy’n ail-ddychmygu'r stori werin Gymreig hon drwy ddawns fodern mewn amryw leoliadau yng Nghymru. Gyda cherddoriaeth gan Eädyth.

Awdur-Gyfarwyddwr: Krystal S. Lowe
Cynhyrchydd: Victoria Wheel
Cast: Ffion Campbell-Davies, Holly Vallis ac Amber Howells

Cynhyrchwyd drwy gynllun Ffolio Ffilm Cymru gyda BBC Arts, BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru

two men elderly men sitting in a farmhouse kitchen. one is holding a sheep on his lap.

Forest Coal Pit

Portread clòs a barddonol, ar ‘super 8mm’, o ddau frawd oedrannus sy'n byw gyda'i gilydd ar fferm fechan yn ardal y Mynydd Du, yn ne Cymru.

Cyfarwyddwr: Siôn Marshall-Waters
Cynhyrchwyr: Jessica Wheeler a chynyrchiadau ie ie 

Cynhyrchwyd drwy gynllun Beacons Ffilm Cymru Wales a RHWYDWAITH BFI mewn cydweithrediad â BBC Cymru Wales.

w person wearing a red coat standing in an old slate quarry and looking up at a cliff

Echdoe

Mae'r ffilm ddogfen ddwyieithog, aflinol hon yn dilyn y cerddor clasurol Cheryl Law wrth iddi ddychwelyd i leoliad ei damwain a dod i delerau â’i thrawma.

Awdur-Gyfarwyddwr: Gwen Thomson
Cynhyrchydd: Sara Allen

Cynhyrchwyd drwy gynllun Ffolio Ffilm Cymru gyda BBC Arts, BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru.

still from animated short film, featuring two people sitting on a dock and watching the sun set over the sea

Cwch Deilen (Leaf Boat)

Animeiddiad Cymraeg yn adrodd hanes Heledd a Celyn, sy'n llywio drwy ddyfroedd anghyfarwydd a thywyll wrth gychwyn ar berthynas newydd.

Awdur / Cyfarwyddwr: Efa Blosse Mason
Cynhyrchydd: Amy Morris, Winding Snake

Cynhyrchwyd drwy gynllun Beacons Ffilm Cymru Wales a RHWYDWAITH BFI mewn cydweithrediad â BBC Cymru Wales.

two people wearing orange and yellow diracs, standing on a jetty with a river, trees and buildings in the background.

In A Room Full Of Sisters

Y ffotograffydd Ashrah Suudy sy’n edrych ar gryfder chwaeroliaeth yng nghymuned Somalïaidd Caerdydd.

Awdur-Gyfarwyddwr: Ashrah Suudy
Cast: Asma Elmi, Hibo Elmi, Maha Elmi, Hoda Hassan, Hakima Hersi, Phadumo Omar, Fahima Omer

Cynhyrchwyd drwy gynllun Ffolio Ffilm Cymru gyda BBC Arts, BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru

still from stop-motion animation, featuring a druid in a brown robe and a chicken standing at a round wooden table and looking upwards. There is a scroll on the table.

Druids

Dyma gomedi stop-symud hyfryd ar raddfa fegalithig. Cewch deithio drwy niwl dirgel amser ac ymuno â thri derwydd ar ymgyrch i adfer cydbwysedd eu byd yn dilyn trychineb anesboniadwy.

Awdur-Gyfarwyddwr: Shwan Nosratpour
Cynhyrchydd: Ed Talfan, Severn Screen

Cynhyrchwyd drwy gynllun Beacons Ffilm Cymru Wales a RHWYDWAITH BFI mewn cydweithrediad â Western Edge Pictures.