a camera crew shooting in a green forest in front of a wood cabin

Ffilm Cymru a Clwstwr yn lansio Cronfa Her newydd Cymru Werdd ar gyfer sector sgrin cynaliadwy yng Nghymru

Maent yn falch o gyhoeddi cronfa arloesi amlddisgyblaethol newydd, gyda’r nod o wella datrysiadau i’r prif heriau amgylcheddol o fewn y diwydiant ffilm yng Nghymru.

Gall ymchwil, datblygu ac arloesi gefnogi’r diwydiant ffilm yng Nghymru i fod yn fwy cynaliadwy ac i wneud dewisiadau gwyrddach.

Mae Cronfa Her Cymru Werdd yn rhan o raglen ehangach Cymru Werdd, a ddatblygwyd yn wreiddiol gan Ffilm Cymru yn 2019. Ei nod yw cefnogi gweithwyr proffesiynol a chwmnïau o fewn y sector sgrin yng Nghymru i gyflawni allyriadau carbon net sero erbyn 2050. Bydd eu cynllun Cymru Werdd yn darparu cyllid a hyfforddiant, ochr yn ochr ag ymchwil a datblygu i wella cynnyrch a gwasanaethau ar gyfer sector sgrin cynaliadwy yng Nghymru.

Roedd datganiad argyfwng hinsawdd Llywodraeth Cymru yn 2019 yn galw am weithredu ar y cyd ac yn pwysleisio y “gall Cymru fod yn esiampl i eraill o’r hyn y gall twf amgylcheddol ei olygu” – Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig; trwy gydweithio, cred Ffilm Cymru a Clwstwr yw y gall diwydiannau sgrin bywiog a ffyniannus Cymru arwain y ffordd o ran lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd.

Bydd Cronfa Her Cymru Werdd yn cynnig £75,000 o gyllid i unigolion, sefydliadau a chydweithrediadau ar draws sectorau – gan gynnwys y cyfryngau, academia, technoleg, trafnidiaeth, ynni, dŵr a rheoli gwastraff – er mwyn ymchwilio a datblygu dulliau newydd, cynaliadwy o weithio ym maes ffilm a theledu.

Yn dilyn cyflwyno datganiad o ddiddordeb, gwahoddir ymgeiswyr i ddatblygu eu syniadau yn ymarferol mewn Gweithdai Her, cyn cwblhau cais ffurfiol. Erbyn mis Tachwedd 2021, dyfernir hyd at £25,000 yr un i dri thîm er mwyn datblygu a chyflawni eu prosiectau arloesol.

Yn ôl Pauline Burt, prif weithredwr Ffilm Cymru: “Mae’n rhaid i ni baratoi ar gyfer y dyfodol nawr. Mae gan Gymru sector sgrin bywiog sy’n tyfu’n gyflym. Rhaid i ni sicrhau fod twf yn gynaliadwy, o gynnig gwaith teg a chynhwysol, i wreiddio arferion amgylcheddol rhagorol. Dylai’r Gronfa Her gysylltu arbenigedd ar draws y sectorau er mwyn ein helpu ni oll i gael gwell dealltwriaeth o’r heriau a wynebir gan y diwydiannau creadigol o ran ymddwyn yn fwy gwyrdd, ac i wella datrysiadau ymarferol y gallwn eu mabwysiadu yn ein gwaith o ddydd i ddydd. Gyda’n gilydd, byddwn yn rhannu dysg ac yn ehangu rhwydweithio, gan gydweithio â phartneriaid megis Albert BAFTA a Green Regio, sy’n gweithio ledled Ewrop.”

Gweledigaeth Clwstwr yw gweld Cymru yn datblygu i fod yn arweinydd mewn cynhyrchu cyfryngau gwyrdd. Mae Clwstwr yn ymroddedig i sbarduno syniadau arloesol er mwyn lleihau ôl troed carbon a gostwng ein heffaith ar yr amgylchedd, trwy’r prosiectau a ariennir ganddynt ac ar y cyd â sector y cyfryngau ledled Cymru.

Meddai’r Athro Justin Lewis, cyfarwyddwr Clwstwr: “Bydd Cymru Werdd yn ein helpu i gyflawni ein nod o weld Cymru ar flaen y gad yn yr ymdrechion i symud cynhyrchu’r cyfryngau tuag at net sero. Mae Clwstwr eisoes wedi cefnogi nifer o brosiectau arloesi gwyrdd yn y maes creadigol, ac mae’r bartneriaeth hon yn ein caniatáu i ddyfeisio datrysiadau ymarferol fydd yn ein symud gam yn nes at economi werdd, lân.”

Bydd Cronfa Her Cymru Werdd yn agor i ddatganiadau o ddiddordeb o 14 Gorffennaf hyd 20 Awst 2021.