annes elwy looks at a piece of broken glass

Bankside Films yn dewis Gwledd gan Lee Haven Jones cyn gwyl rithiol Cannes 2020

Heddiw bu i Bankside Films gyhoeddi mai nhw fydd yn gweithredu fel asiant gwerthu i Gwledd, y ffilm gyntaf i Lee Haven Jones ei chyfarwyddo.

Ysgrifennwyd y ffilm arswyd gyfoes Gymraeg, Gwledd, gan Roger Williams, sydd hefyd yn cynhyrchu drwy gwmni Joio.

Mae Haven Jones, sydd wedi ennill gwobrau BAFTA-Cymru, yn adnabyddus fel cyfarwyddwr teledu ac mae ei waith yn cynnwys penodau o Doctor Who, The Bay a Vera.

Sêr y ffilm yw Annes Elwy (Little Women), Nia Roberts (Under Milk Wood), Julian Lewis Jones (Justice League), Steffan Cennydd (Last Summer) a Sion Alun Davies (The Left Behind).

Cynhyrchwyd y ffilm drwy fenter Cinematic Ffilm Cymru Wales. Fe’i cefnogir gan S4C, y BFI (defnyddio arian o'r Loteri Genedlaethol), Fields Park a Great Point Media mewn cysylltiad â Melville Media.

Ffilm Gymraeg yw Gwledd sy’n adrodd hanes noson yng nghwmni teulu cyfoethog wrth iddynt ddod ynghyd i giniawa yn eu tŷ rhwysgfawr yng nghanol mynyddoedd Cymru. Gŵr busnes lleol a chymydog o ffermwr yw’r gwesteion, a’r bwriad yw sicrhau bargen i gloddio’r wlad gyfagos.

Pan mae menyw ifanc ddieithr yn cyrraedd i weithredu fel eu gweinyddes am y noson mae gwerthoedd a chredoau’r teulu’n cael eu herio wrth i’w phresenoldeb tawel, hynod aflonyddu ar eu bywydau - yn araf bach, yn gwbl fwriadol a gyda’r canlyniadau mwyaf arswydus.

annes elwy and nia roberts in a kitchen

Meddai Stephen Kelliher o Bankside Films: “‘Rydym wrth ein boddau’n cael cyflwyno’r ffilm ryfeddol hon i gynulleidfaoedd rhyngwladol. Mae Lee Haven Jones a Roger Williams wedi creu byd sinematig tu hwnt o gywrain sy’n syfrdanu gyda’i harddwch, ac ar yr un pryd yn cynnig rhybudd llwm a brawychus yn erbyn trachwant ac ariangarwch. Bydd y ffilm hon yn eich synnu ac yn aros yn eich cof yn hir wedi i chi adael y sinema.”

Meddai’r cynhyrchydd Roger Williams: “‘Rwyf wrth fy modd gweithio gyda’r tîm yn Bankside er mwyn cyflwyno Gwledd i’r byd. Mae’n ffilm sy’n weledol brydferth a’n cynnwys neges drawiadol fydd yn siŵr o ddiwallu anghenion cynulleidfa sy’n awyddus i brofi sinema arbennig o wreiddiol.”

Bydd Bankside yn siarad â’r prynwyr am y prosiect, a’n dangos rhagflas o’r ffilm yn ystod wythnos Rithiol Cannes fydd yn dechrau ar Mehefin 22ain.

annes elwy in the woods