a purple graphic with text that says Increasing Costs: Impact on culture and sport

Costau cynyddol: Yr effaith ar ddiwylliant a chwaraeon

Mae Ffilm Cymru Wales yn croesawu adroddiad ymchwiliad Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol Senedd Cymru ar effaith costau cynyddol ar chwaraeon a diwylliant yng Nghymru.

Roedd ymchwiliad y pwyllgor ym mis Medi 2022 yn ceisio canfod sut mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar sectorau chwaraeon a diwylliant Cymru, a sut y gallai Llywodraeth Cymru eu cefnogi’n well i ddiwallu eu hanghenion uniongyrchol. Mae’r prif faterion a nodwyd yn cynnwys: 

  • Mae chwyddiant yn fwy na dyraniadau cyllideb Llywodraeth Cymru ym meysydd diwylliant a chwaraeon, sydd ar y cyfan yn wastad. 
  • Nid yw cyfranogiad mewn diwylliant a chwaraeon wedi adfer yn llwyr o bandemig Covid-19.
  • Mae gan unigolion lai o arian i'w wario, ac mae'n rhaid i ddarparwyr gynyddu costau neu leihau gwasanaethau er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd.

Er bod yr argyfwng costau byw wedi effeithio ar bawb, rydym yn arbennig o bryderus am yr effaith ar sector arddangos Cymru. Mae sinemâu a chanolfannau celfyddydol yn darparu mannau cynnes a chroesawgar i'w cymunedau lleol ond maent bellach yn ei chael yn anodd cydbwyso costau cynyddol sylweddol a gostyngiad mewn gwerthiant. Wrth i sinemâu ar draws y DU gau, gan gynnwys Premiere Cinema yng Nghaerdydd, neu fel arall orfod ymdopi ag amserau cynyddol heriol, rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus ynghylch pa mor hanfodol yw arddangos i ecoleg gyffredinol y diwydiant ffilm. Mae maes creu ffilmiau annibynnol yn dibynnu ar lwybrau i gyrraedd sinemâu.

Drwy gydol y pandemig ac yn parhau yn ystod yr argyfwng costau byw yma, mae Ffilm Cymru Wales wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, Cymru Greadigol a’r BFI i ddarparu cyllid a chyngor i’r unigolion a’r sefydliadau sy’n cyfrannu at y sector sgrin gwych yng Nghymru, yn ogystal ag eiriol am fwy o gefnogaeth gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. 

Rydym yn falch o weld bod argymhellion yr adroddiad yn cynnwys: 

  • Dylai Llywodraeth y DU ddarparu cymorth gyda chostau ynni i leoliadau chwaraeon a diwylliannol y tu hwnt i chwe mis y cynllun cychwynnol.
  • Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu cyllid cyfalaf i’r sector chwaraeon a diwylliannol er mwyn gwneud eu defnydd o ynni yn fwy gwyrdd.
  • Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu cyllid ychwanegol wedi’i dargedu i’r sectorau chwaraeon a diwylliant i helpu lleoliadau a sefydliadau sy’n wynebu gorfod cau ond sydd â dyfodol cynaliadwy y tu hwnt i’r argyfwng uniongyrchol.
  • Dylai Llywodraeth Cymru gychwyn trafodaethau brys ag Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ac Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU i alw am becyn cymorth ar gyfer y DU gyfan i gynorthwyo’r sectorau diwylliant a chwaraeon mewn ymateb i bwysau costau byw.
  • Dylai Llywodraeth Cymru annog gweithgareddau chwaraeon a diwylliannol mewn Canolfannau Clyd, ac ariannu’r darparwyr yn unol â hynny.
  • Dylai Llywodraeth Cymru wella ei hymgysylltiad â’r sector diwylliant er mwyn helpu i ddatblygu’r ymateb i’r cynnydd mewn costau byw.