a still of Catrun Ramasut sitting in a room wearing a stripy top

Ffilm Cymru yn cwrdd â… Catryn Ramasut

Yn ein cyfres newydd o fideos, byddwn yn eich cyflwyno i rai o’r bobl a’r sefydliadau sy’n rhan o gymuned greadigol fywiog ac amrywiol Cymru.

Bob wythnos, cawn glywed gan wneuthurwr ffilmiau, arddangoswr, addysgwr neu hyfforddai a fydd yn sôn wrthym ni am eu gwaith yn diwydiant ffilmiau Cymru, eu dyheadau, a sut mae cyllid Ffilm Cymru wedi cynorthwyo eu huchelgeisiau creadigol.

Ym mhennod gyntaf ein cyfres, bydd y cynhyrchydd Catryn Ramasut yn siarad gyda ni am ei gyrfa hyd yma, sut mae Ffilm Cymru wedi cynorthwyo llechen Cynyrchiadau ie ie o ffilmiau a phrosiectau teledu, a’r tro y gwnaeth hi gwrdd â phengwiniaid ym Mhatagonia!

a photo of catryn ramasut and hannah berryman shooting Rockfield outside in a field.