photo of a person sitting in a workshop reading papers. There is a camera on a tripod in front of them.

Casnewydd Greadigol: Galwad am Wneuthurwyr Ffilmiau

Ydych chi'n wneuthurwr ffilmiau sydd â chysylltiadau â Chasnewydd, ac yn awyddus i gyfleu ysbryd creadigol bywiog eich dinas? Mae Ffilm Cymru yn gwahodd ceisiadau gan wneuthurwyr ffilmiau a aned yng Nghasnewydd neu sydd wedi’u lleoli yng Nghasnewydd i dreiddio i galon cymuned greadigol y ddinas ac arddangos yr hyn sy’n ei gwneud yn wirioneddol unigryw. 

Y Briff

Rydyn ni’n chwilio am wneuthurwr ffilmiau neu dîm creadigol i lunio ymateb ffilmig byr, heb fod yn hwy na 15 munud, sy’n archwilio thema 'Casnewydd Greadigol'. Eich nod yw cyflwyno storïau yr unigolion a’r sefydliadau amrywiol ac arloesol sy’n cyfrannu at y tapestri cyfoethog o greadigrwydd yng Nghasnewydd. 

Y Manylion

Cyllideb Cynhyrchu: Hyd at £10,000 (gan gynnwys TAW), ar gyfer yr holl gostau cynhyrchu, gan gynnwys criw, llogi offer, trwyddedu cerddoriaeth, deunydd archifol, a threuliau ôl-gynhyrchu. 

Cymhwysedd: Rhaid i’r ymgeiswyr naill ai fod wedi'u geni yng Nghasnewydd neu fod yn byw yn y ddinas ar hyn o bryd. Ni all y ffilm fod yn hwy na 15 munud o hyd, a rhaid bod gan yr ymgeiswyr brofiad blaenorol o wneud ffilmiau. Rhaid i’r ymgeiswyr hefyd fod dros 18 oed a heb fod mewn addysg amser llawn. 

Yn ogystal â chynhyrchu’r ffilm, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn darparu pum lleoliad profiad gwaith â thâl i drigolion Casnewydd. Nod y fenter hon yw grymuso pobl leol i gyfrannu'n greadigol at y prosiect tra'n datblygu sgiliau a magu profiad amhrisiadwy mewn gwneud ffilmiau. Gyda chefnogaeth Ffilm Cymru Wales a RHWYDWAITH BFI, bydd y cyfle hyfforddi hwn yn rhoi i’r cyfranogwyr yr offer sydd eu hangen arnyn nhw i ffynnu yn y diwydiant. Nid yw'r lleoliadau hyn yn rhan o'ch cyllideb cynhyrchu. 

Sut i Wneud Cais 

I wneud cais am y cyfle cyffrous hwn, anfonwch y dogfennau canlynol i'r ddolen isod:

CV, Portffolio, neu Fywgraffiad Byr: Dywedwch wrthym ni amdanoch chi'ch hun! Rhannwch eich cefndir proffesiynol, prosiectau ffilm blaenorol, ac unrhyw brofiad neu sgiliau perthnasol sy'n eich gwneud yn ymgeisydd perffaith ar gyfer y cyfle hwn. 

Dolen i Ffilm Flaenorol: Rhowch ddolen i ffilm flaenorol rydych wedi'i chreu ar lefel broffesiynol neu lefel myfyriwr. Bydd hyn yn ein galluogi i asesu eich sgiliau a'ch arddull gwneud ffilmiau. 

Datganiad Personol (tudalen A4 ar y mwyaf): Amlinellwch eich cysylltiad â Chasnewydd a pham eich bod yn angerddol am wneud y ffilm hon. Disgrifiwch eich gweledigaeth greadigol ar gyfer arddangos Casnewydd Greadigol, boed hynny drwy ddull dogfennol, cyfweliadau, neu ddehongliadau creadigol eraill. Eglurwch sut rydych chi'n bwriadu defnyddio'r pum lleoliad gwaith fel rhan o'ch proses o greu’r ffilm. Mae croeso i chi gynnwys eich dyheadau fel gwneuthurwr ffilmiau ac unrhyw ddealltwriaeth ychwanegol sy'n dangos eich brwdfrydedd ynghylch y prosiect hwn. 

Cyllideb Ddrafft: Rhowch amlinelliad o gyllideb ddrafft ar gyfer y ffilm, gan gynnwys costau cyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu. Defnyddiwch y gyllideb dempled sydd wedi’i darparu i roi manylion treuliau fel criw, llogi offer, trwyddedu cerddoriaeth, ac unrhyw adnoddau angenrheidiol eraill. 

Dyddiad Cau Cyflwyno Cais: Dydd Mercher 8 Mai 2024.  

Cyfweliadau: Wedi'u trefnu ar gyfer yr wythnos yn dechrau 13 Mai 2024. 

Cyn-gynhyrchu: Gwanwyn/Haf 2024. 

Gweithdai Hyfforddi ar gyfer Cyfranogwyr Profiad Gwaith (X5): Haf 2024. Bydd y Cydlynydd Ymgysylltu Cymunedol a'r Swyddog Gweithredol Sgiliau yn recriwtio gwirfoddolwyr i'r diben hwn. 

Cynhyrchu ac Ôl-gynhyrchu: Haf 2024. 

Dangosiad Cymunedol gyda Chymorth Tîm Sgiliau Ffilm Cymru: Hydref 2024 (Rhaid cyflwyno erbyn mis Tachwedd 2024). 

Gwybodaeth Ychwanegol

Caiff y prosiect hwn ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chyllid ychwanegol ar gyfer hyfforddiant Wedi’i wneud yn bosibl gyda chymorth Ffilm Cymru Wales a RHWYDWAITH BFI gyda chyllid gan y Loteri Genedlaethol. 

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn elfen ganolog o agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar draws y DU i’w fuddsoddi’n lleol erbyn mis Mawrth 2025. Mae'r swydd hon yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.  

Ffilm Cymru Wales

Ffilm Cymru Wales yw’r asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilmiau yng Nghymru. Ymrown i hyrwyddo a chynnal diwydiant ffilmiau cryf i Gymru; un y gallwn oll fod yn falch o ddweud ei bod yn perthyn i ni. Gwnawn hyn drwy ddarparu cyllid a hyfforddiant i wneuthurwyr ffilmiau addawol a sefydledig o Gymru, cynnig profiadau sinematig cyffrous i gynulleidfaoedd ledled Cymru, a datblygu sgiliau a llwybrau gyrfa newydd drwy amryw raglenni hyfforddiant.

Troed yn y Drws: Casnewydd

Mae Ffilm Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Casnewydd dros nifer o flynyddoedd i gynnig cyfleoedd hyfforddi creadigol i drigolion Casnewydd.  Yn 2022 dyfarnwyd cyllid i Ffilm Cymru Wales, mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, gan Gronfa Adfywio Cymunedol y DU i gyflawni eu prosiect Troed yn y Drws mwyaf ei faint a’r mwyaf uchelgeisiol hyd hynny, gan roi cyfle i bobl o ardal Casnewydd roi hwb i'w gyrfaoedd creadigol gyda chyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth ym maes ffilm a theledu.

nest of SPF Newport logos