five people standing in a line posing for a photo on a film set in between trailers

Cyfle Swydd: Rheolwr Prosiect (Sgiliau a Hyfforddiant)

Rydym yn chwilio am reolwr prosiect rhagorol sydd â phrofiad o oruchwylio a chyflawni prosiectau cymhleth wedi’u hariannu gan y llywodraeth mewn tîm bach, ac i derfynau amser tynn.

Adran: Hyfforddiant a Sgiliau
Swydd: Rheolwr Prosiect, Rhan-Amser 0.6 (3 diwrnod yr wythnos) Cyfnod Penodol tan 31/03/25 (gan ostwng i 1.5 diwrnod yr wythnos o 01/01/25 - 31/03/25)  
Yn adrodd i: Y Prif Weithredwr
Lleoliad: Cymru. Gweithle’r Prosiect: Swyddfa Ffilm Cymru yng Nghaerdydd. Disgwylir cyflawni’r gwaith mewn ffordd gyfunol, o bell ac wyneb yn wyneb. 
Cyflog: £40,817.00 y flwyddyn (pro-rata) cyfnod penodol tan 31/03/25, ynghyd â phensiwn a gwyliau pro rata (28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau cyhoeddus y flwyddyn pro rata). 
Dyddiad cau: Dydd Llun 12 Chwefror 2024, hanner dydd.
Cyfweliadau: w/c 19 Chwefror 2024.

Mae tîm Sgiliau a Hyfforddiant Ffilm Cymru yn chwilio am reolwr prosiect i weithio gyda'i dîm bach i gefnogi'r gwaith o ddarparu, olrhain ac adrodd, yn effeithiol ac effeithlon, ar draws ein dau brosiect, drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, yng Nghasnewydd ac Abertawe. Bydd y rôl hon yn cynnwys gweithio gyda chyllidwyr, y gymuned, y sector cyhoeddus a phartneriaid ym myd y sgrin i gyflawni cynlluniau prosiectau, cyflawni’r prosiectau ac adrodd arnynt, o'r dechrau i'r diwedd. Bydd yn gweithio ochr yn ochr â Rheolwr Partneriaeth Sgiliau a Hyfforddiant, Swyddog Gweithredol Sgiliau a Rheolwr Lleoliadau Diwydiant, wrth i'r tîm gyflawni ei raglenni hyfforddi i’r gymuned a'r diwydiant.

Sut i Wneud Cais

Credwn mewn sector sy’n gweithio i bawb ac rydym yn angerddol am ehangu mynediad i'r sector sgrin. Oni bai ein bod wedi cytuno gyda chi ar fformat gwahanol i’r cais, anfonwch e-bost gyda CV a llythyr eglurhaol i skills@ffilmcymruwales.com yn amlinellu eich profiad a'ch sgiliau yn erbyn y rhai sydd wedi’u hamlinellu yn y cais hwn. Defnyddiwch y llinell pwnc: RHEOLWR PROSIECT SGILIAU A HYFFORDDIANT.

Cyflwynwch eich cais erbyn hanner dydd ar ddydd Llun 12 Chwefror 2024.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn elfen ganolog o agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar draws y DU i’w fuddsoddi’n lleol erbyn mis Mawrth 2025. Mae'r swydd hon yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

various funder logos