photo of a person having a fake wound applied to them with make-up

Troed yn y Drws: Casnewydd

Troed yn y Drws yw rhaglen hyfforddi lwyddiannus Ffilm Cymru Wales sy’n cynnig cyfleoedd newydd i bobl ddatblygu eu sgiliau trosglwyddadwy i greu gyrfaoedd creadigol. 

foot in the door logo

Ers 2016, mae Troed yn y Drws wedi gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru, gan gynnwys cymdeithasau tai, canolfannau gwaith ac awdurdodau lleol, i ddarparu lleoliadau hyfforddi i newydd-ddyfodiaid ar gynyrchiadau ffilm a theledu lleol, yn ogystal â chymorth ar gyfer hygyrchedd, trafnidiaeth a gofal plant.

Yn 2022 dyfarnwyd cyllid i Ffilm Cymru Wales, mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, gan Gronfa Adfywio Cymunedol y DU i gyflawni eu prosiect Troed yn y Drws mwyaf ei faint a’r mwyaf uchelgeisiol hyd hynny, gan roi cyfle i bobl o ardal Casnewydd roi hwb i'w gyrfaoedd creadigol gyda chyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth ym maes ffilm a theledu.

Gan ddwyn grwpiau cymunedol lleol, sefydliadau hyfforddi a chyflogwyr o’r diwydiant ynghyd, dyma gyflawniadau Troed yn y Drws: Casnewydd:

  • Dros 1,000 o bobl yn cymryd rhan mewn...
  • 70 o ddosbarthiadau meistr, hyfforddiant ymarferol a chyfleoedd cyflogaeth, gan gynnwys 15 o leoliadau profiad gwaith ar set cynyrchiadau fel Sex Education, Netflix, a Ten Dates, Good Gate Media.
  • Siop dros dro am gyfnod o fis yng nghanol Casnewydd i bobl ddysgu am gyfleoedd yn y diwydiant ffilm a theledu.

Cewch weld mwy yn ein ffilm ddathlu - Troed yn y Drws: Casnewydd.

fitd infographic

Pobl

Gwnaeth Troed yn y Drws:  Casnewydd lwyddo i gynnwys dros 1,000 o bobl leol mewn cyfleoedd hyfforddi a chamau i ddarparu arweiniad gwerthfawr am y diwydiant ffilm a theledu; cewch wylio a darllen am eu profiadau yn yr astudiaethau achos hyn:

Partneriaethau

Daeth Ffilm Cymru Wales â 35 o sefydliadau creadigol, hyfforddiant a chymunedol at ei gilydd fel rhan o brosiect Troed yn y Drws: Casnewydd; cewch wybod  mwy am rai o'r partneriaethau ffrwythlon hynny fan yma.

Prosiectau

Yn ogystal â darparu cyfleoedd hyfforddi a lleoliadau profiad gwaith ar set, gwnaeth Troed yn y Drws: Casnewydd helpu i greu prosiectau ffilmiau byrion gan roi’r ffocws ar gymunedau lleol bywiog Casnewydd. Cewch weld y ffilmiau fan yma.

Shifft Sgrin

Ym mis Rhagfyr 2022, estynnom wahoddiad i westeion o bob rhan o sectorau creadigol a sgiliau Cymru i fyfyrio ar lwyddiannau a’r hyn a ddysgwyd o’r prosiect, ac edrych ymlaen at ddyfodol byd ffilmiau yng Nghasnewydd yn ein digwyddiad Shifft Sgrin.

Dan arweiniad Priya Hall yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Casnewydd, roedd digwyddiadau’r diwrnod yn cynnwys trafodaethau gyda phanel o arbenigwyr, sesiynau adborth rhyngweithiol a dangosiadau cyntaf o ffilmiau a grëwyd yn ystod y prosiect. 

priya hall speaking from a lectern in front of a screen featuring the Foot in the Door Logo.

Ein Partneriaid Cyflenwi

  • Sgil Cymru
  • Screen Alliance Wales
  • CULT Cymru / BECTU
  • Urban Circle
  • University of South Wales
  • Pobl Housing
  • Coleg Gwent
newport city council logo

Cronfa Adnewyddu Cymunedol Y DU

Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU. Rhaglen gan Lywodraeth y DU ar gyfer 2021/22 yw Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU, a’i nod yw cefnogi’r bobl a’r cymunedau mwyaf anghenus ledled y DU i dreialu rhaglenni a dulliau newydd o baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, cymuned a lle, ac mewn busnesau lleol, ac hefyd yn paratoi pobl ar gyfer y byd gwaith. Am ragor o wybodaeth ewch i.

uk government wales logo