still from jelly featuring two people standing in a cave and holding hands while they look at a welsh flag on the wall, decorated with fairy lights

Sesiynau un-i-un Beacons 2023

Mae'r sesiynau un-i-un anffurfiol hyn ar gael i wneuthurwyr ffilmiau sy'n chwilio am arweiniad penodol wrth wneud cais i gronfa ffilmiau byrion Beacons.

Mae’r sesiynau’n para hyd at 20 munud ac yn cael eu cynnal dros y ffôn neu drwy alwad fideo. Byddant yn cael eu cynnal yn Gymraeg.

Nid oes angen i chi baratoi unrhyw beth ymlaen llaw. Ni fydd ein tîm yn gallu adolygu deunyddiau’r cais, fel sgriptiau, pitch decks neu gyllidebau. Yn syml, dewch â'ch cwestiynau am y broses ymgeisio.

Gan mai nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael, noder:

  • Cyn cofrestru, rydym yn argymell eich bod yn cymryd golwg ar y Canllawiau, y Cwestiynau Cyffredin a'r adnoddau pellach sydd ar gael ar ein gwefan. Efallai y bydd eich cwestiynau eisoes wedi’u hateb yn y dogfennau yma.
  • Mae cymorth ac addasiadau pellach ar gael os ydych chi’n F/fyddar, â nam ar eich clyw, yn anabl, yn niwroamrywiol neu â nam ar eich golwg. Cysylltwch â ni drwy e-bost neu dros y ffôn (gweler y manylion cyswllt ar ein gwefan) cyn gynted â phosibl i drafod eich gofynion yn gyfrinachol. 
  • Mae'r sesiynau un-i-un hyn ar gael i’r rhai nad ydyn nhw eisoes wedi cael sgwrs gyda thîm RHWYDWAITH BFI Cymru. Os ydych eisoes mewn cysylltiad â ni, anfonwch e-bost.