poster for the feast featuring annes elwy lying back in a nest of tree roots.

Cewch fwynhau Gwledd yn sinemâu Cymru

Bydd y ffilm eco-arswyd Gymraeg sydd wedi’i hariannu gan Ffilm Cymru yn cael ei rhyddhau yn sinemâu Prydain ar 19eg Awst gan Picturehouse Entertainment.

Pan fo teulu cefnog a’u gwesteion yn dod ynghyd i gael swper mewn ardal ddiarffordd yng nghefn gwlad Cymru, nid oes ganddynt syniad o’r hyn sydd o’u blaenau. Mewn tŷ moethus newydd, mae gan y teulu fenter fwyngloddio werthfawr yn y fantol ac mae’r awyrgylch yn ddwys. Daw menyw ifanc ddirgel i weini arnynt, ac mae ei phresenoldeb yn aflonyddus. Wrth i’r noson fynd rhagddi, mae’n dechrau herio credoau’r teulu a datod y rhith y maent wedi’i wau, gan arwain at ganlyniadau araf, bwriadol a dychrynllyd.

Wedi’i chyfarwyddo gan Jones a’i hysgrifennu a’i chynhyrchu gan Roger Williams, sêr y ffilm Gwledd yw Annes Elwy, Nia Roberts a Julian Lewis Jones ynghyd â Sion Alun Davies, Steffan Cennydd, Rhodri Meilir, a Lisa Palfrey.

Dyma ble y gallwch weld Gwledd mewn sinemâu yng Nghymru (mwy o ddangosiadau i’w cadarnhau):

19eg – 25ain Awst

26ain Awst – 1af Medi 

2il – 8fed Medi

16 - 22 Medi

30 Medi

10 Hydref

25 Hydref

27 Hydref

28 - 31 Hydref

31 Hydref

2 Tachwedd

15 Tachwedd