still from geronimo featuring a woman in red light with the tip of her finger in her mouth

Cwrdd â gwneuthurwyr Beacons: Geraint Morgan

I ddathlu darllediad diweddaraf y BBC o’r ffilmiau byrion cafodd eu gwneud drwy ein cynllun Beacons, mae Ffilm Cymru Wales am rannu cyfweliadau sy’n cyflwyno’r gwneuthurwyr ffilm newydd o Gymru fu’n gyfrifol am wneud y ffilmiau.

Yn ffilm arswyd Geraint Morgan, Geronimo, mae perchennog arcêd pryderus yn rhoi cynnig - petrus iawn - ar app cysgu, ond mae’r llais melfedaidd yn ei yrru i fyd hunllefus y gall fod yn amhosib iddo ddianc ohono.

Cyn darlledu’r ffilm, buom yn sgwrsio gyda Geraint am ofn a thechnoleg, cael sylw gan wyliau, a’i daith o fyd yr actor i fyd y cyfarwyddwr.

Helo Geraint, alli di ddweud rhywfaint wrthym amdanat ti dy hun?
Reit wel… Mae Mam o Fryn Aman, a Dad o Brighton, cefais fy ngeni ym Mangor a bues yn byw yn Sir Fôn am rai blynyddoedd cyn i’r teulu symud i ganol Ceredigion ble, ar y cychwyn beth bynnag, darganfyddais acen oedd mor astrus man y man i ni fod wedi mudo i wlad arall. O, hefyd, roedd fy nhad yn brifathro a mam yn ficer, felly dim ond un diwrnod rhydd bob wythnos oedd gen i… Dim syndod mod i wedi mynd yn actor. Feddyliais i erioed y bydden i’n gwneud unrhywbeth arall nes i mi gwympo allan o gariad â pherfformio, ac ar y pwynt hwnnw o’n i’n teimlo ar goll braidd. Ond roedd cyfarwyddo’n gwneud synnwyr. Rwy’n deall y broses actio (rwy’n meddwl) ac wrth fy modd â natur cydweithredol y gwaith. Nid yw rhywun byth yn stopio dysgu, ac mae bod wrth galon prosiect yn gweddu i’r dim i mi.  Y peth pwysicaf fel cyfarwyddwr yw gwrando ar y rheiny sy’n gwybod yn well na chi, a’r bobl sydd o’ch cwmpas. Fodd bynnag, nid yw ceisio ail-ddyfeisio’ch hun yn eich pumdegau yn hawdd; mae cymaint o bobl ifanc talentog yn dod i’r amlwg. Rwy’n meddwl mai dilyn fy nhrywydd fy hun, a datblygu fy mhrosiectau fy hun yw’r ffordd ymlaen i mi.
 
O ble ddaeth y syniad am Geronimo?
Cafodd fy mhartner, Rebecca, ei magu yn y Rhyl ac roedd yn byw uwchben clwb y teulu (y Bistro enwog) a’r arcêd. Mae gan y Trehearns  lu o straeon am y cyfnod hwnnw, ac mewn gwirionedd mae Geronimo yn gyfuniad o hanesion byr, un ohonynt yn ymwneud â hen wraig oedd yn ymweld ag arcêd y teulu yn ddyddiol. Byddai’n chwarae’r ‘one-armed bandits’ a’n gweiddi ‘Geronimo’ pryd bynnag y byddai’n ennill. Cyfunais yr hanes yma â straeon eraill (a adroddwyd yn bennaf gan Peter, fy narpar dad-yng-nghyfraith) gyda fy mhryderon fy hun am arian, am heneiddio, am golli rheolaeth ac am fethu cysgu, y math yna o beth. Rwy'n gwbl ddibynnol ar appiau cysgu i'm cael i gysgu, boed yn sŵn gwyn neu'n straeon amser gwely, felly mae Geronimo yn dipyn o gawl. Cefais amser gwych yn ei hysgrifennu, yn ystod y cyfnod clo. Rwyf wrth fy modd â ffurf y ffilm fer. Mae'n ‘protein uchel’ a ddim mor hawdd ag y mae rhai’n meddwl. Mewn gwirionedd, mae'r broses yn parhau ymhell ar ôl cyflwyno’r gwaith. Mae cymaint o bethau y byddwn i'n eu newid nawr!

Wyt  ti wastad  wedi hoffi ffilmiau arswyd?
Do wir, ers yn blentyn ifanc iawn, rwy’n meddwl. Efallai nad Beatrix Potter yw’r enw cyntaf sy’n dod i’r meddwl pan fydd rhywun yn ystyried y genre, ond roedd The Tale of Samuel Whiskers neu The Roly Poly Pudding yr un mor wefreiddiol ag yr oedd yn ddychrynllyd i mi yn bum mlwydd oed, a dydw i ddim yn siŵr a fyddent yn cael eu cyhoeddi heddiw. Yn fy arddegau roeddwn yn hoffi James Herbert, Stephen King ac Edgar Allen Poe, gan achosi peth pryder i fy rhieni. “Wel, o leiaf mae e’n darllen”, oedd eu hymateb pragmatig. Rwy’n teimlo mod i’n eu hailddarganfod i raddau, ac er nad ydw i’n siŵr os yw Geronimo y ffilm arswyd y gallai/dylai fod, dysgais lawer am y genre wrth ei gwneud. Yn sicr, rwy’n teimlo'n barod i wneud rhagor.

Mae'r gofod trothwyol y mae ein meddyliau weithiau'n trigo ynddo, yn fy niddori’n fawr. Beth allai ein hysgogi i gyflawni gweithredoedd ofnadwy? Cyfuno bodau dynol a thechnoleg? Y llinell denau rhwng pwyll a gwallgofrwydd?

Mae Geronimo wedi ei dewis ar gyfer nifer o wyliau; beth fyddai dy gyngor i wneuthurwr ffilm sy’n ceisio sicrhau bod ei ffilm fer yn cael ei dangos?
Ar ôl cwblhau’r ffilm, bûm yn ffodus i allu codi digon o arian i fynd at Festival Formula, cwmni sy’n curadu’r gwyliau i chi. Nid yw’r pecyn cyflawn yn un rhad, ond mae’n nhw’n arbenigwyr yn y maes. Mae dros 13,000 o wyliau ar FilmFreeway yn unig, ac anwybyddu nifer ohonynt sydd orau. Mae'n anodd didoli'r goreuon, ac mae Festival Formula yn gwybod yn iawn beth mae nhw'n ei wneud. Fe arbedodd lawer o waith i mi, ond rydw i wedi dysgu digon yn sgîl gweithio gyda nhw i chwarae fwy o ran y tro nesaf, os fydd tro nesaf. Nid yw hynny’n golygu nad oedd gen i lais wrth ddewis gwyliau. Roeddwn yn awyddus i'r ffilm gael ei dangos/gweld yng Nghymru, a dewisais i rai o'r gwyliau fy hun.

Mae’n rhaid bod yn realistig. Mae rhai o'r gwyliau mawr yn derbyn mwy na chwe mil o geisiadau, gan ddewis tua chwe deg yn unig. Mae hyn yn rhoi siawns o 1% neu lai i chi gael eich dewis, a bydd llawer o ffilmiau da iawn ddim yn cael eu dewis. Os dewiswch yn ofalus, dylech gael eich dewis ar gyfer rhai gwyliau, ond os anelwch at y ‘rhai mawr’ yn unig, sut bynnag mae rhywun am ddiffinio’r rheini, mae’n ddigon posibl y cewch eich siomi. Beth bynnag wnewch chi, peidiwch â gwneud cais i wyliau ‘pay to play’. Twyll llwyr! Mae’r ffioedd cyflwyno yn wahanol. Gambl yw pob ffi, ond fel’na mae. Rwy’n meddwl bod Geronimo, yn rhyw fath o ddisgyn rhwng dwy stôl ar sbectrwm y genre, ac efallai y byddai wedi gwneud yn well pe bai gen i—efallai—weledigaeth gliriach o’r hyn yr oeddwn yn ceisio ei gyflawni fel cyfarwyddwr. Hei ho, mae ysgol i'w chael o febyd hyd fedd. Rwy'n hoffi meddwl y byddaf yn gallu gwneud yn well (hyd yn oed) y tro nesaf.

Pa fath o gefnogaeth ges di gan Ffilm Cymru Wales & RHWYDWAITH y BFI?
Rwy’n meddwl mai’r ffydd oedd gan Film Cymru yn y prosiect oedd y prif beth i mi. Roedd brwdfrydedd am y sgript a’r bobl oeddwn i am weithio gyda nhw, a bu i hynny roi hyder mawr i mi wrth symud ymlaen. Teimlais eu bod yn credu ynof fi a'r prosiect yn ei gyfanrwydd. Mae hynny'n bwysig iawn. Roedd llawer o ‘fynd yn ôl ac ymlaen’ am y pethau doeddwn i ddim yn eu deall, a pharodrwydd i wrando a bod yn amyneddgar pan nad oeddwn i’n gallu amgyffred y pethau symlaf.

Beth sydd ar y gweill nesaf?        
Y peth doethaf rwyf wedi'i wneud yn ddiweddar yw rhoi'r gorau i chwarae FIFA! Fy mhleser (dibyniaeth) cudd pennaf, ond ers i un o fy meibion, Llew, fynd â’r peiriant gydag ef i’w gartref newydd, rwyf wedi bod yn llawer mwy cynhyrchiol. Mae gen i brosiect rwyf wedi bod yn gweithio arno ers amser maith ac sydd wedi cymryd sawl ffurf. Mae wedi bod yn stori fer, mae wedi bod yn nofel, mae wedi bod yn driniaeth ar gyfer cyfres deledu; ond rwy’n credu’n gryf bellach mai ffilm yw hi. Rwy'n cropian yn araf bach at ddrafft gorffenedig a - phan fydd yn barod - byddaf yn ceisio codi'r arian i wneud y diawl peth. Yn y cyfamser, rwy'n mynd i wneud ychydig o actio. Mae gen i ofn; roeddwn i wastad yn un sâl am ddysgu llinellau!

portrait photo of geraint morgan

Cynhyrchwyd Geronimo gan Catrin Lewis Defis drwy gynllun Beacons Ffilm Cymru Wales a RHWYDWAITH y BFI mewn cydweithrediad â BBC Cymru Wales. Gallwch ei gwylio ar BBC Two Wales ar 25 Hydref.